Cylchlythyr demograffeg Ystadegau Cymru: Mehefin 2023
Cylchlythyr Mehefin 2023 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ar yr ystadegau diweddaraf am boblogaeth, mudo, cartrefi a’r Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y gofrestr etholiadol
Ar 20 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bennawd ystadegol ynghylch ystadegau’r gofrestr etholiadol ar gyfer Cymru yn 2022.
Cyfrifon blynyddol o nifer y bobl sydd wedi eu cofrestru ar gofrestrau etholiadol, ac felly â'r hawl i bleidleisio, yw ystadegau etholiadol. Mae ystadegau’r gofrestr etholiadol ar gyfer etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig (DU) ac etholiadau llywodraethau lleol y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)) (Saesneg yn unig) ar gael ar wefan y SYG.
Mae’r SYG wedi nodi nad yw’r ystadegau hyn yn adlewyrchu’r newidiadau i feini prawf cymhwysedd ar gyfer etholiadau Seneddol nac etholiadau llywodraethau lleol yng Nghymru ers 2020. O ganlyniad, nid yw cofrestriadau etholiadol llywodraeth leol ar gyfer unigolion sy’n cael eu pen-blwydd yn 16 oed a 15 oed, yng Nghymru, wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn. O ganlyniad, nid ydym wedi cyhoeddi etholwyr y Senedd na llywodraethau lleol yng Nghymru, ac nid ydym wedi gallu diweddaru ein tablau StatsCymru.
Pwyntiau allweddol
- Cyfanswm nifer etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig a oedd wedi cofrestru i bleidleisio ar 1 Rhagfyr 2022 yng Nghymru oedd 2,304,700.
- Mae hyn yn ostyngiad o 0.1% rhwng 1 Rhagfyr 2021 ac 1 Rhagfyr 2022, ac yn ostyngiad o 0.8% o'r nifer fwyaf a gofnodwyd ar 2 Mawrth 2020.
- Bu gostyngiad o 0.2% rhwng 1 Rhagfyr 2021 ac 1 Rhagfyr 2022 i gyfanswm nifer etholwyr seneddol y DU a oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU.
Cyfrifiad 2021
Mae SYG wedi parhau â'i dadansoddiad o ddata Cyfrifiad 2021. Mae hyn yn cynnwys y dadansoddiad a gyhoeddwyd o:
- mudo rhyngwladol byrdymor (SYG) (Saesneg yn unig)
- poblogaeth myfyrwyr rhyngwladol (SYG) (Saesneg yn unig)
- y boblogaeth hŷn (SYG) (Saesneg yn unig)
- pobl ag ail gyfeiriad (SYG) (Saesneg yn unig)
- teuluoedd (SYG) (Saesneg yn unig)
- priodasau (SYG) (Saesneg yn unig)
- teuluoedd ac aelwydydd yn y DU (SYG) (Saesneg yn unig)
- nodweddion aelwydydd yn ôl deiliadaeth a daearyddiaeth is-genedlaethol (SYG) (Saesneg yn unig)
- ystadegau poblogaeth a mudo, pwy ddylem ni eu cyfrif? (SYG) (Saesneg yn unig)
Mae'r cyhoeddiadau sydd i ddod yn cynnwys:
- amcangyfrifon ar gyfer y bobl hen iawn, gan gynnwys y bobl canmlwydd oed (SYG) (rhwng Mai a Mehefin) (Saesneg yn unig)
- deall mudo rhyngwladol dros y degawd rhwng 2011 a 2021
Mudo rhyngwladol hirdymor
Ar 25 Mai, rhyddhaodd yr SYG amcangyfrifon arbrofol ac amodol ar gyfer ystadegau mudo rhyngwladol y DU (Saesneg yn unig). Roedd yr amcangyfrifon hyn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020 a'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2022.
Pwyntiau allweddol
- Amcangyfrifwyd bod cyfanswm y mewnfudo hirdymor oddeutu 1.2 miliwn yn 2022, ac allffudo yn 557,000, sy'n golygu bod mudo yn parhau i ychwanegu at y boblogaeth gyda mudo net yn 606,000; roedd y rhan fwyaf o’r bobl a gyrhaeddodd y DU yn 2022 yn wladolion y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE) (925,000), ac yna’n wladolion yr UE (151,000) a Phrydeinwyr (88,000).
- Mae pobl sy'n dod i'r DU o wledydd y tu allan i'r UE ar gyfer gwaith, astudio, ac at ddibenion dyngarol, gan gynnwys digwyddiadau unigryw fel y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin a Hong Kong, wedi cyfrannu at lefelau cymharol uchel o fewnfudo dros y 18 mis diwethaf; fodd bynnag, mae twf wedi arafu dros y chwarteri diweddar, gan ddangos o bosibl natur dros dro yr effeithiau hyn.
- Newidiodd cyfansoddiad mewnfudo o'r tu allan i'r UE yn 2022, gyda 39% o bobl yn cyrraedd am resymau'n ymwneud ag astudio, i lawr o 47% yn 2021; cynyddodd y rhai a gyrhaeddodd ar lwybrau dyngarol (gan gynnwys cynlluniau Wcrain) o 9% i 19% dros yr un cyfnod.
- Mae tystiolaeth yn awgrymu bod myfyrwyr fel arfer yn aros am gyfnodau byrrach na mudwyr eraill a bod y mwyafrif yn gadael ar ddiwedd eu hastudiaeth; mae’r data diweddaraf yn dangos bod y rhai a gyrhaeddodd am resymau astudio yn 2021 bellach yn dechrau gadael, gan arwain at gynnydd yng nghyfanswm yr ymfudo o 454,000 yn 2021 i 557,000 yn 2022.
- Mae’r arafu mewn mewnfudo a’r cynnydd mewn allffudo yn golygu bod lefelau mudo net wedi sefydlogi yn y chwarteri diweddar; amcangyfrifir bod 606,000 yn fwy o bobl wedi cyrraedd y DU yn y tymor hir nag a ymadawodd yn y flwyddyn a ddaeth i ben fis Rhagfyr 2022, 118,000 yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, ond yn debyg i lefelau yn y flwyddyn a ddaeth i ben fis Mehefin 2022.
Mae SYG hefyd wedi cyhoeddi diweddariad ar gynnydd ar ymchwil i fudo rhyngwladol (Saesneg yn unig).
Ymgynghoriad amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol
Ar 22 Mai, cyhoeddodd y SYG eu hymateb i'r ymarfer ymgysylltu â defnyddwyr (Saesneg yn unig) ar fethodoleg amcanestyniad marwolaethau newydd (SYG) (Saesneg yn unig) ar gyfer amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Cafodd yr ymarfer ei gynnal rhwng 9 Ionawr ac 20 Chwefror 2023, ac roedd yn rhan o'u strategaeth i adolygu a gwella eu dulliau yn barhaus.
Cynlluniau ar gyfer amcangyfrifon mudo a phoblogaeth yr SYG
Yn sgil materion ansawdd ynghylch rhywfaint o'r data a ddefnyddir ar gyfer yr elfen o fudo mewnol, caiff amcangyfrifon poblogaeth canol 2022 ar gyfer Cymru a Lloegr eu cyhoeddi ym mis Medi yn hytrach nag ym mis Mehefin/Gorffennaf. Mae’r SYG hefyd wedi datgan y bydd yn cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diwygiedig ar gyfer y cyfnod canol 2012 i ganol 2020 ym mis Medi, gan gymryd amcangyfrifon o Gyfrifiad 2021 i ystyriaeth.
Bydd amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig canol 2021 ar gyfer y DU hefyd yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi, tra bod amcangyfrifon poblogaeth o'r Model Poblogaeth Dynamig ar gyfer Cymru a Lloegr wedi'u cynllunio ar gyfer mis Mehefin. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cynlluniau dros dro ar gyfer cyhoeddi'r amcangyfrifon poblogaeth a mudo diweddaraf (SYG) (Saesneg yn unig).
Creu set ddata wedi’i theilwra
Ar 28 Mawrth, cyhoeddodd y SYG luniwr tablau hyblyg ar gyfer data Cyfrifiad 2021. Caiff ei alw hefyd yn adnodd Creu set ddata wedi'i theilwra (SYG) (Saesneg yn unig).
Am y tro cyntaf, mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am ryngweithiadau rhwng pynciau sy'n bwysig iddyn nhw gan adeiladu eu setiau data eu hunain. Mae'r SYG wedi cyhoeddi blog i gyd-fynd â'r adnodd hwn (Saesneg yn unig), sy'n cynnwys fideo byr yn esbonio sut i greu eich setiau data wedi’u teilwra eich hunain.
Ystadegau’r Gymraeg
I gael gwybodaeth am ystadegau'r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.
Manylion cyswllt
Martin Parry
Rhif ffôn: 0300 025 0373
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099