Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd ddatblygiadau ynni morol yng Nghymru hwb heddiw wrth i fwy na £300,000 o gyllid gael ei gyhoeddi ar gyfer  Ardal Arddangos Ynni De Sir Benfro

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad heddiw yng nghynhadledd Ynni Môr Cymru, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, bod £324,000 o gyllid yr UE a Llywodraeth Cymru wedi'i gymeradwyo ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb dechnegol a masnachol.

Mae'r newyddion yn dod wythnos yn unig ar ôl i fargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn gael ei llofnodi sy'n cynnwys prosiect gwerth £76 miliwn i sefydlu canolfan ynni morol o amgylch Porthladd Aberdaugleddau ar gyfer datblygu, cynhyrchu, profi a defnyddio ynni morol.

Bydd Ardal Arddangos Ynni De Sir Benfro, sydd ar brydles gan Ystâd y Goron, yn galluogi datblygwyr technoleg i ddefnyddio a phrofi amrywiaeth o ddyfeisiau i gasglu ynni tonnau, i greu hyd at 100MW o ynni gwyrdd o'r môr a gweithredu fel catalydd ar gyfer sefydlu canolfan cynhyrchu ynni morol yng Nghymru.  

Bydd yr astudiaeth dau gam yn cael ei harwain gan y Wave Hub Ltd sy'n rheoli'r safle. Mae'r Ardal, sy'n un o ddwy yng Nghymru, yn 90km2 o faint, rhwng 13 a 21km oddi ar arfordir De Sir Benfro ger Dyfrffordd y Ddau Gleddau.

Dywedodd Ken Skates: 

"Mae'r sector morol yn cynnig cyfle cyffrous i economi Cymru ac mae datblygwyr o bob rhan o'r byd yn dangos diddordeb mawr mewn datblygu prosiectau yn nyfroedd Cymru. Maent yn cydnabod bod gan Gymru un o'r strwythurau cymorth gorau yn y byd ar gyfer ynni morol a rhai o’r adnoddau ynni gorau. Bydd yr ardaloedd arddangos ynni yn chwarae rôl allweddol i ddenu datblygiadau a buddsoddiadau.

"Mae'r hwb cyllidol a gyhoeddwyd heddiw hefyd yn cyd-fynd â'r adroddiad diweddaraf ar gyfer y sector yng Nghymru sydd wedi sbarduno buddsoddiadau uniongyrchol mewn ynni morol yng Nghymru godi o £45.5 miliwn yn 2015 i £68.3 miliwn yn 2017.

"Hyd yn hyn mae €100 miliwn o gyllid yr UE wedi'i clustnodi er mwyn datblygu ynni morol yng Nghymru a chynyddu'r nifer o ddyfeisiau ynni'r llanw a thonnau sy'n cael eu profi yn nyfroedd Cymru.

"Mae'r sector hwn yn tyfu ac eisoes yn cefnogi amrywiaeth o gadwynau cyflenwi, yn creu swyddi carbon isel yn agosach at y cartref ac yn chwarae rôl allweddol i greu economïau rhanbarthol cynaliadwy yn Sir Benfro a Sir Fôn sy'n seiliedig ar ddatblygu eu sectorau blaenoriaeth ac arbenigol eu hunain."

Dywedodd wrth gynrychiolwyr bod proffil Cymru fel lleoliad ar gyfer ynni morol wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae Ynni Môr Cymru wedi trefnu sawl ymweliad â Phorthladd Aberdaugleddau ar gyfer cwmnïau ynni morol mawr o UDA, Singapôr, Awstralia, Sweden, yr Iseldiroedd, Iwerddon, yr Eidal a'r Alban.

I gloi, dywedodd mai cefnogi datblygiad mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys morlynnoedd llanw, yw un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.