Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fel Cadeirydd newydd Pwyllgor Deintyddol Cymru, rwy'n falch iawn o gyflwyno'r pwyllgor i'r proffesiwn deintyddol gyda'r cylchlythyr hwn. Ym mis Mawrth 2024, fe wnaethom adolygu pwrpas a nodau'r pwyllgor a phwysleisio mai un o'n swyddogaethau allweddol yw cyfathrebu a lledaenu gwybodaeth. O hyn ymlaen, byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar ein gwaith trwy'r cylchlythyr hwn. Diolch am ddarllen!

Adam Porter - Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru.

Datganiad cenhadaeth newydd ar gyfer 2024

Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn darparu dealltwriaeth a chyngor proffesiynol arbenigol i Weinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru, gan roi cyd-destun o’r byd go iawn i lywio a llunio polisïau. Gan gynrychioli'r proffesiwn yn gynhwysfawr, mae'r pwyllgor yn darparu llwybr ffurfiol i ystod amrywiol o randdeiliaid gydweithio a lledaenu gwybodaeth, er mwyn sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau deintyddol yng Nghymru, a gwella iechyd y geg ymhlith poblogaeth Cymru.

Pwyllgorau cynghori

Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn un o saith pwyllgor cynghori statudol annibynnol ar gyfer iechyd yng Nghymru. Mae'r pwyllgorau cynghori eraill yn cynrychioli meddygaeth, fferylliaeth, optometreg, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, nyrsio a bydwreigiaeth, a chyngor gwyddonol.

Cynrychioli'r proffesiwn deintyddol

Rhan o'n cenhadaeth yw "cynrychioli'r proffesiwn deintyddol yn gynhwysfawr". Mae hyn yn golygu bod angen i ni sicrhau cynrychiolaeth ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru, ond hefyd ar gyfer pob math o wasanaeth deintyddol: gofal sylfaenol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS), deintyddiaeth gymunedol, gofal eilaidd, a gofal arbenigol.

Yn benodol, rydym yn gweithio'n galed i sicrhau cynrychiolaeth gref i'r tîm deintyddol cyfan, gan gynnwys yr holl broffesiynau deintyddol a gynrychiolir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Aelodau rhanbarthol

Mae ein haelodaeth yn cynnwys aelodau rhanbarthol sy'n cynrychioli pob un o'r byrddau iechyd a'r pwyllgorau deintyddol lleol yng Nghymru.

Aelodau cenedlaethol

Mae gennym hefyd aelodau cenedlaethol sy'n cynrychioli Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, Pwyllgor Ymarfer Deintyddol Cyffredinol Cymru, Pwyllgor Deintyddion Cymunedol Cymru, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, Iechyd Cyhoeddus Deintyddol, y Fforwm Cynghori Arbenigol, Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd, AaGIC, a Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol.

Gofal sylfaenol gwyrddach

Hoffai Pwyllgor Deintyddol Cymru dynnu sylw at y gynrychiolaeth gref o bractisau deintyddol yn y rhestr o wobrau yn adroddiad diweddar Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Enillodd Brackla Dental Surgery, Greenacre Orthodontics, North Cardiff Dental and Implants a Vale View Dental Care wobrau Aur.

Cafodd Talbot Road Dental Practice ac Y Bont Faen Dental Centre wobrau Arian. Cafodd Cwtch Dental Care wobr Efydd.

Roedd yna hefyd Wobr Arwr Cynaliadwyedd i Flo King o North Cardiff Dental and Implants, a Gwobr Arloesi ar gyfer Ymgysylltu i Greenacre Orthodontics, Cei Connah.

Hoffem longyfarch yr holl bractisau ac unigolion hyn am eu gwaith cryf ym maes cynaliadwyedd, ac annog practisau eraill i ddefnyddio Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Darparu Gofal Iechyd Cynaliadwy

Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd Penaethiaid Proffesiwn Llywodraeth Cymru eu datganiad sefyllfa. Roedd y datganiad yn cynnwys galwad am weithredu, gan argymell bod pob ymarferydd iechyd yn cefnogi gweithredu ar newid hinsawdd yn eu sefydliad trwy hyrwyddo arfer cynaliadwy ar bob lefel o ddarparu gofal. Mae hefyd yn gofyn i ymarferwyr gefnogi eu cydweithwyr yn hyn o beth. Trwy flaenoriaethu cynaliadwyedd amgylcheddol, gall staff gofal iechyd greu dyfodol iachach i gleifion a'r blaned. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen ymateb gofalus a chydweithredol arnom i fynd i'r afael â'r heriau lleol, cenedlaethol a byd-eang y mae ein systemau iechyd a gofal yn eu hwynebu.

Am wastraff!

Ystyriodd Pwyllgor Deintyddol Cymru ddatganiad y Penaethiaid Proffesiwn yn ein cyfarfod diweddaraf, ynghyd â dogfen Comisiwn Bevan yn 2023 "Am Wastraff!" sy'n rhannu gwastraff mewn gofal iechyd yn 6 chategori:

W – Y gweithlu (trosiant staff, swyddi gwag)
A - Gweinyddu (digidol, apwyntiadau, cyfathrebu) 
S – Gwasanaethau (glanhau, offer) 
T - Triniaeth (meddyginiaeth, gwallau, triniaeth amhriodol) 
E – Ynni (trafnidiaeth, adeiladu, cyfleustodau)
S - Systemau (technoleg, atgyfeirio amhriodol)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu safbwyntiau am waith Pwyllgor Deintyddol Cymru, cysylltwch â CommitteeSecretariat1@llyw.cymru.