Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi Ruth Glazzard fel yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru i fod yn gadeirydd nesaf Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn argymhelliad gan Banel Asesu Cynghorol, ar ôl ymarfer recriwtio teg ac agored a gynhaliwyd rhwng Mai a Gorffennaf 2022.
Mae swydd cadeirydd ACC yn benodiad cyhoeddus Gweinidogol a reoleiddir gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae'r cadeirydd presennol, Kathryn Bishop, yn rhoi’r gorau i’r swydd ym mis Hydref 2022 ar ôl 5 mlynedd.
Cyn i gadeirydd nesaf ACC gael ei benodi gan y Gweinidog, bydd Pwyllgor Cyllid y Senedd yn cynnal gwrandawiad cyn penodi ddydd Iau 22 Medi 2022.
Nodiadau
- Mae gan Bwyllgorau'r Senedd yr opsiwn i gynnal gwrandawiadau cyn penodi ar gyfer penodiadau Gweinidogol arwyddocaol Llywodraeth Cymru. Pwrpas gwrandawiadau o'r fath yw craffu ar y broses o wneud apwyntiadau cyhoeddus ac ystyried pa mor addas yw'r ymgeisydd a ffefrir. Cafodd gwrandawiad cyn penodi hefyd ei gynnal cyn i gadeirydd cyntaf ACC gael ei benodi yn 2017.
- Yn dilyn y gwrandawiad cyn penodi, bydd Pwyllgor Cyllid y Senedd yn cyhoeddi adroddiad yn rhoi ei farn. Bydd penderfyniad terfynol am y penodiad hwn yn cael ei wneud gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Ruth Glazzard
- Mae Ruth yn Is-gadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar hyn o bryd, ac yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
- Mae Ruth hefyd yn dal swyddi anweithredol gyda chymdeithas tai a menter gymdeithasol, ac yn ddiweddar bu ganddi rôl bwrdd dros dro gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru.
- Mae gan Ruth brofiad sylweddol o ran rheoli corfforaethol, a chefndir mewn rheoleiddio gwasanaethau ariannol, yn canolbwyntio'n benodol ar oruchwylio, archwilio a risg.
- Mae gan Ruth hefyd brofiad bwrdd sylweddol fel Cadeirydd annibynnol y Bwrdd Archwilio a Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Safonau ar gyfer Bwrdeistref Newham, Llundain.
- Cyn hynny bu ganddi rôl ryngwladol fel Pennaeth Llywodraethiant banc Standard Chartered, a bu'n gweithio mewn swydd rheoli gweithredol a rheoleiddiol yn yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.