Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynllun datgarboneiddio GIG Cymru heddiw [Dydd Mercher 24 Mawrth] i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd i sbarduno mwy o weithredu i gwrdd â her y newid yn yr hinsawdd. Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng o’r fath.

Fel rhan o hyn, atgyfnerthwyd uchelgeisiau sector cyhoeddus Cymru i gyflawni allyriadau carbon ‘sero net’ erbyn 2030 drwy amlinellu 100 o bolisïau a chynigion a sicrhau bod y newid yn yr hinsawdd yn ganolog i ddeddfwriaeth yn y dyfodol.

Mae cyhoeddiad Cynllun Cyflawni Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru heddiw yn amlinellu’r cynigion a fydd yn gofyn am newid sylweddol yn agwedd y genedl at ofal iechyd mewn rhai meysydd.

Mae’n amlinellu bron i 50 o gynlluniau a thargedau a fydd yn cael eu hasesu a’u hadolygu yn 2025 a 2030. Mae’r rhain yn berthnasol i chwe maes gwahanol:

  • Rheoli carbon
  • Adeiladau
  • Trafnidiaeth
  • Caffael
  • Rheoli ystadau a defnyddio tir
  • Agwedd at ofal iechyd

Mae £16m yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer cefnogi’r cynlluniau datgarboneiddio ar gyfer 2021-22. Mae cyllid cyfalaf wedi’i ddyrannu ar gyfer amryw o gynlluniau gan gynnwys fferm solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a mannau gwefru i gerbydau trydan.

Mae £21m ychwanegol o gyllid cyfalaf hefyd yn cael ei ddarparu yn 2021-22 ar gyfer seilwaith, diogelwch tân a phrosiectau iechyd meddwl – yn seiliedig ar flaenoriaethau a nodwyd gan sefydliadau partneriaeth.

Mae adferiad ‘gwyrdd’ hefyd yn rhan allweddol o ymateb GIG Cymru yn dilyn pandemig COVID-19 ac mae newidiadau eisoes ar y gweill mewn rhai mannau.

Mae dros 128,000 o ymgyngoriadau â chleifion wedi’u cynnal yn rhithiol, gan arbed oddeutu 521,000 o filltiroedd o deithio. Mae hynny gyfwerth â 50 taith o Gymru i Dde Cymru Newydd yn Awstralia.

Mae’r Cynllun yn helpu i lywio ystyriaethau ynghylch materion hirdymor o ganlyniad i’r pandemig, fel tlodi ac anghydraddoldebau iechyd, yn ogystal â phwysigrwydd mannau gwyrdd a natur ar gyfer buddiannau therapiwtig.

Yn ogystal, bydd mesurau datgarboneiddio yn cael eu cynnwys mewn prosiectau seilwaith mwy ar draws GIG Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

“Mae gan bawb yng Nghymru ran i’w chwarae wrth herio’r newid yn yr hinsawdd, ac yn arbennig wrth ddatgarboneiddio ein gwasanaeth iechyd. Heb os, mae dewisiadau pob un ohonom - fel unigolion, fel cleifion ac fel staff - yn cyfrannu at helpu i leihau ein cyfraniad ar y cyd i allyriadau nwyon tŷ gwydr.

“Mae’n rhaid i GIG Cymru weithredu nawr i leihau ei effaith ar yr amgylchedd, chwarae ei ran, a bod yn esiampl wrth gymryd camau i leihau allyriadau yn y dyfodol. Gyda’r pandemig yn dangos y gellir cyflawni newid cyflym ac arwyddocaol yn ein cymdeithas, y nod yn awr yw sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd gyda’r un ymrwymiad a brys.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd camau cyflym yn y pum mlynedd nesaf i sicrhau y cedwir at y targedau yn y strategaeth hon, ac mae’n rhaid i’r nod carbon isel fod yn ganolog i’r penderfyniadau. Mae angen i’r camau hyn fod yn rhan o brosesau pob dydd i’r fath raddau fel eu bod yn datblygu i fod yn ganolog i benderfyniadau GIG Cymru.”

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Andrew Goodall:

“Fel y sefydliad sector cyhoeddus mwyaf yng Nghymru, mae gan y GIG rôl bwysig, a thargedau uchelgeisiol i gyflawni targedau datgarboneiddio.
“Gwnaed cynnydd da yn y blynyddoedd diwethaf ar draws GIG Cymru ond gellir gwneud mwy. Mae’r Cynllun Cyflawni Strategol hwn yn rhoi cyfle inni edrych eto ar y defnydd o adeiladau ac ynni, yn ogystal â chaffael, teithio a ffynonellau allyriadau eraill ar draws y GIG.

“Mae mwy na 100 o arbenigwyr y diwydiant a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd wedi cyfrannu at sicrhau bod y cynllun hwn wedi’i hysbysu, wedi’i dargedu, yn gredadwy, ac yn cael effaith sylweddol ar weithrediad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn y dyfodol.”