Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr:   WGC 013/2024

Dyddiad cyhoeddi:   09/01/2025

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Cyhoeddi Datganiad am y Weithdrefn Ymchwilio

Issued by:    Kevin Davies, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheolaeth Adeiladu

Wedi'i gyfeirio at:   

Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Adrannau Rheolaeth Adeiladu’r Awdurdodau Lleol
Cymdeithas y Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd

Crynodeb:

Diben y cylchlythyr hwn yn rhoi gwybod ichi bod Datganiad am Weithdrefn Ymchwilio wedi cael ei gyhoeddi o dan A58Z3 o Ddeddf Adeiladu 1984.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:

Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il Lawr
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Llinell Uniongyrchol:    0300 060 4400
E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.wales
Gwefan: building and planning

Cyflwyniad

1.    Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i dynnu'ch sylw at y ffaith bod Datganiad am Weithdrefn Ymchwilio wedi'i gyhoeddi ar llyw.cymru.

2.    Diben y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at y ddogfen honno ac esbonio'i phwrpas.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

3.    Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru. 

Datganiad am y weithdrefn ymchwilio

4.    O dan adran 58Z3(2) o Ddeddf Adeiladu 1984, rhaid i'r awdurdod rheoleiddio baratoi a chyhoeddi datganiad am y weithdrefn y bydd yn ei dilyn wrth ymchwilio i awdurdod neu gymeradwywr o dan yr adran honno (rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys cyfle i'r awdurdod neu'r apelydd gyflwyno sylwadau).

5.    Mae'r datganiad wedi cael ei baratoi ac wedi'i gyhoeddi ar llyw.cymru, ac mae'n amlinellu'r broses y byddwn yn ei dilyn pan fyddwn yn dod i wybod am sefyllfa lle y gallai awdurdod lleol fod wedi gweithredu'n groes i'r Rheolau Safonau Gweithredol.

6.    Yn achos ymchwiliad i Gymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu, rydym wedi dynodi'r swyddogaeth honno i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR) ac mae ef wedi cyhoeddi datganiad ar gov.uk.

 

Ymholiadau

Oes oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylech ei hanfon at:
Rheoliadau Adeiladu, 
2il Lawr, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd, 
CF10 3NQ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu