Cylchlythyr demograffeg Ystadegau Cymru: Rhagfyr 2023
Cylchlythyr Rhagfyr 2023 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ar yr ystadegau diweddaraf am boblogaeth, mudo, cartrefi a’r Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn: 2022
Ar 23 Tachwedd, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer 2022. Mae tudalen Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud yn benodol ag amcangyfrifon poblogaeth Cymru hefyd ar gael.
Prif bwyntiau
- Ar 30 Mehefin 2022, amcangyfrifwyd yr oedd tua 3,132,000 o bobl yn byw yng Nghymru, cynnydd o 0.8% ers canol 2021 (tua 26,000 yn fwy o bobl).
- Mae'r cynnydd yn y boblogaeth rhwng canol 2021 a chanol 2022 wedi'i yrru’n bennaf gan gynnydd mewn mudo rhyngwladol net.
- Yn y flwyddyn hyd at ganol 2022, amcangyfrifir bod mudo rhyngwladol net i Gymru tua 21,900 o gymharu â thua 5,400 yn y flwyddyn hyd at ganol 2021.
- Yn y flwyddyn hyd at ganol 2022, roedd mwy o farwolaethau na genedigaethau yng Nghymru o hyd.
- Bu tua 35,700 o farwolaethau yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at ganol 2022, ychydig yn llai nag yn y flwyddyn hyd at ganol 2021. Roedd tua 29,100 o enedigaethau yn y flwyddyn hyd at ganol 2022, a oedd yn gynnydd o 1,100 o gymharu â’r flwyddyn hyd at ganol 2021.
Poblogaeth yn ôl oedran
- Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig dros un ymhob pump (21.5%, neu 674,000 o bobl) o boblogaeth Cymru yng nghanol 2022.
- Roedd 60.9% o'r boblogaeth yn 16 i 64 oed yng nghanol 2022 (tua 1,909,000 o bobl).
- Plant a phobl ifanc 0 i 15 oed oedd yn cyfrif am y 17.5% arall o'r boblogaeth oedd yn weddill yng nghanol 2022 (549,000 o blant a phobl ifanc).
Poblogaeth yn ôl ardal
- Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi tyfu ym mhob un ond un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru rhwng canol 2021 a chanol 2022, gyda'r cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd (cynnydd o 3.4%), Abertawe (cynnydd o 1.4%) a Cheredigion (cynnydd o 1.3%).
- Conwy ydy'r unig awdurdod lleol yr amcangyfrifir bod ei boblogaeth wedi gostwng rhwng canol 2021 a chanol 2022 (gostyngiad o 0.4%).
Sylwch fod dulliau ar gyfer mesur mudo rhyngwladol yn cael eu datblygu ac mae'r SYG wedi diweddaru amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol o fudo rhyngwladol ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben mis Mehefin 2022. Hefyd, roedd gan y data a ddefnyddiwyd i gynhyrchu amcangyfrifon mudo mewnol ar gyfer 2022 faterion ansawdd nad ydynt wedi'u datrys yn llawn. Os caiff y rhain eu datrys yn llawnach, caiff amcangyfrifon o newid yn y boblogaeth leol eu hadolygu. Ceir rhagor o wybodaeth yn natganiad y SYG: Ymchwil mudo rhyngwladol, diweddariad cynnydd: Tachwedd 2023.
Mae'r SYG yn bwriadu rhyddhau set lawn o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer canol 2022 ym mis Chwefror 2024. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchwyd gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchwyd gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS).
Amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu: 2012 i 2021
Ar 23 Tachwedd, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer 2012 i 2021. Mae'r cyhoeddiad hwn yn defnyddio data Cyfrifiad 2021 i ailsylfaenu'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn a drosglwyddwyd yn wreiddiol o Gyfrifiad 2011. Bydd ein tudalen StatsCymru yn cael ei diweddaru maes o law i adlewyrchu'r newidiadau hyn.
Yr amcangyfrifon mudo diweddaraf a diwygiedig
Yn ogystal â'r cyhoeddiadau uchod, ar 23 Tachwedd, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer ystadegau mudo rhyngwladol y DU ar gyfer 2012 i 2021 ac amcangyfrifon ar gyfer ystadegau mudo rhyngwladol hirdymor y DU ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023.
Mae gwybodaeth ategol gan gynnwys y fethodoleg a diweddariadau ymchwil hefyd wedi'u cyhoeddi ochr yn ochr â'r datganiadau hyn:
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol
Mae’r SYG wedi datgan y bydd amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi. Y dyddiadau dros dro ar gyfer cyhoeddi'r rhain yw:
- Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim ar sail 2021 (gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 a'r amcangyfrifon diweddaraf ar fudo rhyngwladol a rhagdybiaethau newydd o ran mudo rhyngwladol) - Ionawr 2024 (dros dro)
- Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar sail 2022 (gan ddefnyddio data'r cyfrifiad diweddaraf, gan gynnwys data o'r Alban, rhagdybiaethau newydd ac ystod o amrywiadau) - Hydref / Tachwedd 2024 (dros dro)
Rydym yn bwriadu cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol wedi'u diweddaru ar gyfer awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yng Nghymru cyn gynted â phosibl, ar ôl i’r SYG gyhoeddi'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru yn 2022.
Ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr
Daeth ymgynghoriad y SYG ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr i ben ar 26 Hydref.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ymateb i'r ymgynghoriad hwn, ac roedd llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at yr Ystadegydd Cenedlaethol, Syr Ian Diamond, yn cyd-fynd â'r ymateb. Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ochr yn ochr â'r llythyr hefyd.
Gellir cael copi o ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad drwy anfon e-bost at ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.
Ystadegau'r Gymraeg
I gael gwybodaeth am Ystadegau'r Gymraeg, gweler Diweddariad chwarterol ystadegau Cymru.
Manylion cyswllt
Martin Parry
Rhif ffôn: 0300 025 0373
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099