Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, y bydd pum prosiect arloesol Rhoi Plant yn Gyntaf yn cael eu rhoi ar waith yng Nghwm Taf, Casnewydd, Caerffili a Sir Gaerfyrddin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhoi Plant yn Gyntaf yw'r enw ar gyfer parthau plant yng Nghymru. Diben y parthau hyn yw caniatáu i'r gymuned leol a sefydliadau lleol gydweithio i fynd i'r afael ag anghenion penodol plant a phobl ifanc yn yr ardaloedd hynny, a lleihau'r anghydraddoldebau y mae rhai plant a phobl ifanc yn eu hwynebu o'u cymharu â'u cyfoedion mewn lleoedd mwy breintiedig.

Mae'r ffordd hon o weithio, sy'n cynnwys gweithio ar y cyd mewn lle penodol er lles plant a phobl ifanc, yn rhan o'r uchelgais newydd i greu cymunedau cryf a gafodd ei chyhoeddi gan Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach eleni. 

Wrth gyhoeddi'r prosiectau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Nod Rhoi Plant yn Gyntaf yw sbarduno newid ar lefel leol, yn seiliedig ar anghenion y lle penodol, sy’n cael ei nodi drwy wrando ar blant a phobl ifanc ac ar y gymuned leol.  Bydd yn anelu at dynnu ynghyd yr holl wasanaethau a chymorth ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion plant a phobl ifanc, o'u dyddiad geni hyd nes y byddant yn oedolion. 

“Dylai hawliau plant a phobl ifanc fod yn ganolog i fenter Rhoi Plant yn Gyntaf, gan gynnwys yr hawl i gael llais yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw. Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod hefyd yn flaenoriaeth.  Rwy wedi fy narbwyllo bod angen inni ddod o hyd i ffyrdd o atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a lliniaru eu heffaith, er mwyn rhoi cyfle i'n plant a'n pobl ifanc a'r cymunedau y maent yn byw ynddyn nhw ffynnu.

“Rwy'n ddiolchgar iawn i'r 19 sefydliad sydd wedi mynegi diddordeb mewn sefydlu ardaloedd Rhoi Plant yn Gyntaf. Rydyn ni wedi nodi pum cynnig sydd eisoes yn barod i’w rhoi ar waith fel prosiectau arloesol. Byddan nhw hefyd yn gyfle inni weld sut mae'r dull hwn yn gweithio ar gyfer materion gwahanol ac mewn cymunedau gwahanol ar draws y wlad.

“Rwy'n gobeithio y bydd manteision ardaloedd Rhoi Plant yn Gyntaf yn dod i'r amlwg dros amser, ac y bydd y dull amlasiantaeth a chydweithredol hwn o weithio yn cael ei roi ar waith yn ehangach.  Mae'n galonogol gwybod y gallai nifer o'r cynigion eraill a dderbyniwyd fod wedi'u datblygu i fod yn brosiectau Rhoi Plant yn Gyntaf hefyd. A byddwn ni'n sicrhau bod y gwersi a gaiff eu dysgu gan ein prosiectau arloesol yn cael eu rhannu ag eraill, er mwyn caniatáu i brosiectau eraill gael eu rhoi ar waith cyn gynted ag y bo modd.”