Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi heddiw bod William Horne wedi’i ailbenodi’n aelod dros Gymru ar yr Awdurdod Meinweoedd Dynol.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y penodiad yn para o 1 Awst 2017 tan 31 Gorffennaf 2020.

Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau’n ymwneud â thynnu, storio, defnyddio a gwaredu meinweoedd dynol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Rwy’n falch bod William Horne wedi cytuno i barhau â’i waith ar Fwrdd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol.

“Rwy’n hyderus y bydd yn dal ati i gyfrannu’n weithredol at waith y Bwrdd ac y bydd yr Awdurdod yn parhau i elwa’n fawr ar ei brofiad sylweddol.

“Rwy’n dymuno’n dda iddo wrth iddo barhau â’i swyddogaeth.”