Dr Richard Irvine sydd wedi’i gyhoeddi yn Brif Swyddog Milfeddygol newydd Cymru.
Ar hyn o bryd Dr Irvine yw Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol y DU a'r Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Iechyd Anifeiliaid Byd-eang yn Defra. Bydd yn ymuno â Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth.
Mae Richard yn filfeddyg profiadol iawn gyda chefndir mewn iechyd a lles anifeiliaid, polisi masnach, yn ogystal â gwyddoniaeth a meddygaeth filfeddygol y wladwriaeth.
Mae wedi cael gwahanol rolau blaenllaw mewn rhaglenni gwyliadwriaeth iechyd anifeiliaid a gwyddoniaeth yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yn ogystal â threulio amser mewn practis milfeddygol cymysg clinigol yn ne Cymru.
Dywedodd Dr Irvine:
"Rwy'n wirioneddol falch fy mod wedi cael fy mhenodi'n Brif Swyddog Milfeddygol Cymru.
"Rwy'n edrych ymlaen at gefnogi ffermio yng Nghymru yn y rôl hon, drwy arwain y gwaith ar y cyd i ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio fel rhan o'r tîm yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r holl bartneriaid ac asiantaethau sy'n gweithio'n ddiflino i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a lles anifeiliaid sy'n ein hwynebu.
"Mae'n gyfle go iawn i wneud gwahaniaeth ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni. Mae'n bleser gen i allu dod nôl i Gymru, ar ôl treulio peth amser yma yn gweithio fel milfeddyg.
"Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i chwarae fy rhan ac edrych ymlaen at ddechrau fy rôl newydd."
Wrth groesawu'r penodiad dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Llongyfarchiadau mawr i Richard ar gael ei benodi yn Brif Swyddog Milfeddygol Cymru. Mae'n ymuno â ni wrth inni ymdrechu i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer dileu TB buchol yng Nghymru, ac rydyn ni'n wynebu'r ymlediad mwyaf o Ffliw Adar a welodd y DU erioed.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef i gyflawni ein nodau uchelgeisiol o ran Iechyd a Lles Anifeiliaid ac ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu."