Neidio i'r prif gynnwy

Amcanestyniadau cenedlaethol o'r boblogaeth: yn seiliedig ar ddata 2022

Ar 28 Ionawr, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcanestyniadau cenedlaethol o'r boblogaeth (NPPs) ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Datganiad amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol llawn yw hwn sy'n defnyddio'r data poblogaeth diweddaraf sydd ar gael gan gynnwys data o Gyfrifiad 2021 a rhagdybiaethau newydd ar gyfer ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo, gan ddarparu ystod o amcanestyniadau amrywiol. 

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein datganiad Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol: sail-2022 ein hunain ar gyfer Cymru.

Prif bwyntiau

  • Amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 5.9% i 3.32 miliwn erbyn canol 2032, ac yn cynyddu 10.3% i 3.46 miliwn erbyn 2047. O'i gymharu â hyn, twf poblogaeth Cymru dros y degawd blaenorol hyd at ganol 2022 oedd 2.0%.
  • Mae'r twf a amcanestynnir yn y boblogaeth rhwng canol 2022 a chanol 2032 yn cael ei yrru gan fudo, gyda chyfanswm mudo amcanestynedig net o 271,600 rhwng canol 2022 a chanol 2032. Amcanestynnir y bydd newid naturiol (genedigaethau llai marwolaethau) yn parhau i fod yn negyddol dros yr un cyfnod.
  • Mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru rhwng canol 2022 a chanol 2032 yn is nag ar gyfer Lloegr. Y cynnydd yn amcanestyniadau Lloegr yw 7.8%, sef y cynnydd mwyaf o holl wledydd y DU. Er hynny, mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau o'r boblogaeth ar gyfer Cymru rhwng canol 2022 a chanol 2032 yn uwch nag ar gyfer Gogledd Iwerddon (2.1%) a'r Alban (4.4%).
  • Yn ôl yr amcanestyniadau bydd nifer y bobl yng Nghymru sy'n 65 oed neu'n hŷn yn cynyddu 19.6% i 806,000 rhwng canol 2022 a chanol 2032 a bydd yn cyrraedd dros filiwn erbyn 2060.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â ni ar ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Ymgysylltiad defnyddwyr ar amcanestyniadau is-genedlaethol ac ystadegau poblogaeth Llywodraeth Cymru

Rydym yn bwriadu cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth is-genedlaethol ac amcanestyniadau aelwydydd is-genedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yn yr haf/dechrau'r hydref eleni. 

Er mwyn ein helpu i gynllunio ar gyfer y set nesaf o ddatganiadau amcanestyniadau is-genedlaethol yn 2025, rydym yn ceisio adborth gan ddefnyddwyr ar ein cynlluniau, gan gynnwys anghenion defnyddwyr ar gyfer ystadegau'r boblogaeth yn fwy cyffredinol. Rydym am glywed gan gynifer ohonoch â phosibl felly os hoffech roi gwybod i ni am eich syniadau, cwblhewch yr holiadur Amcanestyniadau is-genedlaethol o'r boblogaeth ac aelwydydd Cymru hwn erbyn 11 Ebrill. Cyn i chi gwblhau'r arolwg, efallai yr hoffech ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd hefyd.

Fel arall, os oes gennych unrhyw adborth neu gwestiynau eraill, cysylltwch â ni ar ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.

Amcangyfrifon aelwydydd: canol 2023

Ar 11 Rhagfyr 2023, cyhoeddwyd yr amcangyfrifon aelwydydd diweddaraf ar gyfer Cymru 2012 i 2023. Roedd hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer canol 2021 i ganol 2023, yn ogystal ag ôl-gyfres ddiwygiedig o ganol 2012 i ganol 2020 yn dilyn Cyfrifiad 2021.

Mae'r amcangyfrifon diweddaraf hyn o aelwydydd wedi'u seilio ar amcangyfrifon SYG o'r boblogaeth ar gyfer canol 20233, a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2023. Mae'r amcangyfrifon o aelwydydd yn defnyddio data o'r cyfrifiadau diweddaraf sydd ar gael o'r boblogaeth am gyfraddau ffurfio cartrefi ac yn eu cymhwyso i amcangyfrifon cyfredol o'r boblogaeth. 

Mae'r fethodoleg y tu ôl i'r ffordd yr ydym yn cyfrifo amcangyfrifon aelwydydd wedi newid ar gyfer y cyhoeddiad hwn. Mae gwybodaeth bellach am y newid hwn ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg o'n datganiad. 

Prif bwyntiau

  • Rhwng canol 2022 a chanol 2023, cynyddodd yr amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yng Nghymru oddeutu 14,500 (1.1%) i 1.38 miliwn, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn aelwydydd un person.
  • Ers 2011, amcangyfrifir bod nifer yr aelwydydd wedi cynyddu 5.6%.
  • Cafwyd cynnydd yn yr amcangyfrif o nifer yr aelwydydd ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng canol 2022 a chanol 2023, heblaw ym Merthyr Tudful.
  • Ar lefel Cymru, cynyddodd yr amcangyfrif o nifer o bobl sy'n byw mewn aelwydydd preifat (neu ‘boblogaeth aelwydydd’) oddeutu 31,400 (1.0%) i 3.11 miliwn rhwng canol 2022 a chanol 2023.
  • Yng nghanol 2023 amcangyfrifwyd mai maint cyfartalog aelwydydd yng Nghymru oedd 2.26 person fesul aelwyd o'i gymharu â 2.52 person fesul aelwyd yng nghanol 1991.

Amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol

Ar 31 Ionawr, cyhoeddodd SYG Feini Prawf ar gyfer symud i amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol fel amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth. Mae'r erthygl hon yn nodi'r meini prawf ar gyfer derbyn yr amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPEs) fel amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth.

Ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu yw Amcangyfrifon o'r Boblogaeth sy'n Seiliedig ar Ddata Gweinyddol, a gyhoeddir ar hyn o bryd ochr yn ochr â'r amcangyfrifon canol blwyddyn a gynhyrchir gan ddefnyddio'r dull traddodiadol. Mae SYG yn bwriadu i'r ABPEs ddod yn amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2025, yn ddarostyngedig i asesiad yn erbyn y meini prawf a gyflwynwyd yn yr erthygl. 

Ar 26 Chwefror, cyhoeddodd SYG Amserlen cyhoeddi ar gyfer ystadegau poblogaeth a mudo sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol, a bydd hefyd yn cyhoeddi diweddariad ymchwil am ystadegau mudo rhyngwladol.

Diweddariad chwarterol ar Ystadegau Poblogaeth a Mudo: Ionawr 2025

Ar 31 Ionawr, cyhoeddodd SYG ei diweddariad ar ystadegau poblogaeth a mudo. Mae'n amlinellu ei gwaith o ran gwella'r ffordd y mae'n amcangyfrif poblogaeth a mudo, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau a chynnydd SYG.

Ystadegau'r Gymraeg

I gael gwybodaeth am ystadegau am y Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.

Manylion cyswllt

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099