Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi disgrifio Cylch Gwario Llywodraeth y DU heddiw fel ymgais i dynnu sylw cyn etholiad, heb ddarparu unrhyw gyllid cynaliadwy, hirdymor sydd dirfawr ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
Ar sail y Cylch Gwario heddiw, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn dal i fod £300m yn is mewn termau real na'r hyn oedd yn 2010-11.
Er gwaethaf galwadau gan Lywodraeth Cymru, ni chyhoeddwyd unrhyw adnoddau ychwanegol i helpu Cymru i baratoi ar gyfer effaith y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Cyflwynwyd y Cylch Gwario ‘carlam’ un flwyddyn yn dilyn penderfyniad i ohirio'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant dros dair blynedd a addawyd ers tro. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan nad oes ganddi hyder yn y ffigurau y seiliwyd y Cylch Gwario arnynt, sy'n dod o ragolygon economaidd a gynhyrchwyd fis Mawrth a rheolau cyllidol gweinyddiaeth flaenorol.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Er bod cyhoeddiad heddiw'n dangos rhai arwyddion o lacio ar y pwrs cyhoeddus yn y tymor byr, nid yw gwneud iawn am bron i ddegawd o doriadau. Nid yw chwaith yn dod yn agos at ddarparu sylfaen gynaliadwy hirdymor i ni adeiladu arni, rhywbeth y mae dirfawr ei hangen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Llywodraeth y DU yn ymddwyn yn anghyfrifol trwy gyhoeddi cynlluniau gwario yn seiliedig ar ragolygon o fis Mawrth a does dim modd i ni ymddiried eu bod yn gynaliadwy. Mae'r data diweddaraf yn awgrymu y gallai'r DU fod mewn dirwasgiad eisoes. Mae economi lai yn golygu refeniw trethi is ac yn ei gwneud yn debygol y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU droi yn ôl yn sydyn at bolisi cyni.
Wrth ymateb i gyhoeddiad y Canghellor am £2bn arall i baratoi ar gyfer Brexit, dywedodd Rebecca Evans:
Rydyn ni wedi dweud yn glir bod Cymru angen cryn dipyn o adnoddau ychwanegol i ddygymod ag effaith drychinebus Brexit heb gytundeb. Pwysleisiais hyn wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ystod ein cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, ac ni chefais unrhyw sicrwydd y byddai'r cyllid hwn ar gael.
Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i anghenion economi, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau Cymru, gan gyflwyno cyllideb sy'n amddiffyn rhag gweithredoedd byrbwyll llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig.
Er gwaetha'r ansicrwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn dwyn ei chynlluniau ymlaen ac yn cyhoeddi ei Chyllideb yn gynharach er mwyn rhoi gymaint â phosib o sicrwydd i bartneriaid a rhanddeiliaid, gan anelu at sicrhau'r setliad tecaf posib i wasanaethau cyhoeddus Cymru.