Neidio i'r prif gynnwy

Heno, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £180,000 ar gael i gefnogi datblygiad ffilmiau yn y Gymraeg ac i ddarparu cefnogaeth ariannol i ddatblygu doniau a syniadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden a'r Aelod Dynodedig o Blaid Cymru, Cefin Campbell wedi datgelu y bydd y cyllid yn cael ei roi drwy Ffilm Cymru a bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Mae'r ymrwymiad yn rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Rwy'n falch iawn o wneud y cyhoeddiad hwn cyn y dathliad 40 mlynedd heno yn y Senedd.  Un o'n hasedau mwyaf wrth rannu popeth sy'n anhygoel ac unigryw am Gymru - yw ein sefydliad penigamp, S4C.

"Gwta un mis ar ddeg yn ôl, fe gyhoeddon ni ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru Greadigol Llywodraeth Cymru ac S4C.

"Mae'n enghraifft wych o'n gwaith partneriaeth yng Nghymru, i gyflawni ein huchelgeisiau i ddatblygu'r sector creadigol, ac i gefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae'r arian hwn yn gyfraniad pellach tuag at yr uchelgeisiau hynny.

"Mae darlledwyr yn gyfranwyr hanfodol at dwf ein diwydiannau creadigol ac economi Cymru, mae cynnal datblygiad cynnwys yng Nghymru gan ein cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Llywodraeth.

"Wrth gydweithio gydag S4C a Ffilm Cymru, rydym yn ymdrechu i sicrhau twf economaidd, datblygu talent amrywiol, datblygu proffil a phortread o Gymru ac, wrth gwrs, hyrwyddo ein hiaith."

Meddai'r Aelod Dynodedig, Cefin Campbell:

"Mae S4C yn rhan annatod o Gymru a'n hiaith. Mae'r cyfoeth o gynnwys sy'n cael ei gynhyrchu gan S4C yn rhan hanfodol o'r cyfryngau yng Nghymru, gan sicrhau bod cynnwys o safon byd eang sy'n cwmpasu drama, chwaraeon, ffilmiau a chynnwys plant yn cael ei ddarparu i bobl o bob oed, ledled Cymru a thu hwnt.

"Drwy'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru rydym wedi ymrwymo i gydweithio i gryfhau ein hiaith, gan sicrhau ei fod yn realiti bob dydd i ni I gyd, yn ein cartrefi, ar deledu ac ar-lein. Bydd y gronfa newydd rydym yn ei chyhoeddi heddiw yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni'r uchelgais hon, gan gynnig cefnogaeth i ffilm Gymraeg ac yn darparu cefnogaeth ariannol i'r diwydiant i ddatblygu doniau a syniadau."

Meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C:

"Mae gynnon ni draddodiad storïol cryf yng Nghymru. Mae llwyddiant diweddar drama a gomisiynwyd gan S4C megis Yr Amgueddfa, Dal y Mellt ac Y Golau yng Nghymru ac yn rhyngwladol, wedi dangos bod gwir awydd cynnwys gwreiddiol ac adloniant Cymraeg.

"Nod S4C yw adeiladu ar hyn a dod â straeon o Gymru, sy'n creu ymdeimlad o berthyn â'n cynulleidfaoedd yng Nghymru, a thu hwnt, i'r sgrin fawr. Rwy'n falch iawn o'r bartneriaeth hon gyda Cymru Greadigol a bydd cefnogaeth y Cytundeb Cydweithio gyda Ffilm Cymru a'r Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol ynghyd â buddsoddiad S4C yn galluogi inni ddatblygu syniadau newydd a meithrin cenhedlaeth newydd o storïwyr. Bydd hyn yn sicrhau y gall uchelgais S4C o un ffilm nodwedd Gymraeg y flwyddyn gael ei gwireddu. 

"Wrth inni ddathlu pen-blwydd S4C yn 40 oed, rydym nid yn unig yn rhoi platfform newydd i'r Gymraeg ond yn galluogi'r genhedlaeth nesaf o grewyr cynnwys i weithio yn y Gymraeg. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi rhagor o fanylion am y prosiect yn fuan iawn."