Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, ei fod yn neilltuo’r swm uchaf o gyllid erioed, sef dros £227m, i sicrhau bod mwy o leoedd hyfforddi ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol. Dyma gynnydd o dros £16m ers y llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn golygu cynnydd o 8.3%. Rhoddir £9.124m yn rhagor ar gyfer ariannu hyfforddiant ar draws yr holl raglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru. Bydd £5.312m ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gynnal y niferoedd sy’n hyfforddi i fod yn feddygon teulu a bydd cynnydd o £0.762m yn y gyllideb hyfforddiant ym maes fferylliaeth ar draws Cymru.

Hefyd yn y cyhoeddiad heddiw, dywedir y bydd £2.3m ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer darparu rhagor o leoedd hyfforddiant ac addysg ym maes meddygaeth. Bydd hyn yn golygu y bydd yn bosibl cynnig y nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru. Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol yn cynyddu capasiti’r gweithlu er mwyn helpu’r GIG i ymateb i’r heriau sy’n ei wynebu heddiw, ac a fydd yn ei wynebu yn y dyfodol.

Dyma’r seithfed flwyddyn yn olynol y mae cyllid wedi cael ei gynyddu, ac mae hyn yn digwydd ar adeg sy’n garreg filltir i’r GIG yng Nghymru, wrth i hwnnw barhau i fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Eleni, mae GIG Cymru wedi dangos cryfder a chadernid eithriadol, rhywbeth na fyddai’n bosibl oni bai am ymroddiad diflino ei weithlu. Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn parhau â’u gwaith ar y rheng flaen er mwyn gofalu amdanon ni i gyd, wrth inni barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws. Fel cenedl, rhaid bod yn hynod ddiolchgar i’n sector iechyd a gofal, a dw i'n ymfalchïo ym mhopeth y maen nhw wedi ei gyflawni yn ystod y flwyddyn anodd a heriol hon.

“Mae eleni wedi dangos yn gliriach nag erioed pa mor hanfodol yw hi ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant ac yn cynnal ein gweithlu iechyd ledled Cymru. Mae mwy o bobl nag erioed yn ei hanes yn gweithio yn y GIG heddiw, er mwyn darparu gofal i bob unigolyn, teulu, a chymuned yng Nghymru. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod gweithlu’r GIG yn parhau i feddu ar y sgiliau priodol i allu darparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru, heddiw ac yn y dyfodol.”