Galluogi Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APCau) i wneud penderfyniadau effeithiol wrth iddynt gydbwyso buddiannau natur, cymunedau lleol ac ymwelwyr
Nawr, efallai yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n hanfodol bod Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APCau) yn elwa o wneud penderfyniadau a llywodraethu effeithiol wrth iddynt geisio cydbwyso buddiannau cymunedau, busnesau a rheolwyr tir lleol, tra’n cynnal profiadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr ac wrth gwrs, amddiffyn natur.
Yn 2024, comisiynodd Llywodraeth Cymru raglen o gymorth llywodraethu ar gyfer Aelodau APCau gan HDR Consulting. Bwriad y rhaglen yw rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar yr Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol, a hefyd i fynd i’r afael ag argymhelliad 1 o adroddiad Archwilio Cymru ar Lywodraethu Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd.
Fel rhan o’r rhaglen llywodraethu honno, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Llawlyfr Llywodraethu ar gyfer Aelodau APCau, gyda’r bwriad o roi trosolwg o rolau a chyfrifoldebau llywodraethu Aelodau APCau, gan dynnu sylw at yr hyn y mae’n ei olygu mewn termau ymarferol i fod yn atebol am lywodraethu effeithiol yr APC. Er bod y llawlyfr wedi’i gynllunio’n benodol i’w ddefnyddio gan Aelodau’r APCau, mae’n cynnwys egwyddorion arweiniol a fydd o gymorth i unrhyw un sy’n gwasanaethu mewn rôl gyhoeddus strategol neu sy’n dymuno gwybod mwy am sut mae APCau yn cael eu llywodraethu.