Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu swm o £5,000 i elusen yng Nghaerdydd i fynd i'r afael ag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn Affrica.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaed y cyhoeddiad ynghylch y cyllid ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod sy'n codi ymwybyddiaeth am FGM -  sef ymyrraeth â hawliau dynol a throsedd yn eu herbyn.

Yn Affrica, amcangyfrifir bod mwy na thair miliwn o fenywod mewn perygl o FGM bob blwyddyn ac mae dros 200 miliwn o fenywod a merched ledled y byd yn byw â chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu. 

Amcangyfrifir bod 137,000 o fenywod a merched yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda FGM.

Ddydd Llun, rhybuddiodd arbenigwyr ar FGM ar raglen Victoria Derbyshire ar y BBC fod yna gynnydd yn nifer y babanod a phlant bach sy’n dioddef o FGM yn y Deyrnas Unedig. Daw'r cyhuddiad ddyddiau yn unig ar ôl yr euogfarn gyntaf ar gyfer achos o FGM yn y Deyrnas Unedig.

Gall y cymhlethdodau all godi o'r driniaeth newid bywyd yn llwyr gan gynnwys sepsis, anffrwythlondeb a'r angen am lawdriniaeth bellach er mwyn gallu geni plant.  

Mae'r cyllid gan Lywodraeth Cymru o dan y cynllun Cymru o blaid Affrica wedi'i ddyfarnu i Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat sy'n gweithio i gefnogi a grymuso pobl sydd â llai o fanteision mewn cymunedau yng Nghymru ac yn Somaliland.

Nod y prosiect yw tynnu sylw at weithredoedd 21 o ferched ifanc sydd wedi derbyn hyfforddiant ac sy’n gweithio yn Somaliland. Drwy weithio ar brosiectau cymdeithasol byddant yn gweithio tuag at ymgyrch yn erbyn FGM ar lefel genedlaethol ac yn annog cael gwared ar yr arfer o gyflawni FGM yn Somaliland a'i griminaleiddio. 

Mewn datganiad i Cynulliad Cenedlaethol heddiw galwodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, ar Aelodau'r Cynulliad i gadarnhau na fydd Cymru'n cadw'n dawel.

Dywedodd:

"Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn fath ar gam-drin, ac mae'n cael ei gyflawni ar blant sy'n methu dweud na. Rhaid i'r cyfiawnhad o blaid FGM gael ei herio a dim ond drwy gyflwyno newidiadau ar ffurf polisi ac mewn cymdeithas y gall hyn gael ei wneud - dyna fydd nod y prosiect hwn. 

"Mae'n dda gweld elusennau yng Nghymru yn gallu cynorthwyo eraill sydd mewn perygl o niwed ac ar yr un pryd wella eu hunain a'n cymunedau yn y broses.

"Yn ôl ein strategaeth genedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i herio agweddau diwylliannol all fod yn sail i arferion niweidiol traddodiadol fel FGM. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy weithio gyda gwasanaethau arbenigol ar gyfer Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a thrwy ein hymgyrchoedd cyfathrebu."

Dywedodd Fowzia Ali o Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat:

“Mae tua 98% o fenywod Somaliland wedi dioddef o FGM neu wedi eu torri - un o’r cyfraddau uchaf yn y byd.

“Mae FGM yn ffurf eithafol ar wahaniaethu yn erbyn menywod a merched – ffurf ar drais yn seiliedig ar ryw sy’n parhau ac sy’n cael ei symbylu gan arferion cymdeithasol a chamddehongli dysgeidiaeth grefyddol.

“Mae’r arferiad yn golygu bod miliynau o ferched a menywod mewn perygl o gael haint yn y groth a throsglwyddo HIV ar raddfa fawr tra bo’r dioddefwyr yn gaeth i drawma seicolegol  a dioddefaint difrifol a fydd yn para weddill eu hoes. Dyma’r prif reswm am y gyfradd farwolaethau hynod o uchel ymhlith mamau a babanod yn ystod geni.

“Mae ein prosiect TuWezeshe Akina Dada: Wales yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth sy’n cael ei harwain gan ieuenctid ac sy’n rhoi sylw i leisiau merched ifanc yng Nghymru ac ardaloedd lu yn Somaliland yn erbyn FGM. Byddwn yn gweithio drwy fudiad arweinyddiaeth ymhlith merched ifanc rhwng Affrica a’r Deyrnas Unedig gyda’r bwriad o rymuso cenhedlaeth o ferched ifanc sy’n byw yn Affrica ac ar wasgar i fod yn arweinyddion effeithiol yn erbyn trais rhywiol a thrais ar sail rhyw.”


Wrth iddi ddyfarnu'r grant, dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: 

"Mae'r rhaglen Cymru o blaid Affrica wedi mynd o nerth i nerth, yn arbennig gyda grantiau bach fel yr un rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw, yn trawsnewid bywydau.

"Rwy'n falch y gallwn drwy brosiectau fel y rhain, barhau i greu cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica gan nid yn unig wella bywydau yn Affrica ond hefyd ddod â manteision i Gymru drwy ganiatáu i wirfoddolwyr yng Nghymru gyfnewid sgiliau a chael profiadau fydd yn trawsnewid eu bywydau."

Mae cynllun Grantiau Bach Cymru o blaid Affrica yn fenter arloesol sy'n galluogi sefydliadau ar draws Cymru i ddod o hyd i gyllid ar gyfer prosiectau a fydd yn cyfrannu at allu Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.