Mae Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi heddiw bod Syr David Henshaw wedi'i benodi fel Cadeirydd Dros-dro Cyfoeth Naturiol Cymru am 12 mis, gan ddechrau ar 1 Tachwedd.
Mae Syr David Henshaw yn gyn Brif Weithredwr Cyngor Dinas Lerpwl ac wedi bod yn Gadeirydd yn y GIG gan gynnwys Awdurdod Iechyd Strategol y Gogledd-orllewin ac Ysbyty Plant Ymddiriedolaeth Sefydliad Alder Hey gan arwain y Bwrdd wrth adeiladu'r ysbyty newydd. Mae hefyd wedi ei benodi i gefnogi nifer o Ymddiriedolaethau Ysbytai'r GIG sy'n cael problemau fel Cadeirydd dros Dro.
Mae'r broses o recriwtio pum aelod newydd i'r bwrdd wedi dechrau, ac mae disgwyl i aelodau newydd ddechrau ar eu swyddi ar 1 Tachwedd 2018.
Bydd y Cadeirydd dros dro ac aelodau newydd y Bwrdd yn ymuno â'r pum aelod presennol ar y Bwrdd. Bydd proses recriwtio ar gyfer Cadeirydd newydd fydd yn dechrau yn gynnar yn 2019.Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli, cynnal a defnyddio adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, ac rwy'n ystyried ei swyddogaeth a gwaith ei fwrdd yn bwysig iawn. Rwyf yn falch o gyhoeddi bod Syr David wedi'i benodi yn Gadeirydd dros dro. Mae gan Syr David hanes o fod yn arweinydd cryf ar lefel Bwrdd a phrofiad sylweddol o helpu sefydliadau i drawsnewid eu hunain.
"Bydd e, yn ogystal ag aelodau newydd y Bwrdd sy'n cael eu recriwtio ar hyn o bryd yn ymuno ag aelodau presennol y bwrdd ar y 1 Tachwedd. Bydd ei flaenoriaethau cyntaf yn cynnwys cefnogi'r sefydliad wrth iddo weithio i greu strwythurau a ffyrdd o weithio mwy effeithiol, gan wella'r dull o lywodraethu, creu perthynas gryfach â rhanddeiliaid a goruchwylio'r gwaith o ymsefydlu aelodau newydd y Bwrdd pan fyddant yn cael eu penodi ym mis Tachwedd.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Cadeirydd dros dro, Madeleine Havard, am ei holl waith caled a'i harweinyddiaeth ers dechrau yn y swydd."
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae hanes Syr David Henshaw yn ddigon o dystiolaeth inni ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef i lunio pennod nesaf Cyfoeth Naturiol Cymru ac i fynd i'r afael â rhai o'n blaenoriaethau presennol a'r rhai mwy hirdymor."
Meddai Syr David Henshaw, Cadeirydd Dros-dro Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Dwi'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi gofyn imi ysgwyddo'r swydd hon. Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda Clare, y Bwrdd a'r holl staff i gyflawni amcanion Cyfoeth Naturiol Cymru."
Meddai Madeleine Havard, Cadeirydd dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Bydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a'r staff yn elwa'n fawr o brofiad enfawr Syr David Henshaw yn y gwasanaethau cyhoeddus. Dwi'n siŵr y bydd Syr David yn mwynhau ei swydd newydd, ac yn cael boddhad mawr o weithio gyda thîm rhagorol Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gwneud gwaith mor bwysig i bobl ac amgylchedd Cymru."