Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i don gyntaf y pandemig coronafeirws gilio yn y DU, mae canfyddiadau adolygiad o’r marwolaethau yng Nghymru a oedd yn gysylltiedig â’r feirws wedi’i gyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd yr ‘ edrych ar farwolaethau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â COVID-19 ' heddiw (dydd Gwener 17 Gorffennaf) ac mae’n adolygu data marwolaethau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill ar gyfer y misoedd rhwng 1 Mawrth a 31 Mai 2020.

Mae’r adroddiad yn dangos bod gwledydd y DU wedi dioddef i wahanol raddau yn sgil coronafeirws. Ar gyfartaledd, roedd llai o farwolaethau yng Nghymru nag yn y DU gyfan yn ystod ton gyntaf y pandemig coronafeirws, a llai nag yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn Lloegr.

Rhwng 1 Mawrth a 31 Mai, roedd coronafeirws yn ffactor yn 24.1% o’r holl farwolaethau yng Nghymru. Y gyfran gyfatebol o farwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws yn Lloegr oedd 42%.

Yng Nghymru, roedd cyfraddau marwolaeth cysylltiedig â’r coronafeirws ar eu huchaf yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, ac ar eu huchaf ymhlith pobl hŷn, pobl o gymunedau BAME, a chymunedau difreintiedig. Mae cyfraddau marwolaeth yn gyson uwch ymhlith dynion o bob grŵp ethnig.

Mae’r dadansoddiad yn dangos bod y pandemig wedi teithio tua’r gorllewin a thua’r gogledd ar draws Cymru o Loegr, ac y gallai’r amser ychwanegol i baratoi a gosod cyfyngiadau fod yn un rheswm pam yr oedd cyfran is o farwolaethau.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y rhan allweddol y bydd y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu a systemau rhybudd cynnar sensitif yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â chynnydd pellach mewn achosion yn y gymuned. Mae hefyd yn galw am ffocws parhaus ar adnabod a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath yma yng Nghymru a fydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o ba ffactorau, gan gynnwys ethnigrwydd, oedran a rhyw, sy’n cynyddu risg pobl yn sgil y feirws ofnadwy hwn. Mae’n bwysig cofio bod y ffigurau yn yr adroddiad hwn yn cynrychioli pobl sydd wedi colli eu bywydau, a hoffwn gydymdeimlo â’u teuluoedd.

“Yr adolygiad hwn yw’r cam cyntaf i ddysgu pam y cafodd rhai ardaloedd y DU eu heffeithio yn waeth nag eraill. Bydd yr adroddiad hwn a dadansoddiadau i’r dyfodol yn hanfodol ar gyfer cynllunio i’r dyfodol a byddant yn ein helpu i ddysgu mwy am coronafeirws fel y gallwn achub bywydau os bydd tonnau pellach.”