Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl am y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol ar Ddull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-weinidogol ar ddull ysgol gyfan o hybu iechyd meddwl a llesiant, fel rhan o ddull system gyfan sydd hefyd yn cydnabod effaith ehangach llesiant corfforol.  Wrth fynd ati i gyflawni hyn, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ystyried yr argymhellion a'r canfyddiadau yn adroddiad Cadernid Meddwl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Ebrill 2018).  Caiff y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei gefnogi gan grŵp cyfeirio rhanddeiliaid.

Diben

Diben y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid yw:

  • cefnogi gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen drwy roi mewnbwn arbenigol a gweithredu fel bwrdd seinio i'r Bwrdd Gorchwyl a Gorffen wrth i raglen waith y dull ysgol gyfan gael ei datblygu a'i rhoi ar waith.
  • gweithredu fel cyswllt rhwng y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a'r trydydd sector er mwyn helpu i nodi dulliau strategol a gweithredol a all gefnogi'r dull ysgol gyfan a chytuno arnynt.
  • ystyried atebion ymarferol a rhoi cyngor ac argymhellion i Lywodraeth Cymru i gefnogi'r rhaglen waith.

Bydd gwaith a wneir gan y grŵp hwn yn cyd-fynd â'r egwyddorion sy'n sail i waith yr ysgol gyfan a'r dull ysgol gyfan:

  • Rhaid i'r cymorth fod yn gyffredinol ac wedi'i dargedu.
  • Rhaid i'r cymorth fod yn briodol, yn amserol ac yn effeithiol.
  • Rhaid i'r cymorth ganolbwyntio ar atal, ymarfer adferol ac ar ymyrryd effeithiol ac amserol pan fydd angen.
  • Dylai cymorth osgoi meddygoli plant, a chanolbwyntio ar anghenion a dymuniadau'r plant a'r bobl ifanc dan sylw. 

Aelodaeth a Strwythur y Grŵp

Bydd y Grŵp yn cwrdd o leiaf deirgwaith y flwyddyn, gan ddilyn yr un amserlen â'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Os bydd angen, gall gwrdd yn amlach er mwyn datblygu camau gweithredu neu ddarnau o waith penodol. Gellir llunio is-bwyllgorau gyda chytundeb y grŵp cyfan, er mwyn datblygu darnau o waith ar wahân ar sail ad hoc. Mae cyfyngiadau amser i'r Grŵp a bydd yn rhedeg tan ddiwedd tymor y Cynulliad hwn (Mai 2021).

Caiff ei gadeirio gan Ruth Conway, Dirprwy Gyfarwyddwr – Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru. Darperir cymorth ysgrifenyddiaeth gan Lywodraeth Cymru.

Aelodau

 

Sefydliad

Cynrychiolwyr a Gadarnhawyd

Yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf ar 24 Ionawr 2019

 

Byrddau Iechyd Lleol

 

 

  1.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Craige Wilson (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Plant a Chymunedol)

Oedd

  1.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gofynnwyd i Gary Doherty (Prif Weithredwr) roi enwebiadau

 

  1.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Addysgu Powys

1. Helen James, Nyrsio Ysgolion
2. Mary O’Grady, Rheolwr CAMHS 
3. Andy Evans, Cyfarwyddwr rhaglen ar gyfer Gofal Sylfaenol.
Bydd dau gynrychiolydd o blith y tri unigolyn hyn yn bresennol

Oedd

  1.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Nick Wood (i ffwrdd o'r gwaith ar hyn o bryd – bydd yn dychwelyd ar 10/12) – Mae ei Gynorthwyydd Personol wedi'i roi yn ei galendr

 

  1.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Rachel Burton (Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Bwrdd Clinigol Plant a Menywod)


Lisa Dunsford fydd y cynrychiolydd Gofal Sylfaenol

Oedd

 

Oedd

  1.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg

Gofynnwyd i Tracy Mayhill (Prif Weithredwr) roi enwebiadau.

 

  1.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Angela Lodwick, Pennaeth
S-CAMHS a Therapïau Seicolegol

Oedd

  1.  

Niwroddatblygol

Gofynnwyd i Dr Cath Norton, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, fod yn Gynrychiolydd.

 

 

  1.  

Nyrsio ysgolion

Barbara Morgan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Uwch Nyrs Sicrhau Ansawdd Nyrsio Ysgolion

Oedd

  1.  

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tim Opie, Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes

 

Oedd

  1.  

Llywodraethwr Ysgol/Cynrychiolydd rhieni

Gofynnwyd i Kevin Griffiths, SED, roi enwebiadau

 

  1.  

Cwnsela Awdurdod Lleol

Chris Alders, Awdurdod Lleol Bro Morgannwg

Oedd

  1.  

Seicoleg Addysgol Awdurdodau Lleol

Gofynnwyd i Debbie Tynan, Anawsterau Dysgu Difrifol, roi enwebiadau

 

  1.  

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Amani Hassan, Cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Oedd

  1.  

Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc

Deb Austin, Rheolwr Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc

Oedd

  1.  

Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru

Sarah Andrews, Pennaeth y Rhaglen, Lleoliadau Iach, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Oedd

  1.  

Swyddfa'r Comisiynydd Plant

Kirrin Davidson, Cynghorydd polisi

Oedd

 

Y Trydydd Sector

 

 

  1.  

Samariaid Cymru

Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol

Oedd

  1.  

Gofal

Liz Mander, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau

Oedd

  1.  

Mind

Nia Evans, Rheolwr, Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Oedd

  1.  

Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru

Lynzi Jarman, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ac Arloesi

Oedd

  1.  

Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol

Sharon Lovell, Cyfarwyddwr Gweithredol Cenedlaethol (Cymru)

Oedd

  1.  

Hwb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Gwahoddwyd Joanne Hopkins (Cyfarwyddwr)

Oedd

  1.  

Rhanddeiliad addysg (pennaeth?)

I'w gyhoeddi

 

  1.  

Cydgysylltydd ADY

Gofynnwyd i Debbie Tynan, Anawsterau Dysgu Difrifol, roi enwebiadau

 

  1.  

Cynrychiolydd TUC

1. Rosie Lewis, Unsain
2. Ruth Brady, GMB

Oedd

  1.  

Academaidd

Ann John, Athro Clinigol Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg

Oedd

  1.  

Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg (CYDAG)

Gofynnwyd am enwebiad

 

  1.  

Chwaraeon Cymru

Gofynnwyd i Paul Batcup, Cyfarwyddwr, am enwebiad

 

  1.  

Arbenigwr ar Anhwylderau Bwyta

Jacinta Tan, Seiciatrydd Ymgynghorol, Tîm Anhwylderau Bwyta Oedolion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg

Oedd

  1.  

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Sally Jenkins

Oedd (ond dim ond o 15:00 ymlaen)

  1.  

Cydffederasiwn y GIG

Vanessa Young,
Cyfarwyddwr

Oedd

  1.  

Diverse Cymru

Zahrah Bashir-Hicks, Gweithiwr Ieuenctid Iechyd Meddwl Ymysg Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

Oedd

  1.  

Uned Gyswllt yr Heddlu

Gofynnwyd i Lynda Young o Uned Gyswllt yr Heddlu (drwy DS/Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol) roi enwebiad

 

  1.  

End Youth Homelessness
 

Hugh Russell,
Bydd Rheolwr prosiect Cymru yn enwebu cynrychiolydd

 

Mewnbwn y tu allan i gyfarfodydd

Y tu allan i gyfarfodydd, gwneir gwaith ymgysylltu a chaiff mewnbwn ei roi yn electronig gan y Grŵp. Gellir ymgynghori â chronfa ehangach o randdeiliaid yn electronig a bod eu safbwyntiau'n cael eu bwydo'n ôl i'r Grŵp eu hystyried pan fo'n briodol.

Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid

Mae'r Grŵp yn bodoli ochr yn ochr â'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid, a fydd yn cwrdd gan ddilyn yr un amserlen a byddant yn ystyried agenda debyg. Bydd y nodyn o gyfarfodydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Ieuenctid ar gael i aelodau'r Grŵp hwn ar gais.

Cyfrinachedd

Anogir Aelodau'r Grŵp i ddefnyddio'r sefydliad neu'r sector maent yn ei gynrychioli a cheisio adborth ar faterion polisi ac ymarfer er mwyn llywio a chefnogi'r dull ysgol gyfan.

Fodd bynnag, bydd disgwyl i chi drin gwybodaeth a gafwyd drwy'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yn gyfrinachol gan rannu ar sail gyfyngedig yn unig.

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn hysbysu aelodau'r Grŵp o unrhyw wybodaeth gyfrinachol na ellir ei rhannu y tu allan i'r Grŵp.