Neidio i'r prif gynnwy

Amcanestyniadau is-genedlaethol o’r boblogaeth (awdurdodau lleol) amrywiolion ychwanegol ar sail 2018

Ar 12 Awst, cafodd tri amrywiolyn amcanestyniadau poblogaeth ychwanegol, yn seiliedig ar ragdybiaethau mudo amgen, eu cyhoeddi ar StatsCymru. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiolyn dim mudo, amrywiolyn cyfartaledd mudo 10 mlynedd ac amrywiolyn cyfartaledd mudo 15 mlynedd.

Amcanestyniadau is-genedlaethol aelwydydd (awdurdodau lleol) amrywiolion ychwanegol ar sail 2018

Ar 12 Awst, cafodd tri amrywiolyn amcanestyniadau aelwydydd ychwanegol, yn seiliedig ar ragdybiaethau mudo amgen, eu cyhoeddi ar StatsCymru. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiolyn dim mudo, amrywiolyn cyfartaledd mudo 10 mlynedd ac amrywiolyn cyfartaledd mudo 15 mlynedd.

Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU, Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon: Canol 2020

Cafodd amcangyfrifon canol blwyddyn 2020 o’r boblogaeth ar gyfer gwledydd y DU eu cyhoeddi ar 25 Mehefin 2021 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae hyn yn dilyn y datganiad SYG Dangosyddion cynnar o faint a strwythur oedran poblogaeth y DU: 2020 a gyhoeddwyd ar 16 Ebrill.  

Roedd amcangyfrif canol blwyddyn 2020 o boblogaeth Cymru yn 3,170,000, cynnydd o 0.5% (16,700) ar amcangyfrif canol 2019. Amcangyfrifir bod mwy o bobl 65 oed neu’n hŷn yn byw yng Nghymru (669,000) nag o blant 0 i 15 oed (563,000).

Roedd amcangyfrif canol blwyddyn 2020 o boblogaeth y DU (SYG) yn 67,080,000, cynnydd o 0.4% o gymharu ag amcangyfrif canol 2019. Hon yw’r gyfradd dwf isaf i’r DU ers canol 2001.

Yr amcangyfrifon poblogaeth hyn yw’r rhai cyntaf i ddangos effeithiau’r pandemig. Fodd bynnag, mae’r amcangyfrifon hyn yn cyfeirio at y boblogaeth fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020, gan olygu mai dim ond tri mis cyntaf y pandemig sy’n cael eu cyfrif ynddynt.

Bydd amcangyfrifon poblogaeth yn y dyfodol yn darparu gwybodaeth am yr effaith o ganol 2020 i ganol 2021.

Dylid nodi bod rhai newidiadau diffiniadol (sy’n effeithio ar yr elfennau mudo yn arbennig) o gymharu â data'r flwyddyn gofnodi ddiwethaf a chynghorir defnyddwyr i ddarllen yr adran Ansawdd a Methodoleg ar wefan SYG.

Mae data ar gael ar StatsCymru yn ôl ardal weinyddol, blwyddyn oedran unigol, rhyw, ac elfennau o ran y newid yn y boblogaeth, gan gynnwys mudo mewnol.

Amcanestyniadau aelwydydd

Ymgynghori ar allbynnau Cyfrifiad 2021

Yn ddiweddar, lansiodd ONS ymgynghoriad cyhoeddus, a oedd yn amlinellu eu cynigion ar gyfer dyluniad a ffurf y cynlluniau ar gyfer rhyddhau allbynnau Cyfrifiad 2021. Nod yr ymgynghoriad yw cael barn gyfredol ynglŷn ag anghenion manwl defnyddwyr ar gyfer data a dadansoddiadau Cyfrifiad 2021, a deall blaenoriaethau’r defnyddwyr. Bydd adborth y defnyddwyr yn helpu ONS i benderfynu ar ddyluniad terfynol allbynnau a dadansoddiadau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau ar agor tan hanner nos ar 5 Hydref 2021. Mae ONS yn bwriadu cyhoeddi ei ymateb i adborth defnyddwyr y gaeaf hwn.

Ystadegau mudo rhyngwladol

Mae SYG wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau yn ddiweddar sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau o ran mesur mudo rhyngwladol.

Trawsnewid y system ystadegau poblogaeth a mudo: diweddariadau (SYG)

Ystadegau’r Gymraeg

Proffiliau ystadegol y Gymraeg ar gyfer awdurdodau lleol

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu offeryn ar hyn o bryd sy’n dod â data ar y Gymraeg ar lefel awdurdod lleol a lefel Cymru ynghyd.

Mae’r proffiliau yn cynnwys y data a ganlyn:

  • fodweddion demograffig yr ardal
  • y Cyfrifiad (gan gynnwys trosglwyddo’r Gymraeg)
  • yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth 
  • Arolwg Defnydd y Gymraeg
  • y blynyddoedd cynnar
  • addysg

Mae’r offeryn ar ffurf drafft ar hyn o bryd, ac rydym wedi nodi eisoes fod angen ychwanegu’r data a ganlyn i’r offeryn:

  • Dangosyddion cenedlaethol llesiant cenedlaethau’r dyfodol
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • data addysg ar gyfer y Gymraeg yng Nghynlluniau Strategol Addysg
  • data ar y gweithlu addysg

Mae’r offeryn ar ffurf ffeil Excel ar hyn o bryd, ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Y nod yn y tymor hir yw symud tuag at offeryn sy’n ddangosfwrdd rhyngweithiol.

Mae’r proffiliau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ac maent wedi cael eu rhannu â grŵp bach o ddefnyddwyr sy’n awdurdodau lleol, er mwyn inni gael adborth ar yr offeryn.

Os oes diddordeb gennych gael gweld drafftiau cynnar o’r proffiliau, cysylltwch â dataiaithgymraeg@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Ar 9 Medi, cyhoeddwyd canlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg, Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Yn ôl yr arolwg roedd 29.1% o bobl tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 883,300 o bobl) ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021.

Bydd y diweddariad nesaf, ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben 30 Mehefin 2021, yn cael ei gyhoeddi ar 5 Hydref 2021.

Mae’n bwysig pwysleisio, wrth gwrs, mai’r cyfrifiad ydy’r ffynhonnell awdurdodol ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut y byddwn yn mesur cynnydd yn erbyn yr uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Arolwg Defnydd y Gymraeg

Ar 14 Medi, cyhoeddwyd canfyddiadau cychwynnol Arolwg Defnydd y Gymraeg 2019-20, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020. Daeth yr arolwg i ben yn gynharach na'r disgwyl oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r dadansoddiad yn adrodd ar ba mor aml y mae siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith, pa mor dda y maent yn ei siarad ac ymhle y gwnaethant ddysgu. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar ddefnydd y Gymraeg.

Yn ôl yr arolwg, roedd 10% o’r boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig eiriau, yr un ganran ag yn 2013-15. Dyma un o ddangosyddion cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

O’r siaradwyr Cymraeg tair oed neu hŷn yng Nghymru:

  • roedd dros hanner (56%) yn siarad yr iaith bob dydd (waeth beth fo lefelau eu rhuglder) o’i gymharu â 53% yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, a bron i un ym mhob pump yn siarad yr iaith bob wythnos (19%, union yr un ganran ag yn 2013-15)
  • roedd y cyfrannau hyn yn amrywio yn ôl oedran, ac ar ei huchaf ar gyfer y rhai 3 i 15 oed ac ar ei hisaf ar gyfer y rhai 16 i 29 oed
  • roedd ychydig llai na’r hanner (48%) yn ystyried eu hunain yn rhugl yn y Gymraeg, o’i gymharu â 47% yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, gyda’r ganran yn cynyddu yn ôl oedran, ar ei huchaf ar gyfer y rhai 65 oed neu hŷn ac ar ei hisaf ar gyfer y rhai 3 i 15 oed
  • bu i 43% o siaradwyr Cymraeg ddechrau siarad yr iaith gartref yn blant ifanc, union yr un ganran ag yn 2013-15
  • mae dros ddau o bob tri yn cytuno (yn gryf neu’n tueddu i gytuno) bod siarad Cymraeg yn rhan bwysig o bwy ydyn nhw

Manylion cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099