Neidio i'r prif gynnwy

Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ddifetha ffermio a'r diwydiannau pysgota yng Nghymru - Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae penodiad Geraint yn golygu bod gan y Bwrdd bellach 13 o aelodau, gan gynnwys y Prif Weithredwr. Mae Geraint yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf a bydd, felly, yn cryfhau sgiliau Cymraeg y Bwrdd.  Mae wedi bod yn ffermio ar yr ucheldir yng Nghymru ers 20 mlynedd, ac mae o blaid cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan ddarparu nwyddau amgylcheddol ar yr un pryd. 

Dywedodd y Gweinidog, Lesley Griffiths: 

“Ar ôl y cynllun diweddar i recriwtio aelodau newydd i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, gofynnais i'r Panel Cynghori edrych eto ar y rheini a gyflwynodd gais ac sy'n gallu sgwrsio'n rhugl yn Gymraeg.  

“Mae rôl Cyfoeth Naturiol Cymru a gwaith ei Fwrdd yn hynod bwysig ac mae’n bleser cael cyhoeddi penodiad Geraint i’r Bwrdd.”

Dywedodd Syr David Henshaw: 

“Dwi'n edrych 'mlaen at weithio gyda Geraint ac at helpu CNC i gyflawni dros Gymru.”

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru − mae'n cyflogi 1,900 o staff ar draws Cymru ac mae ganddo gyllideb o £180 miliwn. Fe'i ffurfiwyd yn 2013, gan ddod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, ac Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, yn ogystal â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Mae Geraint Davies wedi bod yn ffermio ers dros 20 mlynedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn y Gogledd. 

Mae o blaid cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan ddarparu nwyddau amgylcheddol ar yr un pryd. 

Mae ei waith ym maes rheoli tir yn cynnwys rheoli cynefinoedd yr ucheldir, gan gynnwys cadw dŵr ar yr ucheldir, coetir hynafol, iechyd pridd a rheoli glaswelltir yn effeithiol. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn creu a chynnal cynefinoedd i adar ar ei fferm.

Mae Geraint yn gyn Gadeirydd ar y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Fyd Natur yng Nghymru ac yn un o'i gyn Gyfarwyddwyr, mae'n Gyfarwyddwr ar Bartneriaeth Penllyn, yn Gadeirydd Pwyllgor Llais Ifancach Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae hefyd yn weithgar ar bwyllgorau lleol ym Meirionnydd.  

Mae Geraint yn siaradwr Cymraeg yn rhugl.