Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi cyhoeddi ymgynghoriad ynghylch a ddylai'r uchafswm cyfradd comisiwn o 10% ei newid neu ei ddiddymu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Mawrth, fe gyhoeddwyd cynlluniau i gynnal ymgynghoriad ffurfiol yn dilyn adolygiad o economeg y sector. Fe gomisiynwyd yr adolygiad hwn gan Lywodraeth Cymru, ac fe gafodd sawl argymhelliad eu gwneud i wella safonau o fewn y sector.

Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae'r adolygiad o'r diwydiant yn tynnu sylw at ba mor gymhleth yw'r cyfraddau comisiwn, a'r canlyniadau difrifol posibl. Rydyn ni'n gwybod bod perchnogion parciau a'r rheini sy'n byw ynddyn nhw yn teimlo'n gryf am y mater, ond bod yna fwy nag un farn.

"Gan nad oedd yr adolygiad y gwnes i ei gomisiynu y llynedd i economeg y sector cartrefi mewn parciau yn rhoi digon o dystiolaeth i'w gwneud yn bosibl dod i benderfyniad ar ddyfodol cyfradd y comisiwn, roeddwn i am roi cyfle arall i'r bobl berthnasol gael dweud eu dweud. Ymhlith yr opsiynau a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad roedd lleihau neu hyd yn oed ddiddymu cyfradd y comisiwn, yn ogystal wrth gwrs â chadw pethau fel y maen nhw.

"Dwi'n gobeithio y gwnaiff pob grŵp perthnasol achub ar y cyfle i gyflwyno mwy o wybodaeth a darparu tystiolaeth glir i gefnogi eu safbwyntiau. Yn benodol, fe ddylai perchnogion parciau ddarparu gwybodaeth ariannol fanwl os ydyn nhw am gyfiawnhau'r sefyllfa bresennol."