Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddwyd restr Gwobr Aur Croeso Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r rhestr flynyddol sy’n rhoi cydnabyddiaeth i fusnesau llety sy’n cynnig llety cyfforddus tu hwnt o’r ansawdd gorau, gyda chroeso arbennig.  Ar gyfer 2018, mae 40 o westai ac 87 o lety gwesteion ar y rhestr bwysig hon. Bu’r Gweinidog Twristiaeth, Arglwydd Elis-Thomas yn ymweld â’r Celtic Manor Resort heddiw sydd  wedi ennill lle ar y rhestr am y 6ed tro ac ma’r Plasty yn y Celtic Manor Resort wedi cael lle ar y rhestr am y tro cyntaf eleni. 

Busnes arall sydd wedi ennill lle ar y rhestr am y tro cyntaf eleni yn dilyn buddsoddiad yw Plas yn Dre, Bala. Mae Plas yn Dre wedi bod yn fwyty teuluol ers 1990, a gyda chymorth £72,000 a gafwyd o dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, cafodd ei weddnewid yn 2017. Fe’i hadnewyddwyd yn llwyr ac ychwanegwyd 9 ystafell wely ar gyfer gwesteion.

Dywedodd Rachel Jones, Plas yn Dre:

"Rydym wrth ein bodd yma yn y Plas yn Dre bod  holl waith caled ac ymroddiad  ein tîm wedi talu ar ei ganfed wrth i ni gael  y wobr aur, rydym yn falch iawn i fod wedi cyrraedd y rhestr am y tro cyntaf."

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Twristiaeth:

“Mae darparu ansawdd a  bod yn arloesol a datblygu cyfleusterau o’r radd flaenaf yn hollbwysig er mwyn i Gymru allu cystadlu mewn diwydiant byd-eang sy’n gystadleuol iawn. 

Mae cael cydnabyddiaeth yn un o’r gwestai gwobr aur yn dangos fod busnesau wedi ymrwymo i ddarparu profiad o ansawdd rhagorol a mynd tu hwnt i ddisgwyliadau ein hymwelwyr.”

Dywedodd Ian Edwards, Pennaeth y Celtic Manor Resort:

"Rydym yn falch iawn o gael y Wobr Aur hon am y 6ed tro ar gyfer y Celtic Manor ac rydym yn arbennig o falch bod y Plasty hefyd wedi cael lle am y tro cyntaf ar y rhestr yma. Rydym yn ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau ein gwesteion ac yn ddiweddar rydym wedi cwblhau adnewyddu ystafelloedd gwely i wella ansawdd ein llety ymhellach.

Bydd agor ICC Cymru y flwyddyn nesaf yn dod â nifer o deithwyr busnes ac ymwelwyr o bedwar ban y byd, felly mae'n bwysig bod gwestai a darparwyr llety yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf fel y rhai a nodir yn y wobr aur."