Neidio i'r prif gynnwy

Mae grŵp arbenigol i helpu i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru wedi’i gyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae dyfodol gofal cymdeithasol yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru.

Mae’r Cytundeb yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi ein huchelgais ar y cyd i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, gan barhau fel gwasanaeth cyhoeddus gyda chynllun gweithredu erbyn diwedd 2023.

Mae aelodau’r Grŵp Arbenigol yn cynnwys unigolion o ystod o gefndiroedd, gan gynnwys y rhai â phrofiad o redeg gwasanaethau gofal cymdeithasol a llywodraeth leol, cyllid ac economeg, academyddion a’r rhai â phrofiad o ofalu a’r cysylltiadau rhwng gofal cymdeithasol a’r GIG. Bydd aelodaeth y grŵp hefyd yn cynrychioli pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac yn cynnwys pobl ag enw da am hyrwyddo’r Gymraeg.
Bydd y Grŵp Arbenigol yn anelu at ddarparu argymhellion erbyn diwedd mis Ebrill 2022, ac yna bydd cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu erbyn diwedd 2023. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

Mae gofal cymdeithasol yn bwysig inni gyd. Mae llawer o’n perthnasau a’n ffrindiau’n dibynnu arno a bydd llawer ohonon ni’n dod i gysylltiad â gofal cymdeithasol yn ein bywydau. Bydd y panel newydd hwn yn edrych ar y materion sy’n wynebu’r sector ac yn ystyried sut y gallwn ni gymryd camau tuag at sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Cefin Campbell AS:

Bydd creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol newydd, sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, yn gam hanesyddol ymlaen o ran gofalu am rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae ein system ofal a’r rhai sy’n gweithio ynddi yn gwneud cymaint i ofalu am ein hanwyliaid. Mae’r system yn wynebu heriau niferus a bydd angen iddi newid ac addasu yn y blynyddoedd i ddod.

Mae hi mor galonogol ein bod yn dod at ein gilydd, mewn ysbryd cydweithredol Cymreig, i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau ar hyd a lled y wlad, gan roi’r bobl fwyaf agored i niwed yn gyntaf. Bydd y panel arbenigol hwn yn cynnig ei arbenigedd, ei wybodaeth a’i brofiad wrth inni, gyda’n gilydd, gymryd ein cam cyntaf tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol newydd i Gymru.