Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg Cymru a sut y bydd yn gweithio.

Cefndir

Sefydlwyd y Grŵp Cynghori Technegol TB Buchol (TAG) i gefnogi'r Rhaglen Dileu TB a rhoi cyngor arbenigol annibynnol i Fwrdd y Rhaglen Dileu TB, y Prif Swyddog Milfeddygol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Rôl

Mae'r Grŵp yn rhoi cyngor cyfannol ar sbectrwm eang o wyddoniaeth TB a materion technegol mewn ymateb i geisiadau gan lunwyr polisi, y Prif Swyddog Milfeddygol ac Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'n nodi meysydd i'w hystyried a allai helpu i gyflymu dileu TB yng Nghymru.

Nid oes gan y Grŵp yr ymreolaeth i wneud penderfyniadau ar ddyrannu cyllid neu Gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda chyrff/asiantaethau cyflenwi, na chymeradwyo cynlluniau wrth gefn neu gyflwyniadau Gweinidogol. Bydd yr aelodau'n gwasanaethu fel unigolion ac nid ydynt yn cynrychioli unrhyw sefydliadau. Ni fydd gan yr aelodau yr hawl i enwebu eilyddion i fynychu yn eu habsenoldeb.

Mae cyfrifoldebau'r Grŵp yn cynnwys:

  • rhoi cyngor i Fwrdd y Rhaglen, llunwyr polisi, y Prif Swyddog Milfeddygol ac Ysgrifennydd y Cabinet
  • ystyried materion sy'n ofynnol i gyflawni'r canlyniadau strategol yng Nghynllun Dileu TB Cymru a'i Gynllun Cyflawni cysylltiedig
  • adolygu cynnydd ar y rhaglen dileu TB yn erbyn targedau carreg filltir, a herio'r cynnydd hwnnw mewn ffordd adeiladol
  • rhoi cyngor annibynnol i gefnogi datblygiad penderfyniadau polisïau newydd a datblygol
  • cysylltu ag ystod o arbenigwyr sectoraidd i gasglu tystiolaeth i lywio cyngor, yn ôl yr angen

Aelodaeth

Mae'r Grŵp yn cynnwys aelodau a benodir drwy benodiadau cyhoeddus a'r Cadeirydd. 

Bydd y Prif Swyddog Milfeddygol yn cydweithio'n agos â’r Grŵp i ddarparu arbenigedd a safbwynt llywodraethol. Er y bydd y Grŵp yn ystyried barn y Prif Swyddog Milfeddygol, bydd yn cadw perchnogaeth dros unrhyw gyngor a roddir ac ni fydd angen iddo gael cytundeb y Prif Swyddog Milfeddygol na sicrhau bod unrhyw gyngor neu adroddiadau yn cyd-fynd â barn y Prif Swyddog Milfeddygol. 

Bydd yr aelodau'n parhau fel aelodau o’r grŵp cyn belled â'u bod yn cydymffurfio â saith egwyddor bywyd cyhoeddus y Pwyllgor Safonau Cyhoeddus.

Gall y Cadeirydd, gyda chyngor gan y Grŵp, geisio cael gafael ar arbenigedd ehangach, yn dibynnu ar yr angen.

Gall y Grŵp nodi gofyniad i is-grwpiau gefnogi ei waith a chyflwyno cynnig drwy'r Ysgrifenyddiaeth. Bydd y Cadeirydd a'r Grŵp yn cytuno ar gylch gwaith is-grwpiau o'r fath. Bydd aelodau unigol o'r Grŵp yn cael y dasg o arwain neu gydlynu'r grwpiau hyn. 

Cyfrinachedd

Fel aelodau o'r Grŵp Cynghori Technegol, rydych yn cydnabod y cyfrifoldebau sy'n codi o gytundeb cyfrinachedd yn unol â'r cytundeb a lofnodwyd wrth dderbyn swydd ar y Grŵp. Bydd yr aelodau'n parchu ffiniau cyfrinachedd bob amser.  Cynhelir cyfarfodydd dan ddealltwriaeth gyffredin gaeth, sy'n ymwneud â'r holl drafodaethau, ac ystyrir bod unrhyw bapurau neu ddogfennau a ddatgelir yn "GYFRINACHOL" ac ni ddylid eu trafod na'u datgelu y tu allan i'r cyfarfod neu'r Grŵp heb ganiatâd.

Cymorth

Darperir Ysgrifenyddiaeth y Grŵp gan Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru.

Adnoddau

Nid oes gan y Grŵp gyllideb ddirprwyedig, ond gall y Grŵp fynd at Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol i gael cyllid ar gyfer darn penodol o waith. Bydd y Prif Swyddog Milfeddygol yn ystyried hyn fesul achos.  

Adolygiadau

Dylai'r Grŵp adolygu a chytuno ar y Cylch Gorchwyl hwn yn ei gyfarfod cyntaf, ac yn flynyddol yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn galendr, neu pan fo angen.

Gohebiaeth

Bydd Llywodraeth Cymru fel arfer yn cyhoeddi cofnodion sy'n codi o gyfarfodydd y Grŵp yn Gymraeg a Saesneg ar ei gwefan, yn unol â deddfwriaeth sy'n llywodraethu mynediad cyhoeddus at wybodaeth.

Y Gymraeg

Bydd y gwaith a wneir gan y Grŵp yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Gymraeg a'i gweledigaeth o genedl ddwyieithog ar gael yma:  https://www.llyw.cymru/y-gymraeg

Ailbenodiadau

Pan ddaw cyfnod penodi aelod i ben, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu a ddylid ailbenodi'r aelod hwnnw am gyfnod pellach neu gynnal proses benodi gyhoeddus i gael rhywun yn ei le.