Neidio i'r prif gynnwy

Mae newidiadau arfaethedig ar gyfer defnyddio athrawon cyflenwi yng Nghymru wedi cael eu hamlinellu mewn adroddiad annibynnol sy'n cael ei gyhoeddi heddiw (Dydd Iau 2 Chwefror).

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Dasglu Gweinidogol y Model Cyflenwi Athrawon ym mis Mehefin 2016 i ystyried materion sy'n ymwneud ag athrawon cyflenwi. Fe wnaeth y Tasglu ystyried y cymhlethdodau a'r amrywiadau o ran sut y mae athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi.

Mae'r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion, gan gynnwys ystyried arbedion cost, tynnu sylw at gyfrifoldebau mewn perthynas â threfniadau diogelu, casglu data cywir, cynigion ar gyfer tâl ac amodau, a chefnogi athrawon sydd newydd gymhwyso a chyfleoedd dysgu proffesiynol.

Mae'r argymhellion yn cynnwys:

  • Gwella'r data sy'n cael eu casglu am athrawon cyflenwi, fel eu bod yn fwy cywir.
  • Cynnal dadansoddiad llawn i fesur gwir gost darparu athrawon cyflenwi.
  • Ystyried y telerau a'r amodau ar gyfer athrawon cyflenwi fel rhan o gynigion ehangach i ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon i Gymru.
  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o ran y cyfrifoldebau sydd arnynt mewn perthynas â threfniadau diogelu a diweddaru'r canllawiau ar gyfer y gweithlu.
  • Ystyried rheoleiddio ansawdd asiantaethau cyflenwi masnachol drwy gyflwyno cyfres o safonau ansawdd gofynnol achrededig y dylai'r holl asiantaethau masnachol sy'n darparu athrawon cyflenwi i ysgolion a gynhelir eu bodloni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion yn yr adroddiad. Fodd bynnag, caiff gwaith polisi a chyfreithiol pellach ei wneud mewn modd manwl, er mwyn penderfynu a allwn gyflawni'r holl argymhellion, gan gynnwys y rhai ynghylch safonau ansawdd a chydweithredu ar sail rhanbarthol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

"Mae athrawon cyflenwi yn rhan bwysig o'r gweithlu athrawon ac rwyf am sicrhau y gallant fanteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol, ac y gallant gefnogi ein diwygiadau ehangach ym maes addysg.

"Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod lle amlwg i wella yn y ffordd rydym yn cyflogi athrawon cyflenwi, ac wrth reoli a chefnogi'r broses o'u darparu nhw ar gyfer ein hysgolion. Er fy mod yn derbyn argymhellion yr adroddiad ar hyn o bryd, mae rhai ohonynt yn codi materion cyfreithiol cymhleth y bydd angen i ni eu hystyried ymhellach. Bellach, byddwn yn dechrau'r broses hon, gan weithio'n agos gyda chynghorau, ysgolion, y gweithlu addysg, undebau ac eraill.

"Bydd rhaid i unrhyw newidiadau gyd-fynd â'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd."