Cylch gorchwyl o 21 Ionawr 2021
Crynodeb o ddiben y grŵp o 21 Ionawr 2021 yn dilyn y penderfyniad i ofyn i ganolfannau bennu graddau dysgwyr.
Cynnwys
Cefndir a chyd-destun
Sefydlwyd y Grŵp Dylunio a Chyflawni i ddatblygu cynigion ymarferol a allai gyflawni polisi'r Gweinidog Addysg ar gymwysterau yn 2021, yn dilyn cyhoeddiad mis Tachwedd 2020 na fyddai arholiadau TGAU, UG na Safon Uwch ar gyfer cymwysterau a gymeradwywyd gan Cymwysterau Cymru. O dan gadeiryddiaeth Geraint Rees, mae'r grŵp yn cyflawni swyddogaeth gynghori ac nid oes ganddo unrhyw rôl ffurfiol o ran gwneud penderfyniadau, nac yn effeithio ar drefniadau atebolrwydd na chyfrifoldebau statudol unrhyw sefydliad arall.
Roedd ei gylch gwaith cychwynnol yn cynnwys datblygu model canlyniadau sy'n seiliedig ar ganolfannau, i gynnwys elfen o asesiadau yn yr ystafell ddosbarth a reolir gan athrawon, a fyddai'n cael eu gosod a'u marcio'n allanol gan CBAC. Ym mis Rhagfyr 2020, cyflwynodd y grŵp gynigion yn seiliedig ar ddull tair colofn (lle byddai marciau a ddyfarnwyd drwy asesiadau heb arholiadau, asesiadau mewnol ac asesiadau allanol yn cyfrannu at radd a ddyfarnwyd gan CBAC). Derbyniwyd y model ac, ar 16 Rhagfyr, hysbysodd y Gweinidog Addysg ei bwriad i gymwysterau cyffredinol gael eu cefnogi gan y dull tair colofn.
Dros wyliau’r Nadolig, mewn ymateb i gwrs newidiol y pandemig, a'r cyhoeddiad y dylai ysgolion a cholegau ddychwelyd i drefniadau dysgu o bell i ddysgwyr, cafodd y cyfnod asesu cyntaf a gynlluniwyd fel rhan o'r dull tair colofn ei ganslo a gwnaeth y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni ailymgynnull i addasu'r cynigion yr oedd wedi'u cyflwyno'n flaenorol wrth geisio sicrhau eu bod yn parhau i hyrwyddo lles a chynnydd dysgwyr.
Ar 20 Ionawr 2021, ar ôl derbyn cynigion diwygiedig gan y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai cymwysterau dysgwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a gymeradwywyd gan Cymwysterau Cymru yn cael eu dyfarnu drwy fodel gradd a bennir gan y ganolfan. Roedd hyn yn golygu y byddai graddau'n cael eu pennu gan ysgol neu goleg y dysgwyr yn seiliedig ar asesiad o’u gwaith.
Mae’r model gradd a bennir gan y ganolfan yn rhoi ffydd mewn ymarferwyr i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael i gefnogi cynnydd dysgwyr. Mae hefyd yn cydnabod bod gan athrawon a darlithwyr y wybodaeth am ansawdd ac ehangder gwaith eu dysgwyr a'u bod yn y sefyllfa orau i gynllunio asesiadau ochr yn ochr â'u cynlluniau addysgu a dysgu. Fel rhan o'i waith, mae'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni yn parhau i weithio ochr yn ochr â Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru i ddarparu dull cefnogol wedi'i sgaffaldio sydd â’r nod o arwain canolfannau drwy’r broses raddio.
Mae ffocws gwaith cymwysterau 2021 wedi blaenoriaethu tegwch, lles a chynnydd dysgwyr, yng nghyd-destun tarfu parhaus sylweddol ar ddysgu oherwydd COVID-19.
Cwmpas
Mae'r grŵp yn gyfrifol am ystyried materion sy'n ymwneud â TGAU, UG a Safon Uwch ar gyfer cymwysterau sydd wedi’u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru. Pan fydd materion yn dod i'r amlwg sy'n berthnasol i gymwysterau ehangach, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol, caiff y rhain eu nodi a'u rhannu gyda thîm polisi perthnasol Llywodraeth Cymru neu sefydliad arall.
Mae ei ffocws, ers mis Ionawr 2020, wedi bod yn ddeublyg:
- Cynghori ar ddyluniad y trefniadau ar gyfer y model gradd a bennir gan y ganolfan, gan gynnwys y dull wedi’i sgaffaldio o gefnogi canolfannau drwy'r broses ddyfarnu.
- Chefnogi'r gwaith o weithredu’r model gradd a bennir gan y ganolfan wrth iddo symud o'r cam dylunio i'r cam cyflawni.
Mae cwmpas ei waith yn cynnwys datblygu cyngor a dulliau gweithredu sydd â'r nod o sicrhau dull cyson ledled Cymru, y dysgu proffesiynol a allai gefnogi hyn, a manylion y dull cenedlaethol y cytunwyd arno i ddarparu tryloywder i gefnogi hyder ymhlith dysgwyr a'r cyhoedd.
Yng nghyd-destun y model y cytunwyd arno, er nad yw'n rhestr gynhwysfawr, mae'r grŵp hefyd yn gyfrifol am gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynigion ar apeliadau, ymgeiswyr preifat, ac mewn perthynas â materion llwyth gwaith ac ystyriaethau eraill sy’n ymwneud â'r gweithlu, cydraddoldeb a llais y dysgwr.
Mae hon yn flwyddyn eithriadol arall a'r penderfyniadau a wneir eleni fydd y rhai sy'n iawn i ddysgwyr yn haf 2021. Dylai'r dull fod yn gyson â'r cyfeiriad teithio ar ddiwygio'r cwricwlwm, a bydd y grŵp yn parhau i fod yn ymwybodol o'r goblygiadau ar gyfer 2022 wrth ddatblygu ei fodel, yn enwedig y rhai ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 12 ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid yw'r grŵp yn cael y dasg o ddatblygu model tymor hwy ar gyfer cymwysterau: bydd hyn yn broblem i'r llywodraeth nesaf, wedi'i llywio gan ymgynghoriad Cymwysterau Cymru yn gynnar yn 2021, ac yng nghyd-destun y tarfu parhaus sy'n gysylltiedig â COVID-19.
Materion i'w hystyried
- Ymwybyddiaeth ofalgar o'r pwysau parhaus ar athrawon a darlithwyr a sicrhau bod unrhyw gynigion yn dderbyniol ac yn gymesur ar eu hamser, o ystyried beichiau eraill (yn enwedig yr angen i barhau i addysgu).
- Perchnogaeth o'r model gan athrawon/darlithwyr, a'r gallu i gefnogi eu dysgwyr drwy gydol y flwyddyn.
- Eglurder ynghylch sut y bydd cynigion yn gwneud y gorau o'r amser addysgu a dysgu sydd ar gael.
- Sicrhau bod y darlun cenedlaethol cyffredinol yn ymgorffori materion cydraddoldeb yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
- Rhoi sicrwydd i brifysgolion am sgiliau a galluoedd dysgwyr a'u bod wedi ymdrin â'r elfennau craidd sydd eu hangen i symud ymlaen yn llwyddiannus.
- Rhoi sicrwydd i brifysgolion ar drylwyredd y dull arfaethedig.
- Ystyried y fframwaith cyfreithiol a'r gofynion ar gyfer dyfarnu cymwysterau cyffredinol.
- Cefnogi'r gwaith o ddatblygu llinell amser a chynllun gwaith, gan gynnwys cyfathrebu.
Strwythur y broses o wneud penderfyniadau
Gwahoddwyd aelodau’r grŵp penaethiaid/arweinwyr coleg drwy argymhellion gan gonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a ColegauCymru.
Cadeirir y grŵp gan Geraint Rees, sydd wedi cael gwahoddiad i helpu'r grŵp i ddatblygu cyfres o gynigion ymarferol sy'n bodloni meini prawf y Gweinidog. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn eistedd ar y grŵp i gynrychioli'r cyd-destun polisi ehangach, a byddant yn darparu'r ysgrifenyddiaeth.
Mae'r grŵp yn gyfrifol am ddatblygu cynigion ar gyfer y model gradd a bennir gan y ganolfan, y mae'r cadeirydd neu swyddogion Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno'n rheolaidd i grŵp cyfeirio allanol presennol Llywodraeth Cymru ar gymwysterau. Efallai yr hoffai'r grŵp cyfeirio roi sylwadau ar y cynigion. Mae angen i'r cynigion roi manylion clir am ddulliau gweithredu ac amseru i ysgolion a cholegau eu datblygu.
Rolau a chyfrifoldebau ehangach – cymwysterau 2021
Rolau'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru yw:
- gosod polisi addysg
- goruchwylio'r system addysg
- ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol
Rôl y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni yw:
- rhoi cyngor i'r Gweinidog ar ddarparu a gweithredu trefniadau asesu haf 2021
- cefnogi cyfathrebu a dealltwriaeth ar draws y sector addysg a chyda dysgwyr
Rôl Cymwysterau Cymru yw:
- rhoi cyngor arbenigol i'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni
- goruchwylio'r dull asesu
- pennu rheolau rheoleiddio'r dull asesu (gan gynnwys y broses apelio) y mae CBAC yn cyflawni oddi tano
Rôl CBAC yw:
- rhoi cyngor arbenigol i'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni
- gweithredoli a gweithredu'r dull asesu, gan gynnwys darparu hyfforddiant a chymorth
- sicrhau ansawdd y dull asesu
- darparu proses apelio
Ffyrdd o weithio
Mae'r Gweinidog wedi nodi dull polisi a ffefrir ar gyfer 2021 sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhan o'r sector addysg yng Nghymru ddod at ei gilydd a chydweithio i ddatblygu model a dull sy'n cefnogi ein dysgwyr. Arweinir y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni gyda hyn mewn golwg.
Bydd y penaethiaid / arweinwyr coleg sy'n cymryd rhan yn y grŵp yn rhan annatod o'u perthynas bresennol rhwng yr ysgol a'r coleg. Fodd bynnag, ni fydd yn ofynnol iddynt gynrychioli cymuned ehangach penaethiaid / arweinwyr coleg Cymru o fewn y grŵp.
Bydd manylion trafodaethau'r grŵp yn gyfrinachol o fewn y grŵp, i gefnogi deialog agored. Bydd y cadeirydd yn rhannu gwybodaeth a diweddariadau fel y bo'n briodol.
Bydd y grŵp yn trefnu is-grwpiau i ystyried meysydd penodol, gan gefnogi ystyriaeth fanwl o faterion cymhleth wrth sicrhau eu bod yn cydgysylltu ac yn unol â dull cytûn a chyffredinol.
Bydd y grŵp yn gweithredu mewn rôl lysgenhadol, gan gefnogi dealltwriaeth ehangach yn y sector addysg o'r dull gweithredu a chasglu a rhannu gwybodaeth am faterion allweddol neu feysydd sy'n peri pryder.
Amseriad cyfarfodydd
Cynhelir cyfarfodydd bob wythnos rhwng 11am ac 1pm, gydag is-grwpiau'n cyfarfod fel sy'n ofynnol rhwng prif gyfarfodydd y grŵp. Llywodraeth Cymru fydd yn darparu swyddogaeth yr ysgrifenyddiaeth. Bydd y grŵp yn ystyried cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen.
Aelodaeth
Mae'r aelodau isod wedi cydsynio i gyhoeddi eu henw, a’r ysgol/coleg y maent yn gysylltiedig â hi/ef.
Tracy Senchal (Ysgol Coed-cae)
Daniel Owen (Ysgol Uwchradd Llanidloes, Powys)
Mark Tucker (Ysgol Uwchradd John Frost)
Christopher Wilkinson (Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, Wrecsam)
Aaron Bayley (Ysgol Syr Thomas Jones, Ynys Môn)
Justin O’Sullivan (Cardinal Newman)
Trystan Edwards (Ysgol Garth Olwg)
Mark Leighfield (Coleg Catholig Dewi Sant)
Andrew Cornish (Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion)
Yana Williams (Cambria)
Kay Martin (Coleg Caerdydd a’r Fro)
Marc Belli (Ysgol Cil-y-coed, Sir Fynwy; Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd)
Sarah Sutton (Ysgol Eirias)
Mair Hughes (Ysgol Penglais, Aberystwyth)
Mark Dacey (Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot)
Lee Hitchings (Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Abertawe)
Rebecca Collins (Ysgol Sant Cenydd, Caerffili)
Phillip Collins (Ysgol Abersychan, Torfaen)
Iwan Pritchard (Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Caerdydd)
Gwahoddir Cymwysterau Cymru a CBAC i bob cyfarfod, gan gynnwys trafodaethau is-grwpiau, fel arsylwyr i roi cyngor arbenigol ar waith asesu.