Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhestr Croeso Cymru o Wobrau Aur wedi ei datgelu heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis Thomas, y cyhoeddiad yn dilyn ymweliad â James Sommerin, Penarth - un o ddeg o fusnesau i gael eu rhestru am y tro cyntaf eleni.

Mae'r rhestr flynyddol yn cydnabod busnesau llety sy'n cynnig y safon uchaf o ran ansawdd, cyfforddusrwydd a lletygarwch neilltuol. Ar gyfer 2019, mae 91 o Lety Gwesteion a 38 o Westai (cyfanswm o 129) wedi cyrraedd y rhestr arbennig hon.  

Dyma'r rhestr ddiweddaraf o wobrau ar gyfer Bwyty â Llofftydd Penarth, oedd hefyd yn cynnwys seren Michelin yn 2016, Bwyty y Flwyddyn yr AA - Cymru 2016-2017, 4 Roset yr AA, Bwyty y Flwyddyn 2016, a 2018 yng Nghymru ar gyfer Gwobrau Bwyd Cymru a Rhif 34 yn y Good Food Guide ar gyfer 2017. 

Dywedodd James Sommerin: 

"Dwi wrth fy modd i dderbyn y wobr hon, mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad y tîm i gyd. Mae cael eich cydnabod gan Croeso Cymru ar gyfer ein llety yn anhygoel, rydym yn anelu at ddarparu profiad gwych i'n gwesteion a thrwy allu cynnig llety 5 seren uwchben ein bwyty gyda golygfa arbennig Aber Afon Hafren, beth arall y gallwn ei ddymuno?"

Cyflwynodd yr Arglwydd Elis-Thomas y tîm gyda'u tystysgrif Gwobr Aur gan ddweud: "Mae safon ac arloesi yn hynod bwysig wrth ddatblygu cyfleusterau o safon fyd-eang sy'n sicrhau bod Cymru yn parhau i gystadlu'n frŵd mewn diwydiant byd-eang hynod gystadleuol.

"Mae cael eu cydnabod fel un o'r Gwestai Gwobr Aur yn dangos ymrwymiad y busnesau hyn i ansawdd, gan gynnig profiad arbennig iawn a gwneud yn well na disgwyliadau'r ymwelwyr.  Roedd yn bleser cyflwyno'r dystysgrif Gwobr Aur i James a'r tîm sydd wedi datblygu bwyty gwych gyda llofftydd, sy'n cael ei redeg gan y teulu, ac sydd â bwyd a llety o safon uchel iawn.  Hoffwn ddymuno'n dda i'r tîm yn y dyfodol.”

Cafodd The Elm Tree yn Llandudno wobr aur am y tro cyntaf hefyd, a dywedodd Lynette Esposito, perchennog The Elm Tree: 

"Mae'r Elm Tree yn falch iawn o fod wedi derbyn Gwobr Aur Croeso Cymru a hyn yn dilyn cael ein rhestru gan TripAdvisor 2019 fel y gwesty bach  rhamantaidd gorau; y fargen orau;   yr ail  westy bach gorau yn y Deyrnas Unedig yn ogystal a bod yn rhif 1 fel y gwesty bach gorau yn Llandudno.  Mae'r Elm Tree wedi defnyddio safonau Croeso Cymru fel ei chanllawiau i ddarparu gwasanaeth a chyfleusterau rhagorol i gwsmeriaid, ynghyd â'n lletygarwch cynnes, proffesiynol.  Rwy'n falch o ymdrechion fy nhîm i gyflawni'r gydnabyddiaeth hon ac rwy’n llongyfarch Croeso Cymru hefyd am y gefnogaeth barhaus i hyrwyddo a chreu ymwybyddiaeth o ogledd Cymru”