Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi cyhoeddi heddiw fod y contract terfynol ar gyfer galluogi eiddo nad oes ganddynt fynediad at fand eang ar hyn o bryd i'w gael wedi'i lofnodi heddiw gyda Openreach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y lot olaf o dan y prosiect sy'n olynu Cyflymu Cymru ar gyfer dwyrain Cymru yn galluogi 10,000 o eiddo ychwanegol i fanteisio ar fand eang mwy cyflym.

Bydd dros £9.2 miliwn o arian cyhoeddus yn cael ei neilltuo i'r gwaith hwn a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2021.

Golyga hyn, ar y cyd â'r ddwy lot a gyhoeddwyd yn yr Hydref, y bydd Openreach yn sicrhau bod modd i 26,000 o eiddo fanteisio ar fand eang cyflym a dibynadwy erbyn mis Mawrth 2021. Bydd y gost o brin i £22.5 miliwn yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru a'r UE.

Mae hyn yn ychwanegol at y 733,000 o eiddo sydd eisoes wedi elwa ar y rhaglen Cyflymu Cymru.

Ni fyddai modd i unrhyw un o'r eiddo hyn fanteisio ar fand eang mwy cyflym heb yr ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru gan nad oedd gan y farchnad unrhyw gynlluniau i sicrhau mynediad i fand eang cyflym iawn o dan eu cynlluniau masnachol nhw.

Dywedodd Lee Waters:

“Heb yr ymyrraeth yma gan y Llywodraeth ni fyddai modd i'r eiddo yma fanteisio ar fand eang mwy cyflym.  

“Er bod ein rhaglen Cyflymu Cymru wedi trawsnewid y sefyllfa o ran darpariaeth ddigidol yng Nghymru, gan sicrhau bod modd i 9 o bob 10 eiddo bellach fanteisio ar fand eang mwy cyflym, nid oes modd i rai eiddo fanteisio arno o hyd.

“Nid oes modd diwallu gofynion pob eiddo yn yr un modd ac felly bydd angen defnyddio gwahanol fesurau, gan gynnwys contract heddiw a fydd yn cyrraedd 10,000 o eiddo ychwanegol. Mae tair elfen i'n dull; cymorth unigol drwy ein cynlluniau talebau cysylltedd ABC a chyflym iawn; cymorth ar gyfer cymunedau drwy ein cynlluniau talebau ac ymyriadau a arweinir gan gymunedau; a hefyd brosesau cyflwyno sy'n defnyddio arian cyhoeddus drwy'r prosiect sy'n olynu Cyflymu Cymru.

"Mae'n broses heriol a chymhleth ond rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau mynediad i weddill yr eiddo."

Dywedodd Kim Mears, y rheolwr gyfarwyddwr ar gyfer cyflenwi seilwaith strategol:

“Mae’n bleser gennym gydweithio ato â Llywodraeth Cymru wrth i ni alluogi mwy o bobl ar draws i fanteisio ar fand eang ffeibr cyflym iawn.

“Mae ein peirianwyr eisoes wedi cyflawni prosiect peirianyddol enfawr sydd wedi sicrhau bod modd i bron i 95 y cant o gartrefi a busnesau yng Nghymru fanteisio ar gyswllt cyflym a dibynadwy. Mae hyn yn sicr yn helpu i sbarduno chwyldro digidol yng Nghymru.

“Rydym hefyd yn ymwybodol o’r ffaith na wnaeth pawb fanteisio ar Cyflymu Cymru a bydd y cam ymyrryd diweddaraf hwn lle y bydd Openreach yn cydweithio â Llywodraeth Cymru yn rhan o gyfres o  fesurau a fydd yn helpu i sicrhau bod modd i bawb fanteisio ar fand eang mwy cyflym.”