Neidio i'r prif gynnwy

Y cyngor penodol sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2020 i 2021

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu cylch gwaith blynyddol Estyn ar gyfer 2020 i 2021 gan y Gweinidog dros Addysg. Mae’r cylch gwaith blynyddol yn ychwanegol at waith craidd Estyn.

1a) Parhau i roi cyngor, adroddiadau manwl a, lle bo'n briodol, adnoddau eraill sy’n defnyddio tystiolaeth a gesglir yn ystod ymweliadau ymgysylltu

Yn ystod 2020 i 2021, bydd Estyn yn cymryd saib o’i chyfres arferol o adroddiadau thematig ac yn canolbwyntio ar helpu’r system addysg i ddod dros pandemig COVID-19.

Bydd Estyn hefyd yn gohirio rhai arolygiadau o ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion yn ystod blwyddyn academaidd 2020 i 2021. Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi hwyluso hyn. Bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 1 Medi 2020 ac yn ymestyn y cylch arolygu presennol o 7 i 8 mlynedd. Bwriad gohirio rhai arolygiadau oedd ei gwneud yn bosibl i arolygwyr gefnogi’r cwricwlwm drwy ymweliadau ymgysylltu. Fodd bynnag, yn sgil pandemig COVID-19, caiff yr ymweliadau eu defnyddio i gychwyn i helpu ysgolion i ddod dros y sefyllfa bresennol.

Bydd Estyn yn cofnodi’r dysgu a gyflawnwyd ac yn darparu cyngor annibynnol a thystiolaeth er mwyn helpu’r gwaith cynllunio cychwynnol ar gyfer parhau â’r broses ddysgu mewn ysgolion a sectorau ôl-16, ynghyd â phenderfyniadau i gefnogi’r system addysg wrth iddi ddod dros pandemig COVID-19.
Er mwyn darparu cyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth, bydd yr arolygwyr yn cofnodi adborth darparwyr ac yn yn ymweld â nhw at ddibenion ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar gofnodi’r dysgu a gyflawnwyd a thystiolaeth ynghylch yr heriau sy’n parhau o ran gweithwyr proffesiynol, dysgwyr a rhieni.

Yn benodol, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i Estyn ddarparu cyngor ar draws y sectorau sydd o fewn ei gylch gwaith mewn perthynas ag:

  • Ymgysylltu â dysgwyr, gan gynnwys strategaethau effeithiol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
  • Y cwricwlwm cartref a’r broses bontio i’r cwricwlwm yn lleoliadau pob darparwr addysg yn dilyn yr argyfwng presennol
  • Cymorth i ddysgwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol, yn enwedig mewn perthynas â lles emosiynol
  • Cyfleoedd cyfartal i ddysgu a chymorth
  • Cymorth wrth bontio i addysg gynradd ac uwchradd, ac i addysg a hyfforddiant ôl-16
  • Dysgu mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol a gomisiynir gan awdurdodau lleol (ee ysgolion arbennig annibynnol, colegau, lleoliadau hyfforddiant, y cartref)

Gellir rhoi’r cyngor hwn drwy weithgorau, cyngor ysgrifenedig neu ganllawiau neu adroddiadau a gyhoeddir.
Yn dibynnu ar y sefyllfa, wrth i bethau ddatblygu, o ran y system addysg, bydd Estyn yn penderfynu, gan ymgynghori â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, p’un a fydd yna adeg briodol i ddechrau canolbwyntio yn yr ymweliadau ymgysylltu ar baratoadau i weithredu Cwricwlwm i Gymru.

Yn ystod tymor yr hydref 2020 i 2021, bydd Estyn yn cynnal adolygiad thematig o ddulliau awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o gefnogi dysgu a dysgwyr sy’n agored i niwed yn ystod pandemig COVID-19. Bydd yr adolygiad yn gwerthuso effeithiolrwydd, dylanwad ac effaith dulliau adrannau addysg awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o gefnogi ysgolion, cyrff llywodraethu a dysgwyr yn ystod y cyfnodau dysgu o bell a phan ailagorwyd ysgolion yn rhannol, ac yn llawn o fis Medi 2020.

Bydd Estyn hefyd yn cynnal adolygiadau thematig o’r dulliau o ddysgu cyfunol, o ymgysylltu â dysgwyr a darparu cymorth iechyd meddwl a lles mewn colegau addysg bellach, lleoliadau darparwyr dysgu seiliedig ar waith a phartneriaethau lleoliadau dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19. Bydd yr adolygiadau yn tynnu sylw at arferion sy’n gweithio’n dda yn ogystal ag elfennau y mae angen eu datblygu ymhellach, gan dynnu ar sgyrsiau â lleoliadau ôl-16 yn nhymor yr hydref a gwaith ymgysylltu pellach gyda sampl o ddarparwyr ar ddechrau tymor y gwanwyn 2021.

1b) Parhad y gwaith ar yr adnodd gwerthuso a gwella cenedlaethol

Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr adnodd gwerthuso a gwella cenedlaethol.

1c) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gefnogi ysgolion sy’n destun pryder

Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i dreialu dulliau newydd o gefnogi ysgolion sy’n destun pryder.

1d) Meysydd polisi y gallai Llywodraeth Cymru geisio cyngor neu gymorth yn eu cylch, a hynny drwy gyfrannu at waith gweithgorau

Mae Estyn yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn amrywiaeth o feysydd. Gellir gofyn i Estyn roi cymorth i amryw o wahanol weithgorau, drwy ddod yn rhan ohonynt, drwy gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, neu drwy drafodaethau gydag uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru.

Ar gyfer 2020 i 2021, rhagwelir y bydd Estyn yn rhan o’r gweithgorau canlynol, ond bydd hyn yn cael ei adolygu wrth i’r gwaith fynd rhagddo:

  • Y Gangen Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Fforwm Cymru Gyfan o Ymarferwyr Addysg Sipsiwn-Teithwyr
  • Grŵp Diogelu mewn Addysg Cymru Gyfan
  • Grŵp Mesurau Perfformiad Cyson
  • Grŵp y Cwricwlwm ac Asesu, Cwricwlwm i Gymru
  • Bwrdd Cyflawni Gweithredol Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp Cydlyniant Cwricwlwm i Gymru
  • Grŵp Asesu Cwricwlwm i Gymru
  • Gweithredu Adolygiad Cwricwlwm i Gymru: Bwrdd Newid
  • Grŵp y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
  • Grŵp Gweithrediadau Digidol
  • Gweithgor Safonau Digidol
  • Grŵp Safonau Digidol
  • Grŵp Darparu Addysg Heblaw yn yr Ysgol
  • Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Diwygio Addysg
  • Gweithgor Rhanddeiliaid Addysg Ddewisol yn y Cartref
  • Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang
  • Bwrdd Recriwtio a Chadw Addysg Gychwynnol Athrawon
  • Grŵp Trosglwyddo o Addysg Gychwynnol Athrawon
  • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol ar y Cyd ar gyfer Dull Gweithredu Ysgol Gyfan o ran Iechyd Meddwl a Lles
  • Cyfarfod Cadw mewn Cysylltiad (Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Llywodraeth Cymru ac Arolygiaethau)
  • Bwrdd Prosiect Ysgolion sy’n Ymarferwyr Arweiniol ac Ysgolion sy’n Ymarferwyr Datblygol
  • Fforwm Awdurdodau Lleol ar Gyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol
  • Rhwydweithiau Cenedlaethol
  • Y Rhwydwaith Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol
  • Y Grŵp Strategol Cenedlaethol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysgol
  • Gweithgor PISA
  • Grŵp Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol
  • Grŵp Llywio Digidol 2030
  • Grŵp Arbenigol Addysg Bellach Ôl-16
  • Grŵp Llywio Diogelu mewn Addysg
  • Grŵp Ysgolion sy’n Destun Pryder
  • Bwrdd Achredu Addysg Athrawon
  • Y Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru: Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid
  • Fforwm Strategol Cymru ar gyfer Datblygu Gyrfaoedd
  • Grŵp Data Llywodraeth Cymru
  • Cynhadledd Gwella a Chymorth Llywodraeth Cymru
  • Grŵp Rhanddeiliaid Gwaith Ieuenctid
  • Grŵp Llwyth Gwaith Llywodraeth Cymru

Gweithgorau Meysydd Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru:

  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Y Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Gweithgorau Arloeswyr Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i Gymru

1e) Meysydd eraill y gallai Llywodraeth Cymru geisio cyngor a chymorth yn eu cylch o ran addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Mae Estyn hefyd yn cynnig cefnogaeth barhaus yn y meysydd canlynol:

  • Cynigion yn ymwneud â chau ac ad-drefnu ysgolion
  • Lleoliadau ar gyfer disgyblion sydd â datganiad o angen addysgol arbennig (AAA), lle mae caniatâd penodol gan Weinidog Cymru yn ofynnol o dan adran 347(5)(b) o Ddeddf Addysg 1996
  • Monitro'n flynyddol ysgolion annibynnol sydd wedi'u cymeradwyo o dan adran 347(1) o Ddeddf Addysg 1996 i dderbyn disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol ac sydd â disgyblion ag AAA ar y gofrestr; neu ysgol annibynnol sydd wedi'i chofrestru i dderbyn disgyblion sydd ag AAA o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd â disgyblion ag AAA ar y gofrestr
  • Arolygu a monitro’n flynyddol holl golegau arbenigol annibynnol Cymru, a darparu arolygydd fel rhan o dîm ar gyfer yr arolygiadau neu’r ymweliadau monitro blynyddol â cholegau arbenigol annibynnol yn Lloegr lle y caiff lleoedd 10 neu fwy o ddysgwyr o Gymru eu cyllido
  • Cofrestru ysgolion annibynnol
  • Y Grant Datblygu Disgyblion
  • Y Grant Gwella Addysg ar gyfer ysgolion
  • Datblygu cymwysterau a threfniadau arolygu ar gyfer unrhyw ofynion newydd arfaethedig o ran hyfforddiant cychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes
  • Ysgolion sy'n peri pryder
  • Gwaith dilynol gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol
  • Enwebiadau er anrhydedd
  • Gwybodaeth gefndir ar gyfer ymweliadau Gweinidog ag ysgolion
  • Cwestiynau'r Cynulliad.