Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon canol blwyddyn o boblogaeth Cymru: 2023

Ar 15 Gorffennaf, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcangyfrifon canol 2023 o boblogaeth Cymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bwletin sy'n crynhoi amcangyfrifon canol 2023 o boblogaeth Cymru. Mae tablau StatsCymru hefyd wedi cael eu diweddaru.

Mae amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 wedi cael eu diwygio gan y SYG i gyfrif am amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudo rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu yr amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru, ganol 2022, bellach yn rhyw 1,000 o bobl yn uwch na'r ffigur a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 23 Tachwedd 2023.

Mae'r amcangyfrifon canol-blwyddyn yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin yn y flwyddyn gyfeirio ac maent yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.

Y prif bwyntiau

Ar 30 Mehefin 2023, amcangyfrifwyd bod tua 3,164,000 o bobl yn byw yng Nghymru, sef cynnydd o 1.0% ers canol 2022, neu tua 32,000 yn fwy o bobl. 

  • Dyma'r un cynnydd canrannol ag a welwyd yn Lloegr rhwng canol 2022 a chanol 2023.
  • Mae'r cynnydd yn y boblogaeth yng Nghymru rhwng canol 2022 a chanol 2023 wedi cael ei sbarduno gan gynnydd mewn mudo rhyngwladol a mewnol net.
  • Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig yn fwy nag un rhan o bump (21.6%, neu 682,000 o bobl) o gyfanswm poblogaeth Cymru yng nghanol 2023.
  • Yr awdurdod lleol â'r cynnydd canrannol mwyaf yn y boblogaeth yng Nghymru rhwng canol 2022 a chanol 2023 oedd Caerdydd, â chynnydd o 3.4%. Hwn oedd y cynnydd mwyaf ond un o holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr rhwng canol 2022 a chanol 2023.

Yn ogystal ag amcangyfrifon canol 2023 o'r boblogaeth, mae'r SYG hefyd wedi cyhoeddi Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg, a diweddariad i'r canllaw ar y fethodoleg (SYG) i gyd-fynd â'r amcangyfrifon swyddogol diweddaraf. Mae hefyd wedi cyhoeddi dadansoddiad ychwanegol ar dueddiadau a phatrymau mewn genedigaethau a ffrwythlondeb (SYG).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â ni ar ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Amcangyfrifon o boblogaeth y DU, Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon: canol 2011 i ganol 2022

Hefyd ar 15 Gorffennaf, cyhoeddodd y SYG dablau data wedi'u diweddaru o amcangyfrifon canol 2011 i ganol 2022 o boblogaeth y DU. Gwnaed hyn yn dilyn rhyddhau Cofnodion Cenedlaethol yr Alban o amcangyfrifon o boblogaeth yr Alban sy'n defnyddio sylfaen newydd, ac sy'n tynnu ar Gyfrifiad 2022 yr Alban.

Amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol

Mae amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yn cael eu cynhyrchu gan y SYG ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) yw'r rhain tra bo'r SYG yn mireinio ei ddulliau a'r ffynonellau data sy'n cael eu defnyddio. Nid ydynt yn disodli'r amcangyfrifon canol blwyddyn swyddogol o'r boblogaeth, ac ni ddylid eu defnyddio i wneud penderfyniadau. Ni ddylid atgynhyrchu'r allbynnau hyn heb y rhybudd hwn.

Mae'r ONS yn anelu at weld ei amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yn dod yn amcangyfrifon canol blwyddyn swyddogol o'r boblogaeth yn 2025. Bydd yn mynd ati i ymgysylltu yn hydref 2024 i gasglu adborth ar y dull newydd, gan gynnwys awdurdodau lleol fel y gallant fanteisio ar ddealltwriaeth leol wrth iddynt wella'r amcangyfrifon. Bydd yr adborth hwn gan ddefnyddwyr yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r meini prawf wrth benderfynu pryd y bydd yr amcangyfrifon sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yn dod yn amcangyfrifon canol blwyddyn swyddogol o'r boblogaeth. Mae hefyd wedi gofyn am asesiad o'r amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) ac yn gweithio i fodloni'r safonau a ddisgwylir gan ystadegau swyddogol achrededig (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) erbyn haf 2025.

Ganol 2023, roedd yr amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer Cymru (SYG) 0.3% yn is na'r amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth. Mae'r gwahaniaethau rhwng y dulliau a'r ffynonellau data sydd wedi'u defnyddio yn golygu na ddisgwylir y bydd yr amcangyfrifon sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yn cyfateb yn union i'r amcangyfrifon swyddogol achrededig o'r boblogaeth. Mae'r amcangyfrifon sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yn defnyddio dulliau newydd arloesol ac ystod ehangach o ffynonellau data, gan ystyried cyfyngiadau ansawdd y data. Mae stociau poblogaeth yn cael eu cynhyrchu'n annibynnol bob blwyddyn, felly mae unrhyw gamgymeriad mewn perthynas ag un flwyddyn yn llai tebygol o effeithio ar y nesaf. Gall stociau ddefnyddio ffynonellau data gweinyddol fel nad yw'r dulliau yn dibynnu ar ddata'r cyfrifiad. Mae'r SYG yn bwriadu cyhoeddi astudiaethau achos yn yr hydref i ddangos ei hyder yn y dull newydd.

Mae rhagor o wybodaeth am amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol ar gael yn erthygl y SYG ynghylch deall amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae erthygl ategol yn nodi manylion y datblygiadau mewn ffynonellau data (SYG). Mae manylion pellach am yr amcangyfrifon sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol ym maes sicrhau ansawdd, y defnydd priodol ohonynt, eu cryfderau a'u cyfyngiadau, ar gael yn yr adroddiad ar wybodaeth am ansawdd a methodoleg yr amcangyfrifon canol blwyddyn o boblogaeth Cymru a Lloegr sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol (SYG).

Mae'r SYG hefyd wedi cyhoeddi blog yn esbonio beth sy'n sbarduno twf yn y boblogaeth a pha gamau y mae'r SYG yn eu cymryd tuag at gynhyrchu amcangyfrifon newydd sy'n diwallu anghenion defnyddwyr yn well.

Amcangyfrifon o boblogaeth y DU: canol 2023

Nod y SYG yw rhyddhau set lawn o amcangyfrifon canol 2023 o boblogaeth y DU yn yr hydref 2024. Bydd hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchir gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon, ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchir gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban.

Adborth defnyddwyr cyn yr amcanestyniadau cenedlaethol, is-genedlaethol ac ar lefel aelwyd ar sail 2022

Mae'r SYG wedi cyhoeddi ymateb i adborth defnyddwyr ar yr amcanestyniadau cenedlaethol, is-genedlaethol ac ar lefel aelwyd ar sail 2022. Mae'n amlinellu'r hyn yr hoffai defnyddwyr ei weld yn y datganiadau hyn, megis amrywiadau penodol neu fformatau newydd o ran y setiau data. Am ragor o fanylion, gweler dogfen y SYG sy'n crynhoi'r ymateb yn llawn.

Ystadegau'r Gymraeg

I gael gwybodaeth am ystadegau am y Gymraeg, gweler Diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.

Manylion cyswllt

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099