Bu’r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn ymweld ag Ysgol Gynradd Llanyrafon yng Nghwmbrân i gyhoeddi enw enillydd ei gystadleuaeth Cerdyn Nadolig.
Cafwyd bron i 800 o gardiau yn y gystadleuaeth eleni, gan ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4 ledled Cymru.
Yr enillydd yw Luca Tahanha, disgybl yn Ysgol Gynradd Llanyrafon. Roedd y llun ar y cerdyn wedi ei dynnu â llaw, ac yn dangos Sïon Corn yn hedfan dros y Senedd, cartref y Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Dewiswyd y llun gan y Prif Weinidog a bydd yn cael ei ddefnyddio fel ei Gerdyn Nadolig Swyddogol yn 2017. Bydd y cerdyn yn cael ei anfon at bobl ledled Cymru a thros y byd.
Yn ystod ei ymweliad cyflwynodd y Prif Weinidog gopi o’r llun wedi’i lofnodi a’i fframio i Luca, ac yna cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yn yr Ysgol.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Roeddwn wedi rhyfeddu at y cannoedd o luniau a ddaeth ar fy nesg i yn sgil y gystadleuaeth eleni. Roedd rhywbeth am lun Luca a ddaliodd fy llygaid. Dwi’n siŵr y bydd llun o Santa yn gwibio trwy’r awyr uwchben adeilad nodweddiadol y Senedd yn destun sgwrs yn nhai pob un sy’n rhoi’r cerdyn ar y silff ben tân eleni.
“Hoffwn ddiolch i bawb am roi tro arni eleni a Nadolig Llawen iawn i chi i gyd.”
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Llanyrafon, Mr Wayne Jones:
“Roeddwn wrth fy modd pan ges i wybod bod Luca wedi ennill y gystadleuaeth. Rwy’n gwybod bod pob disgybl wedi cael hwyl yn cymryd rhan. Roedden ni mor falch o gael y cyfle i groesawu’r Prif Weinidog i’n hysgol.”