Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford £4.7m ychwanegol o gyllid i ailddatblygu Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Ganolfan yw’r unig ganolfan sy’n arbenigo mewn ffeibrosis systig i oedolion yng Nghymru a’i nod yw darparu amgylchedd cyfeillgar a gofalgar i bob claf, gan sicrhau eu bod yn cael y therapi priodol ac yn gallu cael yr ansawdd bywyd gorau.

Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi cynlluniau ailddatblygu cyfredol i ehangu ac ailfodelu’r Ganolfan, ac mae’n dilyn cyhoeddiad cadarnhaol arall gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, sef y bydd cleifion yng Nghymru yn awr yn gallu cael y feddyginiaeth Ffeibrosis Systig Orkambi® a Symkevi®. 

Yn ystod ymweliad â’r ganolfan yn Ysbyty Llandochau, lle aeth o amgylch y cyfleuster a chyfarfod â chleifion, dywedodd y Prif Weinidog,

Dylai pob claf yng Nghymru sy’n cael gofal ar gyfer salwch cymhleth fel y cleifion yma yn y Ganolfan Ffeibrosis Systig arbennig, fedru gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol. 

Mae’n rhaid cyfaddef, does neb yn hoffi bod yn yr ysbyty. Felly os gallwn wneud cyfnod rhywun yn yr ysbyty mor gyfforddus a diogel ag y gallwn a chanolbwyntio ar anghenion y claf cymaint â phosibl, bydd hyn yn arwain at fanteision iddyn nhw, eu teuluoedd a’r bobl hynny sy’n darparu’r gofal.

Yn anffodus, mae’r galw am y gwasanaethau yn awr yn fwy nag y gall y Ganolfan gyfredol ddarparu ar ei gyfer. Comisiynwyd y Ganolfan yn 1997, fel uned naw gwely. Yn ddiweddar lleihawyd nifer y gwelyau yn y Ganolfan i saith oherwydd canllawiau gofal newydd ynghylch rheoli haint. 

Bydd y gwaith ailddatblygu a gyhoeddwyd heddiw yn ailwampio ac yn darparu estyniad i’r Ganolfan Ffeibrosis Systig bresennol, gan gynyddu nifer y gwelyau i 16 a gwella cyfleusterau i gleifion, gan gynnwys ystafelloedd campfa newydd, ystafelloedd triniaeth newydd a gwell gwasanaethau mecanyddol a thrydanol. 

Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Ionawr 2020, a dod i ben ym mis Tachwedd 2020. Rydym yn gobeithio y bydd yr uned yn gwbl weithredol erbyn mis Rhagfyr 2020.