Mae’r Sgôr Pwyntiau wedi’i Chapio newydd (Capio 9) yn canolbwyntio ar ganlyniadau disgyblion Blwyddyn 11 o blith naw o’r cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru.
Mae’r Sgôr Pwyntiau wedi’i Chapio newydd (Capio 9) yn canolbwyntio ar ganlyniadau disgyblion Blwyddyn 11 o blith naw o’r cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru. Caiff y rhain eu defnyddio i fesur perfformiad ysgol yng Nghyfnod Allweddol 4 (TGAU a chymwysterau galwedigaethol cyfatebol).
Mae athrawon ac eraill yn y sector addysg wedi codi pryderon gerbron Llywodraeth Cymru fod canlyniadau oedd heb eu bwriadu i rai o’r newidiadau i’r dangosyddion perfformiad a oedd yn deillio o’r Adolygiad o Gymwysterau. Yn eu plith, mae cyfyngu ar nifer dewisiadau disgyblion o blith y cwricwlwm a chyfleu darlun rhy gul o berfformiad ysgol.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Yn 2014 fy wnaeth fy rhagflaenydd gyhoeddi cyfres o newidiadau i fesurau perfformiad ysgolion yng Nghyfnod Allweddol 4 o ganlyniad i’r Adolygiad o Gymwysterau, gan gynnwys cyflwyno Sgôr Pwyntiau wedi’i Chapio ddiwygiedig.
“Ers hynny rydyn ni wedi dechrau gweithio ar gwricwlwm newydd i Gymru a rydyn ni am sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad yn cyd-fynd â’r trywydd rydyn ni’n ei ddilyn ar hyn o bryd.
“Wrth i’r newidiadau hyn gael eu cyflwyno, mae ysgolion a’r proffesiwn addysgu wedi nodi y bu yna ganlyniadau oedd heb eu bwriadu. Un ohonynt yw cyfyngu ar ba bynciau y gall disgyblion ddewis eu hastudio, canlyniad na fyddai’r un ohonom yn ei groesawu. Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod yn rhoi darlun rhy gul o berfformiad ysgol.
“Ar ôl gwrando ar y pryderon hyn rydw i wedi penderfynu na fyddwn bellach yn canolbwyntio ar y Sgôr Pwyntiau wedi’i Chapio fel y prif ddangosydd ar gyfer perfformiad ysgolion o 2017 ymlaen.
“Yn lle hynny, caiff ei defnyddio’n rhan o ystod eang o fesurau all gael eu hystyried wrth werthuso perfformiad disgyblion sy’n astudio yng Nghyfnod Allweddol 4. Byddwn yn parhau, fodd bynnag, i ganolbwyntio ar gyrhaeddiad ac i helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i werthuso eu perfformiad ar hyd y daith yma.
“Rwyf am sicrhau bod mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn briodol ar gyfer ein cwricwlwm diwygiedig ac, yn bwysicaf oll, eu bod yn effeithiol i wireddu ein nod o wella canlyniadau a deilliannau i’n disgyblion. Mae athrawon ac eraill yn ein system ysgolion wedi datgan eu barn ac rydw i wedi gwrando a chymryd camau i ymateb i’w pryderon.”