Bydd y cynllun mor debyg â phosib i'r cynllun a gyhoeddwyd yn Lloegr.
Wrth siarad mewn Cynhadledd Gofal Iechyd Sylfaenol yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Gething mai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, sydd ar hyn o bryd yn darparu indemniad i ymarferwyr cyffredinol sy'n gweithio y tu allan i oriau, yw'r partner a ffefrir i weithredu'r Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.
Bydd y cynllun mor debyg â phosib i'r cynllun a gyhoeddwyd yn Lloegr er mwyn sicrhau nad yw meddygon teulu Cymru dan anfantais o gymharu â rhai Lloegr ac na fydd unrhyw effaith negyddol ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio yn sgil gwahanol gynlluniau yn gweithredu yn y ddwy wlad.
Dywedodd Mr Gething:
"Bydd y cynllun newydd yn rhoi mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd i feddygon teulu yng Nghymru. Bydd yn helpu meddygfeydd a chlystyrau gofal sylfaenol i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy a hygyrch.
Bydd Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol yn cynnwys gweithgarwch yr holl gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwyddau esgeuluster clinigol sy'n codi o weithgarwch staff practis meddygon teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill fel meddygon teulu cyflogedig; meddygon locwm; fferyllwyr y practis; nyrsys y practis; cynorthwywyr gofal iechyd.
Byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol ar ddarpariaeth Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol yng Nghymru ar ôl trafod ymhellach â sefydliadau amddiffyn meddygol."
Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru:
"Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Cronfa Gyfreithiol a Risg Cymru fel y partner a ffefrir i ddarparu indemniad rhag rhwymedigaethau'r dyfodol i ymarferwyr cyffredinol. Bydd y cynllun arfaethedig yn rhoi sylw i un o'r elfennau sy'n rhoi'r pwysau ariannol mwyaf ar feddygon teulu, ac yn caniatáu i bob meddyg teulu, timau practis a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill y clwstwr gydweithio'n agosach i drawsnewid gofal sylfaenol yng Nghymru."