Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon aelwydydd: canol 2020

Cyhoeddwyd amcangyfrif canol blwyddyn 2020 o aelwydydd Llywodraeth Cymru ar 23 Medi. Mae’r amcangyfrifon aelwydydd yn defnyddio data o’r cyfrifiadau poblogaeth mwyaf diweddar i gyfrifo cyfraddau ffurfio aelwydydd, ac yn eu cymhwyso i amcangyfrifon poblogaeth cyfredol.

Prif bwyntiau

  • Rhwng canol 2019 a chanol 2020, cynyddodd nifer yr aelwydydd a amcangyfrifwyd yng Nghymru tua 9,520 (neu 0.7%), i 1.38 miliwn, a hynny yn sgil y cynnydd mewn aelwydydd un person i raddau helaeth.
  • Ers inni ddechrau cyhoeddi amcangyfrifon o aelwydydd yn 1991, mae'r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd wedi cynyddu 23.8%, ac ers 2011, mae wedi cynyddu 5.7%.
  • Gwelwyd cynnydd yn nifer yr aelwydydd a amcangyfrifwyd ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru rhwng canol 2019 a chanol 2020.
  • Ar lefel Cymru, cynyddodd y nifer yr amcangyfrifir eu bod yn byw ar aelwydydd preifat (neu’r 'boblogaeth aelwydydd') tua 16,500 (0.5%) i 3.1 miliwn.
  • Yng nghanol 2020, maint cyfartalog aelwydydd yng Nghymru oedd 2.26 person o’i gymharu â 2.52 yng nghanol 1991.

Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018: aelwydydd un person

Ar 22 Hydref, cyhoeddwyd ciwb arall ar StatsCymru gyda data o’r amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018, yn benodol ar gyfer aelwydydd un person (StatsCymru). Mae ar gael yn ôl oedran a rhyw, ar gyfer yr holl amrywiolion sydd wedi cael eu cynhyrchu.

Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd bach a pharciau cenedlaethol: canol 2020

Ar 16 Medi, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) Amcangyfrifon poblogaeth yn ôl ardaloedd cynnyrch, daearyddiaethau etholiadol, iechyd a daearyddiaethau eraill, Cymru a Lloegr: canol 2020 (ONS). Mae amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd bach (StatsCymru) a pharciau cenedlaethol (StatsCymru) wedi cael eu diweddaru ar StatsCymru i adlewyrchu’r data diweddaraf.

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2020

Disgwylir i ONS gyhoeddi set interim o amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2020 ar gyfer Cymru a gwledydd y DU (ONS) ar 12 Ionawr 2022.

Gohiriwyd y cyhoeddiad hwn (ar 6 Rhagfyr) i ganiatáu digon o amser i ddefnyddio’r data gorau a diweddaraf sydd ar gael ar farwolaethau, sy’n rhoi’r amcanestyniadau o’r ansawdd gorau a pherthnasol drwy gydol y cyfnod amcanestyniadau dilynol. Mae ONS wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i ddeall eu hamserlenni ar gyfer cynlluniau i ddefnyddio’r ystadegau hyn ymhellach ac yn anelu at leihau effeithiau andwyol o ganlyniad i’r oedi.

Cyfrifiad 2021

Yn dilyn ymgynghoriad diweddar ONS ar allbynnau Cyfrifiad 2021 (ONS), maent wedi cyhoeddi blog sy’n amlinellu’r camau nesaf cyn rhyddhau data’r Cyfrifiad (ONS).

Mae awdurdodau lleol wedi cael gwahoddiad i gynorthwyo â’r gwaith o sicrhau ansawdd amcangyfrifon cyfrifiad dros dro am y tro cyntaf. Ceir rhagor o wybodaeth am gynlluniau ONS (Cyflawni'r Llywodraeth).

Ym mis Rhagfyr eleni, bydd ONS yn cyhoeddi ymateb cychwynnol i’r adborth ar yr ymgynghoriad y maent wedi’i dderbyn. Bwriedir cyhoeddi’r canlyniadau cyntaf o’r Cyfrifiad ddiwedd gwanwyn 2022.

Ar 4 Hydref, cyhoeddodd ONS ddau adroddiad ar ddylunio a chyflenwi cyfrifiad digidol. Mae’r adroddiad Dylunio cyfrifiad digidol yn gyntaf (ONS) yn edrych ar sut y dyluniodd ONS gyfrifiad digidol yn gyntaf i wneud yn siŵr y gallai pawb gymryd rhan, a’r ymateb i hyn. Mae’r adroddiad Cyflenwi gwasanaeth digidol Cyfrifiad 2021 (ONS) yn edrych ar sut yr adeiladwyd yr agweddau technegol ar wasanaeth digidol Cyfrifiad 2021, ar gyfer buddiannau gweithwyr proffesiynol digidol.

Ystadegau Mudo a’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Ar 25 Tachwedd, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ystadegau chwarterol y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (Swyddfa Gartref). Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn fanwl ar gyfanswm y ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE rhwng dechrau’r cynllun a 30 Medi 2021. Mae’r ystadegau hyn yn arbrofol (ONS), sy’n golygu eu bod ar ganol cael eu datblygu a’u gwerthuso.

Prif bwyntiau

  • Cwblhawyd 96,600 o geisiadau yng Nghymru, yr oedd ychydig o dan chwarter ohonynt o Gaerdydd
  • O’r ceisiadau a gwblhawyd yng Nghymru, derbyniodd 57% statws preswylydd sefydlog a 37% statws preswylydd cyn-sefydlog
  • Ar gyfer y DU gyfan, cwblhawyd 5.82 miliwn o geisiadau i’r cynllun, y derbyniodd 52% ohonynt statws preswylydd sefydlog, a 42% statws preswylydd cyn-sefydlog

Cyhoeddodd ONS ddau gyhoeddiad ar 25 Tachwedd yn ymdrin â mudo rhyngwladol, yn ogystal â sawl blog a gyhoeddwyd ar 26 Tachwedd sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am drawsnewid ystadegau poblogaeth a mudo.

Dyluniad ystadegol mudo rhyngwladol: adroddiad cynnydd (ONS).

Poblogaeth y DU yn ôl gwlad enedigol a chenedligrwydd (ONS): Diweddariad gyda data ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2021 yn defnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu i ddarparu amcangyfrifon poblogaeth yn ôl gwlad enedigol a chenedligrwydd. Amcangyfrifwyd bod y boblogaeth sydd heb ei geni yn y DU yng Nghymru rhwng 170,000 a 205,000 yn y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2021, sy’n eithaf tebyg i flynyddoedd diweddar. Mae’r data hwn ar gael ar lefel awdurdod lleol.

Mudo rhyngwladol hirdymor, dros dro (ONS): Cyhoeddiad newydd gyda data ar lefel y DU ar amcangyfrifon mudo a gynhyrchwyd yn defnyddio modelu ystadegol. Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i ddynodi’n ystadegau arbrofol (ONS).

Ystadegau’r Gymraeg

Am wybodaeth ynghylch ystadegau’r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.

Cyswllt

Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.