Cylchlythyr Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (IEPAW): Hydref 2024
Mae’r IEPAW wedi ymrwymo i gyhoeddi cylchlythyrau ar eu gwaith.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gair gan Nerys
Mae wedi bod yn gyfnod prysur a chyffrous yn yr AIDAC. Roeddwn i’n falch o groesawu dau ddirprwy newydd, Anna Heslop a Lynda Warren, a ymunodd â ni ym mis Mai. Maen nhw’n dod â chyfoeth o brofiad ac rwy’n falch iawn eu bod nhw wedi ymuno â ni yn rhan o dîm yr AIDAC. Rwy’n ddiolchgar bod Gweinidogion Cymru wedi cydnabod yr angen i am ddau ddirprwy i feithrin capasiti o fewn yr AIDAC a bod y penodiadau hyn wedi’u cadarnhau gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS.
Mae uchafbwyntiau’r misoedd diwethaf wedi cynnwys cyfleoedd i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb â rhanddeiliaid, trafodaeth banel gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, ymddangos gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a chynnal y cyfarfod blynyddol ar y cyd â Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd a Safonau Amgylcheddol yr Alban yng Nghaerdydd. Gallwch chi ddarllen mwy am y digwyddiadau hyn isod.
Mae gwaith diweddar Llywodraeth Cymru ar y Bil Llywodraethu Amgylcheddol newydd yn ddatblygiad cyffrous arall. Hoffwn ddiolch i’r tîm dan sylw, sydd wedi rhoi o’u hamser yn raslon i sicrhau ein bod yn cael diweddariadau rheolaidd am y cynnydd sy’n cael ei wneud.
Ein Dirprwyon Newydd
Rydym yn falch o groesawu Anna Heslop a Lynda Warren i swyddi Dirprwy Asesydd Interim. Mae’r ddwy yn dod â chyfoeth o brofiad ym maes cyfraith amgylcheddol sydd eisoes yn cael effaith ar ein gwaith.
Lynda Warren
Mae profiad blaenorol Lynda yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur yn golygu ei bod yn gyfarwydd â rheolaeth amgylcheddol ac ymdrechion i ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru. Fel Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor, mae hi’n defnyddio ei phrofiad helaeth o bolisi amgylcheddol i addysgu ar gyfraith parthau arfordirol. Mae hyn, ynghyd â’i swydd fel Athro Emeritws mewn Cyfraith Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth a gyrfa academaidd hir a nodedig, eisoes yn cael effaith ar ein gwaith ar Safleoedd Gwarchodedig a Thir Halogedig.
Anna Heslop
Mae gan Anna brofiad o weithio yn y Comisiwn Ewropeaidd ar gymhwyso cyfraith amgylcheddol. Mae hi hefyd wedi cynghori cyrff cyhoeddus y DU ar weithredu cyfraith cynllunio amgylcheddol ac wedi gweithio mewn nifer o gyrff anllywodraethol amgylcheddol. Ar ôl ymgyfreitha yn flaenorol ar gyfraith amgylcheddol ar lefel genedlaethol, ryngwladol ac Ewropeaidd, mae mewn sefyllfa dda i ddatblygu ein gwaith o werthuso gweithrediad cyfraith amgylcheddol Cymru.
Mae ein dwy ddirprwy newydd yn aelodau o dîm cadarn ac rydym yn siŵr y byddwch chi’n ymuno â ni i’w croesawu i’r AIDAC.
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi rhoi cyfleoedd gwych i ni gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb.
Yn ein digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf i randdeiliaid, buom yn archwilio sawl mater ac yn cael mewnwelediadau gwerthfawr gan y rhanddeiliaid a oedd yn gallu ymuno â ni. Rydym yn ddiolchgar i Matt Edwards a Karen Stothart o dîm Llywodraethu Amgylcheddol Llywodraeth Cymru a roddodd gyflwyniad ar nodweddion allweddol y Papur Gwyn Llywodraethu Amgylcheddol.
Cafodd rhanddeiliaid gyfle i roi adborth a gofyn cwestiynau iddyn nhw’n uniongyrchol a chael gwell dealltwriaeth o’r materion. Fel rhan o’r digwyddiad sefydlwyd grwpiau trafod i ymdrin ag amrywiol agweddau ar Ymgynghoriad y Bil Llywodraethu Amgylcheddol. Heb os, mae’r adborth gan y grwpiau hyn wedi bod yn amhrisiadwy i’r Tîm Llywodraethu Amgylcheddol wrth iddynt weithio ar ddatblygu’r Bil a thuag at ei weithredu.
Cawsom drafodaethau diddorol hefyd ar ein gwaith ar Safleoedd Gwarchodedig ac Ansawdd Dŵr. Rhoddodd Dr Victoria Jenkins ddiweddariad ar ardaloedd gwarchodedig a rhoddodd Rhys Gowen, myfyriwr PhD sydd ar leoliad gyda’r AIDAC, amlinelliad o waith rhagarweiniol a wnaed ar ansawdd dŵr.
Sioe Frenhinol Cymru
Rhoddodd Sioe Frenhinol Cymru eleni gyfle i ni gynnal trafodaeth banel arbenigol gyda Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Gail Davies-Walsh o Afonydd Cymru ac Arpana Chunilal o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cadeiriodd y Dirprwy Aseswr Anna Heslop y drafodaeth fywiog ar gyflwr afonydd ledled Cymru, cymhlethdodau cynnal ansawdd dŵr mewn cyd-destunau gwledig a threfol a phwysigrwydd sicrhau bod adnoddau dŵr yn cael eu rheoli’n effeithiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth David Chadwick, yr Aelod Seneddol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, yn ogystal â Jane Dodds, Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, am fynychu’r digwyddiad.
I ni yn yr AIDAC, mae’r mewnwelediadau a ddarparwyd yn ogystal â’r trafodaethau pellach a ddeilliodd ohonynt, yn llywio agweddau ar y gwaith rydym yn ei wneud nawr a byddant yn llywio agweddau ar y gwaith y byddwn ni’n ei wneud yn y dyfodol.
Cyfarfod Blynyddol Llywodraethu Amgylcheddol Cenhedloedd y DU
Roeddem yn falch o allu cynnal ail Gyfarfod Llywodraethu Amgylcheddol blynyddol Cenhedloedd y DU yng Nghaerdydd yr haf hwn, lle gwnaethom ymuno â’n partneriaid yn Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd, a oedd yn cynrychioli Lloegr a Gogledd Iwerddon, a Safonau Amgylcheddol yr Alban. Profodd y digwyddiad i fod yn amserol iawn gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch ei chynlluniau ar gyfer y Bil Llywodraethu Amgylcheddol a fydd yn sefydlu corff parhaol i gymryd drosodd dyletswyddau’r AIDAC yn y dyfodol agos.
Mae profiad Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd a Safonau Amgylcheddol yr Alban o sefydlu cyrff craffu amgylcheddol newydd yn debygol o fod yn amhrisiadwy i Lywodraeth Cymru a ninnau wrth reoli’r broses bontio’n esmwyth. Rydym yn ddiolchgar i’r ddau sefydliad am eu parodrwydd i rannu eu profiadau a’u mewnwelediadau ar hyn.
Un o flaenoriaethau’r digwyddiad oedd trafod y gwaith hollbwysig sy’n cael ei wneud gan bob corff, cymharu nodiadau a nodi cyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio. Mae ansawdd dŵr a bioamrywiaeth yn feysydd lle mae’r tri chorff yn gweithio’n galed a lle byddwn yn parhau i rannu gwybodaeth.
Ar y cyfan, dangosodd y diwrnod pa mor gyffredin yw’r materion y mae pob corff craffu yn delio â nhw ledled y DU. Cytunwyd i barhau i gydweithio agos ar faterion allweddol a pharhau i gwrdd yn rheolaidd i rannu gwybodaeth a diweddaru ein gilydd am ein gwaith.
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Ar 18 Gorffennaf, rhoddodd Nerys, Anna a Lynda ddiweddariad blynyddol yr AIDAC i’r Pwyllgor ar ei gynnydd. Roedd yn gyfle i’r Pwyllgor glywed sut mae’r mesurau interim wedi bod yn gweithredu dros y flwyddyn, yr hyn a gyflawnwyd a pha heriau sydd i’w goresgyn o hyd. Roedd hefyd yn gyfle i ateb cwestiynau am waith yr AIDAC a sut rydym wedi bod yn mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y llynedd ar ein gwaith. O ddiddordeb arbennig i’r pwyllgor oedd y cynnydd rydym wedi’i wneud o ran monitro effaith, fel yr argymhellwyd ganddynt yn eu hadroddiad diwethaf ar gyfer 2022/23. Fel yr eglurodd Anna, rydym yn sefydlu prosesau monitro mewnol i gofnodi’r hyn rydym yn ei ddysgu am y ffordd rydym yn gweithredu a’n heffaith allanol. Mae Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar gael yn Adroddiad ar weithrediad mesurau interim diogelu’r amgylchedd 2023-24 [SENEDD.CYMRU] ac mae ymateb yr AIDAC hefyd ar gael.
Cyflwyniadau
Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae 6 chyflwyniad newydd wedi dod i law. Mae hyn yn dod â’n cyfanswm i 38 ers dechrau’r AIDAC.
Mae’r cyflwyniadau diweddar sy’n yn ymwneud â’r pryderon canlynol:
- Dympio gwastraff gwenwynig
- Diffyg amddiffyniad ar gyfer coed a choetir a diffyg gorfodi o dan y ddeddfwriaeth bresennol
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
- Rôl cyfraith gynllunio wrth amddiffyn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Gan fod tri o’r cyflwyniadau hyn yn ymwneud â materion yr ydym yn gweithio arnynt eisoes, maent wedi’u cynnwys fel rhan o’r dystiolaeth sy’n llywio’r adroddiadau hynny. Ystyriwyd bod un cyflwyniad y tu allan i’r cwmpas ac ni fyddwn yn ei ystyried ymhellach.
Rydym yn parhau i adolygu’r holl gyflwyniadau hyd yma bob chwarter. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau nad yw newidiadau diweddar i bolisi a deddfwriaeth wedi effeithio ar y penderfyniadau a wnaed amdanynt. Mae 75% o’r cyflwyniadau hyd yn hyn yn gysylltiedig ag adroddiadau sydd wrthi’n cael eu datblygu.
Ansawdd dŵr yw’r prif faes pryder a godir gan gyflwynwyr o hyd, gan adlewyrchu diddordeb y cyhoedd yn y mater hwn sydd wedi’i ystyried wrth i ni ddod a’r mater ansawdd dŵr ymlaen yn ein rhaglen waith.
Digwyddiadau yn y Dyfodol
Bydd ein cyfarfod rhithwir nesaf i randdeiliaid yn cael ei gynnal am 11am ar 15 Ionawr. Bydd yn gyfle i ni roi ein diweddariad chwarterol arferol. Yn ogystal â hyn, ac i adeiladu ar lwyddiant ein digwyddiad wyneb yn wyneb i randdeiliaid yn gynharach eleni, rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad arall i randdeiliaid ar 28 Ionawr 2025. Os oes gennych unrhyw bynciau neu feysydd yr hoffech chi i ni eu trafod yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod y rhaglen yn adlewyrchu materion yr hoffech chi eu gweld yn cael eu trafod.
Anfonwch e-bost i fewnflwch yr AIDAC yn AIDAC@gov.uk gydag unrhyw awgrymiadau ar gyfer pynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael eu trafod yn y digwyddiad i randdeiliaid ond hefyd gydag unrhyw adborth neu wybodaeth arall a fyddai’n ddefnyddiol i’r AIDAC, yn eich barn chi, gan ein bod bob amser yn awyddus i glywed gennych.
Cadwch y Dyddiad
15 Ionawr 2025 – Digwyddiad Rhithwir i Randdeiliaid yr AIDAC.
28 Ionawr 2025 – Digwyddiad Byw i Randdeiliaid yr AIDAC, Caerdydd.
Cysylltu ag AIDAC
Os hoffech gysylltu ag Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru, e-bostiwch IEPAW@gov.wales
LinkedIn: IEPAW