Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ei ystadegau blynyddol diweddaraf ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (TTT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r datganiad ystadegol yn cwmpasu'r cyfnod o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 ac mae’n cyflwyno data yn ôl ardal ddaearyddol; gan gynnwys data awdurdodau lleol, data ar lefel etholaeth, ac yn ôl y math o drafodiad.

Ar lefel genedlaethol, mae prif uchafbwyntiau data'r datganiad yn cynnwys:

  • Cyfanswm o 68,810 o drafodiadau ar gyfer y DTT
  • £414.3 miliwn o dreth yn ddyledus am werthiannau a lesoedd eiddo a thir yng Nghymru
  • £283.7 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau preswyl, gan gynnwys £103.9 miliwn o refeniw ychwanegol a godwyd o gyfraddau uwch
  • £12.8 miliwn o ad-daliadau cyfradd uwch. Mae’r ad-daliadau eisoes wedi'u tynnu o’r ffigurau uchod ar gyfer treth sy'n ddyledus
  • £130.6 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau amhreswyl

Ar lefel awdurdodau lleol, mae’r data yn amlygu rhai amrywiadau ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl. Er enghraifft, roedd trafodiadau cyfraddau uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn amrywio rhwng 15% yn Sir Fynwy a 37% yng Ngwynedd.

Mae sawl rheswm pam y gellid codi'r cyfraddau treth preswyl uwch o dan y TTT, gan gynnwys:

  • pryniant eiddo prynu-i-osod 
  • ail gartrefi neu gartrefi gwyliau 
  • pontio rhwng dau eiddo, a 
  • phryniannau gan gwmnïau, megis darparwyr tai cymdeithasol

Oherwydd y ffordd y mae ACC yn gweinyddu TTT, ni all yr awdurdod treth ddarparu dadansoddiadau ar gyfer pob ardal lle y gellid codi cyfraddau uwch TTT; mae hyn yn cynnwys trafodiadau ail gartrefi.

Dywedodd Dyfed Alsop, Prif Weithredwr ACC:

"Rydym yn falch o gyhoeddi ein hystadegau TTT blynyddol diweddaraf, sy'n cwmpasu blwyddyn weithredol olaf ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2019 i 2022.

"Er gwaethaf heriau coronafeirws (COVID-19), rydym wedi adrodd ein bod wedi codi dros £400 miliwn mewn refeniw treth yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein data yn wybodaeth gyhoeddus y gall unrhyw un ei defnyddio. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r data hyn, ynghyd â'n gwybodaeth weithrediadol o reoli TTT, i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn ehangach i gefnogi'r gwaith o ddatblygu trethi Cymru yn y dyfodol."

Dywedodd Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Data a Dadansoddi ACC:

"Rydym wrth ein bodd bod ein hystadegau wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol yn gynharach eleni, mae'n dangos bod ein hystadegau yn bodloni'r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth.

"Bu adferiad cryf mewn trafodiadau preswyl a refeniw preswyl ers i COVID-19 daro yn 2020. Mae'r cynnydd mewn refeniw preswyl yn ystod 2021 i 2022 wedi'i ysgogi i raddau helaeth gan gynnydd mewn gwerth eiddo, ac i raddau llai, gan y cynnydd o 1% i'r holl fandiau cyfradd uwch a gyflwynwyd yn Rhagfyr 2020.

"Mae refeniw amhreswyl hefyd wedi gweld adferiad cryf ers haf 2020, gan arwain at y refeniw blynyddol uchaf erioed yn ystod 2021 i 2022. Mae'n bosibl bod patrwm newidiol o ran trafodiadau yn ystod adferiad COVID-19 yn cyfrannu at y duedd hon, a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn y dyfodol."

Mae ACC wedi diweddaru ei eglurhad ar ddefnyddio ystadegau ardal leol a phryd a pham y mae cyfraddau uwch TTT yn gymwys.