Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies wedi amlinellu'r camau nesaf i ddiwygio a chryfhau llywodraeth leol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Mawrth, fe gyhoeddodd 'Cryfhau Llywodraeth Leol – Cyflawni dros ein Pobl' – sef ein hymgynghoriad Papur Gwyrdd gyda'r nod o gryfhau'r drafodaeth ar ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru.

Roedd y Papur Gwyrdd yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer cynghorau cryfach a mwy grymus sy'n arwain yn fentrus ac yn benderfynol yn lleol. Roedd hefyd yn cynnig tair ffordd bosibl o gyflawni hyn: uno gwirfoddol; uno fesul cam; ac uno cynhwysfawr cyn gynted â phosibl. 

Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw, gan ddweud ei fod yn sefydlu grŵp newydd i fwrw ymlaen â’r rhaglen ddiwygio a fyddai'n galluogi cynghorau i uno'n wirfoddol. Bydd y grŵp hefyd yn llunio’r strwythurau a’r ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cyflawni gweledigaeth newydd ar gyfer llywodraeth leol fwy grymus.  

Dywedodd Alun Davies, 

"Ers cryn amser, mae sawl grŵp ac unigolyn, gan gynnwys arweinwyr llywodraeth leol, wedi dweud nad yw system a strwythurau presennol llywodraeth leol yn gynaliadwy. 

"Rwyf am weithio gyda llywodraeth leol ar weledigaeth gyffredin i’r dyfodol, ac i fynd ati gyda'n gilydd i ddatblygu atebion i'r heriau maen nhw'n eu hwynebu. Nid yw'r heriau hynny – sy'n ymwneud â chynnal gwasanaethau cyhoeddus blaengar yng nghyd-destun cyni hirdymor – yn mynd i ddiflannu. 

"Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn awgrymu bod awydd ymysg llywodraeth leol i gydweithio i fynd ati i uno'n wirfoddol a chynyddu a gwella gwaith rhanbarthol. Felly, rwy'n bwriadu cyhoeddi Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yn gynnar y flwyddyn nesaf er mwyn i hyn symud ymlaen cyn gynted â phosibl. 

"Felly, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rwy’n bwriadu sefydlu gweithgor annibynnol i hybu dull gweithredu cyffredin a fydd yn llywio dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru." 

Mae Derek Vaughan wedi cytuno i arwain y gwaith hwn ac ef fydd cadeirydd y gweithgor. Bydd y gweithgor yn cynnwys aelodau o lywodraeth leol yn bennaf, gyda chefnogaeth ysgrifenyddiaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a bydd yn ystyried yr ystod eang o safbwyntiau a syniadau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad. 

Gofynnir i'r grŵp nodi tir cyffredin a chynnig ffordd ymlaen o ran y strwythurau, pwerau ychwanegol, hyblygrwydd a chymorth i newid. Byddai'n gyfrifol am greu cynllun ar gyfer newid a fyddai'n cynnwys cynigion i uno'n wirfoddol sy'n cael eu hysgogi gan lywodraeth leol a'r ffyrdd gorau posibl o gefnogi uno o’r fath. 

Dywedodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Debbie Wilcox:

“Mae’r ffordd hon o fwrw ymlaen i ddiwygio llywodraeth leol i’w groesawu. Mae sefyllfa Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn glir. Rydyn ni’n cefnogi unrhyw gynghorau sy’n dymuno uno’n wirfoddol ac sydd wedi ymrwymo i gydweithio i ddarparu gwasanaethau a bydd y grŵp hwn yn ystyried y cymorth posibl a allai fod ar gael os byddai cynghorau’n dewis uno.” 

“Y pwynt allweddol yw nad strwythurau sy’n arwain at gynaliadwyedd yn y pen draw, ond adnoddau a thrawsnewid gwasanaethau. Mae ffurfio’r gweithgor hwn felly yn amserol i fynd i’r afael â materion o’r fath, ac mae’n cryfhau’r sylfaen ddemocrataidd a’r pwerau sydd ar gael i gynghorau.”