Neidio i'r prif gynnwy

Y cyngor penodol sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i 2022

1a) Parhau i roi cyngor, adroddiadau manwl a, phan fo’n briodol, adnoddau eraill sy’n defnyddio tystiolaeth a gesglir o alwadau ac ymweliadau ymgysylltu

Yn ystod 2021 i 2022 bydd Estyn yn ailgyfeirio rhywfaint o’r adnodd a ddefnyddir fel arfer ar gyfer y gyfres lawn o adroddiadau thematig, gan ganolbwyntio ar gefnogi cynllun adfer dysgu Llywodraeth Cymru yn dilyn y pandemig Covid-19 ar gyfer y sector addysg a’r sector hyfforddiant. Bydd hyn yn arwain at adroddiadau tymhorol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gesglir o alwadau ac ymweliadau ymgysylltu, gan gynnwys cameos o arferion diddorol.

Bydd Estyn hefyd yn gohirio rhai archwiliadau ar gyfer ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig annibynnol, gwasanaethau addysg llywodraeth leol a darparwyr a phartneriaethau ôl-16 (yn enwedig colegau addysg bellach, a cholegau arbenigol, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a gwasanaethau dysgu oedolion yn y partneriaethau cymunedol), a phartneriaethau addysg gychwynnol i athrawon yn ystod tymor yr haf 2021. Drwy ohirio rhai o’r archwiliadau yn y sectorau hyn, bydd arolygwyr yn gallu helpu darparwyr i adfer yn dilyn y sefyllfa bresennol, a hynny drwy alwadau ac ymweliadau ymgysylltu.

Yn benodol, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i Estyn ddarparu cyngor ar draws y sectorau sydd o fewn ei gylch gwaith mewn perthynas â’r canlynol:

  • ymgysylltu â dysgwyr, gan gynnwys strategaethau effeithiol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
  • dysgu o bell a threfniadau i gefnogi dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i ddarpariaeth amser llawn
  • cymorth i ddysgwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol, yn enwedig mewn perthynas â llesiant emosiynol
  • cyfleoedd cyfartal i ddysgu a chymorth
  • gweithredu’r gofynion a amlinellir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
  • cymorth wrth bontio i addysg gynradd ac uwchradd, ac i addysg a hyfforddiant ôl-16
  • dysgu mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol a gomisiynir gan awdurdodau lleol (e.e. ysgolion arbennig annibynnol, colegau, lleoliadau hyfforddiant, y cartref) 
  • darparu cwricwlwm eang a chytbwys, a gefnogir gan asesiadau priodol, sy’n diwallu anghenion pob dysgwr
  • cynllunio gwelliannau ac arweinyddiaeth
  • Y system ar gyfer dyfarnu cymwysterau presennol a datblygu cymwysterau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Yn ogystal â diweddariadau tymhorol, gellir rhoi’r cyngor hwn drwy weithgorau, cyngor ysgrifenedig neu ganllawiau neu adroddiadau a gyhoeddir.

Gan ddefnyddio amserlenni yn y Cynllun Adfer Dysgu, bydd Estyn, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, yn penderfynu canolbwyntio ar baratoi ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru mewn ymweliadau ymgysylltu, gan gynnwys:

  • dysgu proffesiynol ac arferion seiliedig ar dystiolaeth (gan gynnwys sut mae ysgolion wedi defnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith hwn)
  • sut mae ysgolion yn defnyddio’r adnodd gwerthuso a gwella cenedlaethol, a lle maent arni o ran gwelliannau

1b) Adroddiadau manwl a, phan fo’n briodol, adnoddau eraill sy’n defnyddio tystiolaeth a gesglir o archwiliadau thematig

Mae’r adolygiadau thematig sydd i’w cynnwys yng nghylch gwaith Estyn ar gyfer 2021 i 2022 wedi’u rhestru yn y tabl isod.

Mae’r rhestr yn cynnwys 8 eitem: un adolygiad cynhwysfawr a fydd yn darparu gweminarau i rannu negeseuon allweddol a chameos neu achosion achos o arferion diddorol; a 7 adolygiad safonol.

Mae’r eitemau sydd wedi’u cynnwys yn adlewyrchu cylch gwaith strategol sy’n gysylltiedig â’r blaenoriaethau a nodais ar gyfer addysg a hyfforddiant, a chyda phwyslais ar y diwygiadau presennol ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, a diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol.

  Title Purpose Duration
1. Cefnogaeth consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Bydd yr adroddiad hwn yn gwerthuso’r cynnig dysgu proffesiynol a ddarperir gan gonsortia rhanbarthol i ysgolion. Bydd ffocws penodol ar y cwricwlwm, a pha effaith y mae wedi’i chael ar wella addysgu a dysgu. Bydd hefyd ffocws ar sut mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn helpu ysgolion i fynd i’r afael ag amrywiaeth drwy’r cwricwlwm.

Gweminarau ar ôl cyhoeddi’r adroddiad i rannu negeseuon allweddol a chameos neu astudiaethau achos o arferion diddorol newydd.

Adolygiad cynhwysfawr
2. Newid dulliau asesu Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar wella dulliau asesu yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cefnogi’r dysgu. Byddai’n herio’r mythau ynghylch asesu ffurfiannol yn yr ystafell ddosbarth ac yn ystyried sut mae ysgolion wedi gwella eu harferion yn yr ystafell ddosbarth. Byddai’n gwerthuso dulliau llwyddiannus a ddefnyddir i ddatblygu arferion asesu i gryfhau’r addysgu a’r dysgu. Byddai’n ystyried sut mae athrawon yn defnyddio asesiadau yn yr ystafell ddosbarth i ddod o hyd i gryfderau unigolion, meysydd i’w gwella a rhwystrau wrth ddysgu. Byddai’n archwilio pa mor effeithiol y mae athrawon yn rhannu’r wybodaeth hon â’r disgyblion i’w helpu i ddeall sut a ble gallant wella.

Adolygiad safonol

3.

Dulliau o drochi yn y Gymraeg

Bydd yr adolygiad hwn yn casglu tystiolaeth ar ddulliau effeithiol o drochi mewn iaith, gan ymgorffori dulliau cyfnod sylfaen mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dulliau ar gyfer hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg.

Adolygiad safonol

4. Cyngor a chanllawiau diduedd ar gyfer pobl ifanc Dyma’r cyntaf o gyfres o adolygiadau archwiliad thematig o waith Gyrfaoedd Cymru. Byddai’n ystyried pa mor effeithiol y mae cyngor a chanllawiau diduedd a chynnig cyfan Gyrfaoedd Cymru yn galluogi pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion i gynllunio eu gyrfaoedd.

Adolygiad safonol

5.

Adolygiadau ymateb cyflym Ôl-16

  1. Dysgu Proffesiynol: cymwysterau ar gyfer ymarferwr ôl-16 mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned.
  2. Defnyddio cyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau Ôl-16/cyllid dal i fyny mewn colegau addysg bellach a dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgolion.

Mae’r ddau adolygiad hyn yn darparu ymateb cyflym i geisiadau am wybodaeth.

  1. Bydd yr adroddiad hwn yn darparu llinell sylfaen gyda manylion y cymwysterau proffesiynol ar gyfer athrawon, aseswyr neu diwtoriaid ôl-16 i gefnogi cynllun gweithredu grŵp llywio datblygu’r gweithlu ôl-16.
  2. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried sut mae’r cyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau/cyllid dal i fyny ôl-16 wedi’i wario ac argymhellion neu ganllawiau ar gyfer cyllid grant yn y dyfodol.

Adolygiad safonol

6. Cwricwlwm 16 i 18

Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar y cwricwlwm presennol ar gyfer disgyblion 16 i 18 oed, y cynnig ar gyfer y cwricwlwm a’r dystiolaeth sydd ar gael i gyfrannu at adolygiad neu drafodaeth ehangach ynghylch sut y bydd dysgwyr yn symud ymlaen o addysg orfodol i addysg ôl-16 yng ngoleuni cynigion ar gyfer cymwysterau gyda’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd hefyd yn ystyried pa mor effeithiol y mae gwybodaeth, cyngor a chanllawiau diduedd yn galluogi pobl ifanc mewn addysg ôl-16 i wella eu cynlluniau gyrfa.

Adolygiad safonol

7. Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg mewn ysgolion

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried y trefniadau a’r broses ar gyfer gweithredu’r gofynion a amlinellir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol.

Byddai’n cael ei gynnal drwy alwadau ymgysylltu yn 2021 i 2022 i rannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru i lywio adroddiad a gyhoeddir yn 2022 i 2023.

Adolygiad safonol

8. Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg Prif nod yr adolygiad yw ymchwilio i’r diwylliant a'r prosesau mewn ysgolion sy'n helpu i amddiffyn a chefnogi pobl ifanc yn well. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a sut mae diwylliant diogelu'r ysgolion yn annog ac yn grymuso disgyblion i sefyll o blaid eu cyfoedion ac adrodd am bob math o aflonyddu rhywiol. Adolygiad safonol

 

1c) Parhau i weithio ar yr adnodd gwerthuso a gwella cenedlaethol

Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr adnodd gwerthuso a gwella cenedlaethol.

1d) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gefnogi ysgolion sy’n destun pryder

Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i dreialu dulliau newydd o gefnogi ysgolion sy’n destun pryder.

1e) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i gefnogi’r gwaith o ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol

Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i gefnogi’r gwaith o ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a pharatoadau yn dilyn deddfwriaeth i greu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

1f) Darparu cyngor ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol

Bydd Estyn yn darparu gwerthusiad i bob awdurdod lleol o’i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

1g) Meysydd polisi y gallai Llywodraeth Cymru geisio cyngor neu gymorth yn eu cylch, a hynny drwy gyfrannu at waith gweithgorau

Mae Estyn yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn amrywiaeth o feysydd. Gellir gofyn i Estyn roi cymorth i amryw o wahanol weithgorau, drwy ddod yn rhan ohonynt, drwy gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, neu drwy drafodaethau gydag uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru.

Ar gyfer 2020 i 2021, rhagwelir y bydd Estyn yn rhan o’r gweithgorau canlynol, ond bydd hyn yn cael ei adolygu wrth i’r gwaith fynd rhagddo:

  • Fforwm Cymru Gyfan o Ymarferwyr Addysg Sipsiwn-Teithwyr
  • Grŵp Llywio Dysgu Creadigol
  • Grŵp Technegol a Grŵp Llywio Mesurau Perfformiad Cyson
  • Grŵp Cyfathrebu y Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp Llywio Fframwaith Cymhwysedd Digidol y Cwricwlwm i Gymru
  • Bwrdd Cyflawni Gweithredol y Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp Rheoli y Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp Asesu y Cwricwlwm i Gymru
  • Gweithredu Adolygiad Cwricwlwm i Gymru: Bwrdd Newid
  • Grŵp Cwricwlwm ac Asesu ar gyfer Sector Nas Cynhelir Cymru, y Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp datblygu canllawiau ar addysg heblaw yn yr ysgol, y Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp datblygu canllawiau ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain y Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp Llywio y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
  • Gweithgor y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
  • Grŵp Gweithrediadau Digidol
  • Gweithgor Safonau Digidol
  • Grŵp Safonau Digidol
  • Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol
  • Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar Ddiwygio Addysg
  • Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang
  • Panel Arbenigwyr ar Berthnasoedd Iach
  • Bwrdd Cynghori ar Recriwtio a Chadw Athrawon
  • Grŵp Rhanddeiliaid Gyrfa Gynnar
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol ar Ddull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Cyfarfod Cadw mewn Cysylltiad (y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Llywodraeth Cymru ac Arolygiaethau)
  • Bwrdd Prosiect Ysgolion sy’n Ymarferwyr Arweiniol ac Ysgolion sy’n Ymarferwyr Datblygol
  • Gweithgorau Trefniadau Amddiffyn Rhyddid
  • Fforwm Awdurdodau Lleol ar Gyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig
  • Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol
  • Grŵp Strategol Cenedlaethol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
  • Grŵp Sgiliau Dysgu a Chyflogadwyedd Troseddwyr
  • Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth Datblygu’r Gweithlu
  • Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol.
  • Grŵp Llywio Cynllun Cadernid COVID-19 Ôl-16
  • Gweithgor dysgu cyfunol a Grŵp Llywio Digidol 2030 Ôl-16
  • Grŵp Llywio ac is-grwpiau Datblygu Gweithlu Proffesiynol
  • Grŵp Llywio Diogelwch mewn Addysg
  • Grŵp Cynghori ar Asesu
  • Bwrdd Prosiect Asesiadau Personol
  • Gweithgor y Portffolio Dysgu
  • Cynnig Gofal Plant Cymru: Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid
  • Y Fforwm Cymwysterau Galwedigaethol
  • Grŵp Diogelu Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed
  • Fforwm Strategol Cymru ar gyfer Datblygu Gyrfaoedd
  • Cynhadledd Cymorth a Gwella Llywodraeth Cymru

1h) Meysydd eraill y gallai Llywodraeth Cymru geisio cyngor a chymorth yn eu cylch o ran addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Mae Estyn hefyd yn cynnig cefnogaeth barhaus yn y meysydd canlynol:

  • cynigion yn ymwneud â chau ac ad-drefnu ysgolion
  • monitro'n flynyddol ysgolion annibynnol sydd wedi'u cymeradwyo o dan adran 347(1) o Ddeddf Addysg 1996 i dderbyn disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol ac sydd â disgyblion ag AAA ar y gofrestr; neu ysgol annibynnol sydd wedi'i chofrestru i dderbyn disgyblion sydd ag AAA o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd â disgyblion ag AAA ar y gofrestr
  • arolygu a monitro’n flynyddol holl golegau arbenigol annibynnol Cymru, a darparu arolygydd fel rhan o dîm ar gyfer yr arolygiadau neu’r ymweliadau monitro blynyddol â cholegau arbenigol annibynnol yn Lloegr lle y caiff lleoedd 10 neu fwy o ddysgwyr o Gymru eu cyllido
  • cofrestru ysgolion annibynnol, gan gynnwys ceisiadau am newidiadau sylweddol
  • Y Grant Datblygu Disgyblion
  • Y Grant Gwella Addysg ar gyfer ysgolion
  • datblygu cymwysterau a threfniadau arolygu ar gyfer unrhyw ofynion newydd arfaethedig o ran hyfforddiant cychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes
  • ysgolion sy'n peri pryder
  • gwaith dilynol gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol a threfniadau/consortia rhanbarthol
  • enwebiadau er anrhydedd
  • gwybodaeth gefndir ar gyfer ymweliadau Gweinidog ag ysgolion
  • cwestiynau’r Senedd