Cylchlythyr demograffeg Ystadegau Cymru: Rhagfyr 2024
Cylchlythyr Rhagfyr 2024 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ar yr ystadegau diweddaraf am boblogaeth, mudo, cartrefi a’r Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol: seiliedig ar 2022
Ar 28 Ionawr 2025, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn bwriadu cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Datganiad amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol llawn yw hwn sy'n defnyddio'r data poblogaeth diweddaraf sydd ar gael gan gynnwys data o Gyfrifiad 2021 a rhagdybiaethau newydd ar gyfer ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo, gan ddarparu ystod o amcanestyniadau amrywiol. Y boblogaeth sylfaen fydd poblogaeth canol 2022.
Yn wreiddiol, roedd yr amcanestyniadau hyn i'w rhyddhau ym mis Tachwedd ond maent wedi eu gohirio tan 28 Ionawr 2025. Bydd hyn yn caniatáu rhagor o amser i ddefnyddio'r ffynonellau data diweddaraf sy'n llywio rhagdybiaethau am gydrannau'r newid yn y boblogaeth yn y dyfodol yn yr amcanestyniadau. Mae'r gohiriad hefyd yn caniatáu digon o amser i gwblhau camau sicrwydd ansawdd pellach ar yr amcanestyniadau sy'n defnyddio'r data ychwanegol hyn.
Hyd nes y cyhoeddir y datganiad, argymhellir eich bod yn parhau i ddefnyddio'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim seiliedig ar 2021 (SYG).
Amcangyfrifon aelwydydd: canol 2023
Ar 11 Rhagfyr, rydym wedi cyhoeddi'r amcangyfrifon aelwydydd diweddaraf ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer canol 2021 i ganol 2023, yn ogystal ag ôl-gyfres ddiwygiedig o ganol 2012 i ganol 2020 yn dilyn Cyfrifiad 2021.
Bydd ein cyhoeddiad yn cynnwys dadansoddiad o amcangyfrifon aelwydydd yn ôl math o aelwyd, poblogaeth, oedran a rhyw. Bydd tablau StatsCymru yn cael eu diweddaru gyda'r setiau data llawn.
Amcanestyniadau is-genedlaethol
Rydym yn bwriadu cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol ac amcanestyniadau aelwydydd is-genedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yn ystod haf 2025. Bydd hyn yn dilyn cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol seiliedig ar 2022 gan y SYG ym mis Ionawr 2025.
Er mwyn ein helpu i gynllunio ar gyfer y set nesaf o amcanestyniadau is-genedlaethol, rydym yn gofyn i ddefnyddwyr roi eu barn ynghylch ein hamcanestyniadau, a'r hyn yr hoffent ei weld yn y cyhoeddiad nesaf. Rydym am glywed gan gynifer ohonoch ag sy'n bosibl felly os hoffech roi gwybod i ni am eich syniadau, cysylltwch â ni ar ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru i gael ein holiadur defnyddwyr.
Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU: canol 2023
Ar 8 Hydref, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer canol 2023 ar gyfer y DU. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi amcangyfrifon canol 2023 ar gyfer Cymru a Lloegr (a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf) (SYG), ac yn ymgorffori amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchwyd gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchwyd gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban.
Amcangyfrifon o'r boblogaeth hen iawn
Ar 1 Hydref, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon o'r boblogaeth hen iawn, gan gynnwys y rhai dros gant oed, ar gyfer Cymru a Lloegr rhwng 2002 a 2023. Mae'r dadansoddiad hwn yn darparu amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn blynyddol ar gyfer pobl sy'n 90 oed neu'n hŷn yn ôl rhyw ac oedran blwyddyn unigol hyd at 105 oed ac yn hŷn. Cynhyrchwyd setiau data ar gyfer Cymru a Lloegr ar wahân yn ogystal ag ar y cyd.
Tablau bywyd cenedlaethol: 2021 i 2023
Ar 23 Hydref, cyhoeddodd y SYG dablau bywyd cenedlaethol ar gyfer 2021 i 2023, ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r rhain yn dangos tueddiadau o ran disgwyliad oes, yn ôl oedran a rhyw, ar gyfer y cenhedloedd (ar y cyd ac ar wahân).
Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach ar gyfer Cymru a Lloegr: canol 2012 i ganol 2020
Ar 25 Tachwedd, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach wedi'u hailsylfaenu ar gyfer canol 2012 i ganol 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd cynnyrch ehangach, daearyddiaethau iechyd, wardiau etholiadol ac etholaethau seneddol.
Bydd tablau StatsCymru ardal bach yn cael eu diweddaru yn y man.
Mudo rhyngwladol hirdymor y DU, dros dro: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024
Ar 28 Tachwedd, cyhoeddodd y SYG ffigurau mudo rhyngwladol hirdymor dros dro ar gyfer y DU. Mae hyn yn cwmpasu'r cyfnod o'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2012 hyd at y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024, ac mae rhai diwygiadau yn cael eu gwneud i ddata'r blynyddoedd blaenorol.
Dim ond ar lefel y DU y bydd y ffigurau ar gael - ewch i'r tablau cydrannau newid ar StatsCymru i weld yr amcangyfrifon mudo diweddaraf ar gyfer Cymru.
Amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol
Ar 22 Tachwedd, cyhoeddodd y SYG astudiaethau achos o'r amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yng Nghymru a Lloegr. Bydd yr astudiaethau achos hyn yn helpu i egluro'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol a'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol ar gyfer yr ardaloedd hyn. Mae Caerdydd wedi ei dewis yn un o'r astudiaethau achos.
Yn ogystal â hyn, cyhoeddodd y SYG ei chynllun gweithredu mewn ymateb i asesiad y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau o amcangyfrifon poblogaeth y SYG sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol. Mae'n amlinellu ei chynllun gwaith i ymdrin ag argymhellion y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ynghylch amcangyfrifon y SYG sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol, y mae'r SYG yn bwriadu eu gwneud yn amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol o haf 2025 ymlaen.
Diweddariad chwarterol ar Ystadegau Poblogaeth a Mudo: Hydref 2024
Ar 28 Hydref, cyhoeddodd y SYG eu diweddariad ar ystadegau poblogaeth a mudo diweddaraf. Mae'n amlinellu ei gwaith o ran gwella'r ffordd y mae'n amcangyfrif poblogaeth a mudo, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau a chynnydd yr SYG.
Ystadegau'r Gymraeg
I gael gwybodaeth am ystadegau am y Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.