Neidio i'r prif gynnwy

1. Diben

1.1. Pwrpas Grŵp Cynghori Draenogiaid Môr Cymru (WSBAG) yw cynghori ar weithredu'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid Môr ar gyfer Cymru a Lloegr. Y grŵp fydd y prif fforwm ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithio i wella pysgodfa draenogiaid môr yng Nghymru trwy gyd-reoli. Mae Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol gyfrifol o dan ddeddfwriaeth berthnasol am reoli pysgodfeydd yng Nghymru. Felly, mae rôl rhanddeiliaid wrth gyd-reoli ein pysgodfeydd yn gyngor yn hytrach na swyddogaeth gwneud penderfyniadau. Mae Gweinidogion Cymru yn gwerthfawrogi cydweithio a chyngor gan randdeiliaid yn fawr mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Bydd y grŵp yn blaenoriaethu, cynorthwyo a chynghori ar weithredu'r camau gweithredu yng Nghynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid Môr ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd yn gwerthuso ac yn rhoi adborth ar effeithiolrwydd polisïau a chynlluniau sy'n ymwneud â rheoli pysgodfeydd draenogiaid môr yng Nghymru.

1.2. Fel arfer, bydd y Grŵp yn cyfarfod 6 gwaith y flwyddyn.

1.3. Gan fod Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid Môr yn ymrwymiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd WSBAG yn cydweithredu ar gamau gweithredu y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd ar y cyd ac yn monitro cynnydd gyda chymheiriaid Defra trwy swyddogion Llywodraeth Cymru yn ôl yr angen.

1.4. Bydd WSBAG a grwpiau eraill sy'n benodol i bysgodfeydd yn llywio'r Grŵp Cynghori Gweinidogol strategol ar gyfer Pysgodfeydd Cymru (MAGWF) ac yn rhoi gwybod iddynt am gynnydd er nad oes atebolrwydd uniongyrchol.

2. Llywodraethiant

2.1. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd ac yn cadeirio'r grŵp, gan nodi cyfeiriad clir.

2.2. Bydd blaengynllun ar gyfer yr agenda yn nodi gwaith y grŵp ond bydd yn cadw elfen o hyblygrwydd i gynnwys materion sy'n codi.

2.3. Bydd aelodaeth a chylch gorchwyl WSBAG yn cael eu hadolygu ym mis Tachwedd bob blwyddyn.

3. Aelodaeth

3.1. Bydd aelodaeth y grŵp yn cynnwys:

  • Cadeirydd
  • Cynrychiolwyr pysgotwyr masnachol, pysgotwyr hamdden, prynwyr/proseswyr
  • Cynrychiolwyr cymdeithasau pysgotwyr masnachol, cymdeithasau pysgotwyr hamdden, Cyswllt Amgylchedd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Pysgod Môr Cymru
  • Cynghorydd gwyddonol annibynnol
  • Hyd at 5 o Swyddogion Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru yn ôl yr angen (Rheoli, Gorfodi, Gwyddoniaeth, Polisi a Data a TGCh)

Aelodaeth gyfredol WSBAG yw:

Andy Davies - Bass Anglers’ Sportfishing Society (BASS)
Brett Garner - Cymdeithas Pysgotwyr Llyn
Colin Charman - Cyfoeth Naturiol Cymru
David Curtis - Bass Angling Conservation Ltd
Hannah Rudd - Angling Trust
Holly Kaiser - Seafish
Ian Mccarthy - Prifysgol Bangor
Jack Bailey British Spearfishing Association – De-orllewin Cymru
Jim Evans - Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
John O'Connor - Angling Cymru Sea Anglers
Kevin Denman - Cymunedau Pysgota De Cymru a'r Gorllewin
Mark Boulton - Pysgotwr masnachol
Nicola Cusack - Y Gymdeithas Cadwraeth Forol
Richard Harrison - British Spearfishing Association – De-orllewin Cymru
Richard Strudwick - Pysgotwr hamdden
Simon Frobisher - Pysgotwr hamdden
Sioned Williams - Cymdeithas Pysgotwyr Cewyll Llyn
Tedi Whitalls - Whitfish Ltd
I'w gadarnhau prynwr/prosesydd

3.2. Mae angen i Lywodraeth Cymru gynrychioli barn pobl eraill, nid barn unigol yn unig.

3.3. Mae'r cyfarfodydd wedi'u cyfyngu i aelodau enwebedig ac nid ydynt yn agored i aelodau'r cyhoedd.

3.4. Ar wahoddiad y Cadeirydd, gellir gwahodd unigolion o'r tu allan i'r grŵp i fynychu cyfarfodydd penodol i drafod neu gyflwyno ar bwnc sy'n berthnasol i'r diwydiant pysgota draenogiaid mor neu eitem benodol ar yr agenda.

4. Ffyrdd o weithio

4.1. Bydd aelodau WSBAG yn cyfarfod hyd at 6 gwaith y flwyddyn ar ddyddiadau a bennwyd ymlaen llaw, i'w hysbysu ymlaen llaw. O bryd i'w gilydd efallai y bydd gofyn cynnal cyfarfodydd arbennig o'r Grŵp ac os felly rhoddir o leiaf bum niwrnod gwaith o rybudd i aelodau.

4.2. Er mwyn arbed amser a chaniatáu hyblygrwydd, cynhelir y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd yn rhithwir gan ddefnyddio Microsoft Teams neu debyg. Bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd ac yn rhoi manylion i'r aelodau a chyfarwyddiadau ymuno.

4.3. Fel arfer, bydd agendâu yn cael eu cyhoeddi drwy e-bost bum diwrnod gwaith cyn cyfarfodydd. Gwneir pob ymdrech i rannu unrhyw bapurau cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu ystyriaeth briodol gan aelodau.

4.4. Disgwylir i aelodau ofyn am farn y rhai y maent yn eu cynrychioli. Ni ddylid anfon papurau at unrhyw un y tu allan i'w sefydliadau heb ganiatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rhannu hefyd gadw at ofynion diogelu data.

5. Yr Ysgrifenyddiaeth

5.1. Bydd Ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan Is-adran Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer pob cyfathrebiad.

5.2. Bydd cofnodion arddull 'gweithredu' yn cael eu cymryd o bob cyfarfod a'u rhannu ag aelodau i'w cymeradwyo. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.

5.3. Bydd yr holl bapurau'n cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe Pysgodfeydd draenogiaid môr unwaith y bydd y cofnodion wedi'u cymeradwyo.