Cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg dri phenodiad i fwrdd sy’n rhan hanfodol o’r ffordd y bydd athrawon Cymru yn cael eu hyfforddi (dydd Iau 15 Mehefin).
Cyngor y Gweithlu Addysg: Bydd y Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon, a elwir ‘y bwrdd’, yn achredu rhaglenni unigol addysg gychwynnol i athrawon.
Yr Athro John Furlong, Athro Emeritws mewn Addysg, Adran Addysg Prifysgol Rhydychen a Chymrodor Emeritws yng Ngholeg Green Templeton, Rhydychen yw’r Cadeirydd newydd.
Bydd yr Athro Olwen Mcnamara, Athro Addysg Athrawon, Prifysgol Manceinion a Dr Aine Lawlor, cyn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Addysgu’r Iwerddon yn Is-gadeiryddion. Bydd y penodiadau yn cychwyn ar 12 Mehefin 2017 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2022.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheolau newydd ar gyfer cyrsiau sy’n hyfforddi athrawon fel rhan o’r ymgyrch i ddenu’r dalent orau i’r proffesiwn. Mae’r newidiadau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon yn cynnwys cryfhau sut y mae ysgolion a phrifysgolion yn cydweithio a chynyddu rôl ymchwil.
Mae’r meini prawf achredu diweddaraf yn rhan o ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru i ddiwygio addysg ac maent yn cynnwys:
- rôl gynyddol i ysgolion
- rôl gliriach i brifysgolion.
- cyfleoedd strwythuredig i gysylltu dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion.
- mwy o bwyslais ar ymchwil.
Mae’r newid yn adeiladu ar y safonau addysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd ac yn cysylltu â’r newidiadau ehangach sydd ar droed yn y byd addysg yng Nghymru. Mae’r ffordd wahanol iawn hon o ddelio ag addysg broffesiynol y gweithlu addysgu yn ganolog i lwyddiant yr ymgyrch.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Pleser yw cael cyhoeddi mai Cadeirydd y Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon newydd yw’r Athro John Furlong ac mai’r Athro Olwen Mcnamara a’r Athro Dr Aine Lawlor fydd yr Is-gadeiryddion.
“Bydd y bwrdd newydd hwn yn caniatáu rhoi ystyriaeth benodol i sut y bydd rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon yn gwella ansawdd y ddarpariaeth - denu’r bobl iawn sy’n meddu ar y cymwysterau iawn a chanddynt ddawn am addysgu. Rhaid annog y rhain i ddilyn gyrfa mewn addysgu.
“Mae’r newidiadau hyn a’r safonau achredu newydd yn rhan o’n hymgyrch ehangach yn genedlaethol i godi proffil y proffesiwn a gwella safonau.”
Mae CGA yn recriwtio aelodau (dolen allanol) ar hyn o bryd i ymuno â'r bwrdd.