Neidio i'r prif gynnwy

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2020

Ar 12 Ionawr, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol dros dro sy’n seiliedig ar 2020 ar gyfer Cymru a gwledydd y DU.

Mae amcanestyniadau poblogaeth yn destun ansicrwydd ac wedi’u seilio ar ragdybiaethau ynglŷn â thueddiadau’r dyfodol o safbwynt ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Hyd yma, nid yw effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ymddygiadau demograffeg yn glir, ac mae hyn yn cyfrannu at ansicrwydd pellach.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mwletin (ONS) a dogfennau methodoleg (ONS) y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi datganiad i hysbysu defnyddwyr o wall yn ymwneud ag allfudo rhyngwladol o Gymru. Mae’r ONS yn nodi bod effaith hyn yn gymharol fach ar amcanestyniadau Cymru, gyda’r amcanestyniadau poblogaeth oddeutu 2,700 yn is erbyn 2030 na’r hyn a gyhoeddir, ac oddeutu 16,400 yn is erbyn 2045. Yn dilyn ymgynghori â Llywodraeth Cymru, mae’r ONS wedi penderfynu peidio â chyhoeddi amcanestyniadau newydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ONS.

Prif bwyntiau

  • Rhwng canol 2020 a chanol 2030, amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 2.6%, o 3.17 miliwn i 3.25 miliwn.
  • Rhwng canol 2020 a chanol 2045, amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 4.2%, o 3.17 miliwn i 3.30 miliwn.
  • Amcanestynnir y bydd poblogaeth y DU yn cynyddu 3.2% rhwng canol 2020 a chanol 2030, i 69.2 miliwn, gydag amcanestyniad y bydd y boblogaeth yn tyfu ym mhob un o’r pedair gwlad.

Mae datganiad sy’n crynhoi data Cymru wedi’i gyhoeddi, ochr yn ochr â’r data ar StatsCymru.

Cyfrifiad 2021

Yn dilyn ymgynghoriad diweddar yr ONS ar allbynnau Cyfrifiad 2021, mae’r ONS wedi cyhoeddi rhestr lawn o’r newidiadau arfaethedig i gam cyntaf y cynigion (ONS) sy’n seiliedig ar adborth gan ymatebwyr. Ar hyn o bryd, maent yn gwerthuso’r ymatebion ynghylch y camau diweddarach o’u hamserlen datganiadau. Byddant yn mynd i’r afael â’r rhain yn rhan dau o’u hymateb i’r ymgynghoriad, a gyhoeddir ddechrau 2022.

Yn y blog diweddaraf ynglŷn â datblygu’r darlun cyfoethocaf o’n poblogaeth (ONS), cadarnhaodd yr ONS eu bod yn anelu at gyhoeddi’r datganiad cyntaf ynghylch amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd ar gyfer Cymru (a Lloegr) ddiwedd mis Mai. Byddant yn cadarnhau yr union ddyddiad unwaith y byddant wedi cwblhau eu gwaith prosesu a sicrhau ansawdd. Mae’r allbynnau arfaethedig a chynlluniau cyhoeddi’r dadansoddiadau ar gael ar wefan yr ONS.

Am y tro cyntaf, mae awdurdodau lleol wedi’u gwahodd i helpu â’r broses o sicrhau ansawdd amcangyfrifon dros dro y cyfrifiad, sydd wedi’i threfnu i’w chynnal ym mis Chwefror ac ym mis Mawrth. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â chynlluniau’r ONS ar gael. Anogir pob awdurdod lleol yng Nghymru i gymryd rhan yn y broses hon.

Ar 6 Ionawr, cyhoeddwyd cofnodion o Gyfrifiad 1921 yng Nghymru (a Lloegr), ychydig dros 100 mlynedd ers cynnal y cyfrifiad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan yr Archifau Gwladol.

Diweddariad ar ansicrwydd amcangyfrifon poblogaeth

Ar 28 Ionawr, cyhoeddodd yr ONS ddiweddariad i’w data ar fesurau o ansicrwydd amcangyfrifon poblogaeth (ONS), sy’n cynnwys manylion ar rai o’r newidiadau methodoleg yn ogystal â’r data ansicrwydd ar gyfer 2020. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y fethodoleg yn y cyhoeddiad blaenorol (ONS).

O safbwynt y sefyllfa yng Nghymru, roedd y cyfwng ansicrwydd o 95% ar gyfer yr amcangyfrif poblogaeth yn 2020 yn +/- 3% o’r gwerth canolog, gyda thri awdurdod lleol â chyfyngau o dros +/- 5%. Ar gyfer 7 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, roedd yr amcangyfrif poblogaeth ar gyfer 2020 oddi allan i’r cyfwng ansicrwydd a gyfrifwyd.

Diweddariad ar drawsnewid ystadegau’r boblogaeth

Ar 28 Ionawr, cyhoeddodd yr ONS ddiweddariad ar ei chynlluniau ar gyfer amcangyfrifon ac amcanestyniadau o’r boblogaeth (ONS). Cyhoeddwyd blog (ONS) ochr yn ochr â’r diweddariad sy’n trafod sut y bydd yr ONS yn sicrhau mewnwelediadau mwy cynhwysfawr ac amserol ynghylch y boblogaeth.

Amcangyfrifon poblogaeth yn ôl grŵp ethnig a chrefydd

Ar 16 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd yr ONS ystadegau arbrofol (ONS) ar boblogaeth Cymru a Lloegr yn ôl grŵp ethnig a chrefydd (ONS).

Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb yn niweddariad chwarterol ystadegau Cymru.

Ystadegau Mudo a’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Meithrin cysylltiadau â defnyddwyr StatsCymru

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymchwil ynglŷn â sut y mae pobl yn defnyddio ein llwyfan data agored StatsCymru. Rydym yn awyddus i ganfod barn ystod eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl sy’n gweithio i gyrff cyhoeddus, y trydydd sector a thu hwnt. Efallai y bydd yr ymchwil defnyddwyr yn cael ei gwblhau gan gontractwr, a bydd y canlyniadau yn llywio cyfeiriad safle StatsCymru i’r dyfodol. Os ydych yn defnyddio StatsCymru, a buasech yn dymuno cymryd rhan yn yr ymchwil hwn, cysylltwch â ni.

Ystadegau’r Gymraeg

Am wybodaeth ynghylch ystadegau’r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol ystadegau Cymru.

Cyswllt

Martin Parry

Rhif ffôn: 0300 025 0373

E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099