Heddiw , cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, y trethi Cymreig cyntaf ers bron i 800 mlynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd y system drethi flaengar o gymorth i bobl sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf yn ogystal â busnesau pan fydd y dreth trafodiadau tir (LTT) a'r dreth gwarediadau tirlenwi (LDT) yn cael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2018. Bydd y dreth trafodiadau tir yn disodli treth dir y dreth stamp a'r dreth gwarediadau tirlenwi’n disodli’r dreth tirlenwi. 

O dan y cyfraddau newydd ar gyfer y dreth trafodiadau tir, bydd y trothwy ar gyfer dechrau talu treth ar eiddo yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig (DU). Cymru hefyd fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cyfradd uwch newydd ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi ac i atal pobl rhag cael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon. 

Ar gyfer y dreth trafodiadau tir (LTT), bwriedir gosod y cyfraddau a ganlyn:

Cyfraddau LTT preswyl
Trothwy prisPrif gyfraddau preswyl
£0 - £150,0000%
£150,000 - £250,0002.5%
£250,000 - £400,0005%
£400,000 - £750,0007.50%
£750,000 - £1.5m10%
£1.5m ac uwch12%

Drwy gynyddu'r trothwy ar gyfer dechrau talu'r dreth, ar gyfartaledd, ni fydd prynwr tŷ am y tro cyntaf yn talu unrhyw dreth.

Bydd pob un sy'n prynu eiddo preswyl sy'n costio hyd at £400,000 yn talu'r un faint o dreth, neu lai o dreth, ag yr oedd o dan dreth dir y dreth stamp. Ar gyfartaledd, bydd prynwr tŷ yn talu bron i £500 yn llai o dreth nag o dan dreth dir y dreth stamp.

Bydd naw o bob deg sy'n prynu tŷ yng Nghymru naill ai'n talu'r un faint o dreth ag o dan y system treth dir y dreth stamp bresennol neu lai o dreth.

Bydd cyfradd uwch o dreth yn cael ei chodi ar brynwyr eiddo preswyl ychwanegol. Bydd hyn yn golygu 3% arall ar ben y brif gyfradd breswyl ym mhob band, sydd yr un fath yn union â'r system treth dir y dreth stamp bresennol.

Cyfraddau LTT amhreswyl
Trothwy prisCyfraddau
£0 - £150,0000%
£150,000 - £250,0001%
£250,000 - £1m5%
£1m ac uwch6%

Bydd y gyfradd dechrau talu treth ar gyfer prynu eiddo busnes yn is yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU. Bydd pob busnes sy'n prynu eiddo hyd at £1.1m yng Nghymru naill ai'n talu dim treth neu hyd at £1,000 yn llai o dreth nag o dan dreth dir y dreth stamp.

Cyfraddau les LTT amhreswyl
Trothwy gwerth presennol netCyfraddau
£0 - £150,0000%
£150,000 - £2m1%
£2m ac uwch2%

I adlewyrchu'r farchnad eiddo yng Nghymru, bydd y gyfradd les amhreswyl uchaf ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn gymwys o drothwy gwerth presennol net is. Yn achos pryniannau rhydd-ddaliadau a thrafodiadau sydd ag iddynt bremiymau les, rhagwelir na fydd 60% o drafodiadau trethadwy yn talu unrhyw dreth.

Ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi (LDT), bwriedir gosod y cyfraddau a ganlyn:

 2018-192019-20 (cyfradd a ragdybiwyd)
Cyfradd safonol£88.95£91.70
Cyfradd is£2.80£2.90
Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi£133.45£137.55

Ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf o'r dreth gwarediadau tirlenwi, bydd y gyfradd safonol a'r cyfraddau isaf yn parhau'n gyson â'r rheini ar gyfer y dreth dirlenwi. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau ac yn lleihau'r risg y bydd gwastraff yn cael ei symud ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y gyfradd newydd ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi wedi ei gosod yn 150% o'r gyfradd safonol.

Wrth gyhoeddi'r cyfraddau a'r bandiau newydd, dywedodd yr Athro Drakeford:

“O fis Ebrill, bydd Cymru yn cyflwyno'r trethi Cymreig cyntaf ers bron i 800 mlynedd, ac yn cefnogi pobl sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf ac yn rhoi hwb i fusnesau wrth wneud hynny.

“Mae datganoli pwerau trethu yn rhoi cyfle inni ailwampio'r trethi presennol a gwneud newidiadau er mwyn bodloni anghenion a blaenoriaethau Cymru’n well. Rydw i wedi bod yn glir bob amser y byddwn ni'n defnyddio'r pwerau hyn i helpu i sicrhau mwy o degwch a chefnogi swyddi a thwf economaidd yng Nghymru.

“Bydd y cyfraddau a’r bandiau arloesol newydd hyn ar gyfer y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl. Byddant yn helpu i newid ymddygiadau a bydd cymunedau ym mhob cwr o Gymru ar eu hennill. Rydyn ni'n mabwysiadu agwedd feiddgar ond gytbwys tuag at greu system drethi deg ac arloesol."

O dan Ddeddf Cymru 2014, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gynnig cynigion ar gyfer datblygu trethi newydd yn y meysydd sydd wedi'u datganoli.

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid restr fer o bedwar syniad ar gyfer trethi newydd - yn seiliedig ar adborth oddi wrth y cyhoedd - a fydd yn cael eu datblygu ymhellach yn ystod yr hydref.  Bydd un cynnig yn cael ei roi gerbron Llywodraeth y DU yn 2018 i roi pwerau Deddf Cymru ar brawf.

Bydd y pedwar syniad newydd a fydd yn cael eu hystyried ymhellach fel a ganlyn:

  • Treth ar dir gwag
  • Treth ar ddeunyddiau plastig untro
  • Treth dwristiaeth
  • Ardoll i gefnogi gofal cymdeithasol.

Ychwanegodd yr Athro Drakeford:

“Ym mis Gorffennaf, dechreuais sgwrs genedlaethol yn gofyn i bobl gyflwyno syniadau ar gyfer trethi Cymreig newydd posibl. Cawsom lawer iawn o ymatebion ac rydw i am ddiolch i bawb a gymerodd ran i helpu i siapio dyfodol trethi Cymreig.

“Mae'r pŵer i gynnig trethi newydd yn un pwysig – gallwn ni ei ddefnyddio i wella pethau ar ran ein cymunedau. Mae gan y pedwar syniad ar gyfer trethi newydd y potensial i wneud hynny.

“Dros y misoedd sydd i ddod, byddwn ni'n mynd ati o ddifrif i fireinio'r syniadau hyn cyn inni gynnig un syniad i Lywodraeth y DU ddechrau'r flwyddyn nesaf.”