Cyhoeddi llwybr meddyginiaeth rheoli pwysau (WHC/2024/030)
Dogfen ganllaw newydd ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau ar gyfer defnyddio meddyginiaethau rheoli pwysau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Gweithredu.
Categori:
Y gweithlu.
Teitl:
Cyhoeddi llwybr meddyginiaeth rheoli pwysau.
Dyddiad dod i ben / adolygu:
1 Gorffennaf 2025.
I’w weithredu gan:
Byrddau iechyd lleol.
Angen gweithredu erbyn:
Ar unwaith.
Anfonwr:
Judith Paget Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE), Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Anwen Jones,
y Gangen Byw’n Iach ac Egnïol,
Gwella Iechyd, Atal, ac Anghydraddoldebau,
yr Is-adran Iechyd y Cyhoedd.
Dogfennau amgaeedig:
Cyhoeddi llwybr meddyginiaeth rheoli pwysau
Annwyl Gydweithwyr,
Rwy'n ysgrifennu atoch i'ch hysbysu bod y ddogfen Llwybr Meddyginiaeth Rheoli Pwysau wedi'i chyhoeddi. Mae copi o'r ddogfen ynghlwm wrth y cylchlythyr iechyd Cymru hwn ac mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r ddogfen hon yn atodiad i’r 'Llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan' ac fe'i cynhyrchwyd mewn ymateb i gymeradwyaeth Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) o feddyginiaethau newydd ar gyfer rheoli pwysau. Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â’r ddogfen 'Llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan' a chanllawiau perthnasol NICE ar gyfer meddyginiaeth.
Yn gywir,
Judith Paget.