Mae 25 o ysgolion ychwanegol yn mynd i fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru yn ôl cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams
Bydd yr ysgolion hyn o bob cwr o Gymru yn ymuno â’r ysgolion sydd eisoes yn Ysgolion Arloesi i helpu i greu a llunio’r cwricwlwm newydd a gaiff ei ddefnyddio i gefnogi dysgu ac addysgu o fis Medi 2021 ymlaen.
Mae pedwar diben i’r cwricwlwm newydd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu i fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol a medrus a fydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
- Cyfranwyr mentrus a chreadigol a fydd yn barod i chwarae rhan lawn yn eu bywyd a’u gwaith.
- Unigolion iach a hyderus a fydd yn barod i fyw bywyd boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
- Dinasyddion deallus a moesegol a fydd yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Pwrpas ein system addysg yw rhoi i blant a phobl ifanc y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y byd modern. Mae’r cwricwlwm newydd sy’n cael ei ddatblygu gennym yn adlewyrchu hyn.
“Pleser o’r mwyaf i mi yw cyhoeddi 25 o Ysgolion Arloesi ychwanegol o bob cwr o Gymru. Bydd y rhain yn greiddiol i’r broses o gynllunio’r cwricwlwm newydd. Mae’r gweithlu addysg yn rhan ganolog o lunio system addysg ar gyfer y dyfodol.”
Y cam diweddaraf yn natblygiad y cwricwlwm yw edrych ar y chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd; y celfyddydau mynegiannol, iechyd a llesiant, y dyniaethau, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mathemateg a rhifedd, gwyddoniaeth a thechnoleg.
Bydd hyn yn ychwanegu at y gwaith a wnaed yn datblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’r gwaith ar egwyddorion cynllunio strategol, addysgeg ac arferion yn ogystal â gweithgarwch i lunio’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd.