Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynllun, gyda chymorth £100m o gyllid yn y lle cyntaf, i helpu’r system iechyd a gofal yng Nghymru i adfer ar ôl pandemig COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID:19 – Edrych Tua’r Dyfodol yn edrych ar agweddau allweddol canlynol yr adferiad:

  • lleihau anghydraddoldebau iechyd i gyflawni Cymru decach
  • datblygu gofal sylfaenol a chymunedol mwy ymatebol
  • creu gwasanaethau iechyd meddwl cefnogol
  • gwasanaethau ysbyty mwy effeithiol ac effeithlon
  • gwell cydweithio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
  • cefnogi a chreu gweithlu gwydn
  • darparu cymorth digidol hygyrch

Dywedodd Mr Gething:

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ein cleifion a’n staff. Wrth inni fynd heibio i gyfnod mwyaf difrifol y pandemig, rydym yn awr mewn sefyllfa i amlinellu sut y gallwn ddechrau adfer.

Mae’r cynllun hwn yn amlinellu egwyddorion cyffredinol ein hadferiad a bydd camau gweithredu manylach i ddilyn. Rwy’n rhyddhau £100m yn awr i gefnogi’r camau cyntaf tuag at adferiad, ond mae’n amlwg y bydd angen mwy o adnoddau i adfer yn llawn.

Bydd y daith yn un hir, ond mae’n gyfle hefyd inni drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn ein cymdeithas sydd wedi dod yn fwy amlwg yn sgil y pandemig.

Dyna pam yr wyf yn falch o gyhoeddi ein Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, ochr yn ochr â’n cynllun adfer, sy’n amlinellu sut yr ydym yn rhagweld y bydd gwasanaethau clinigol y GIG yn datblygu dros y degawd nesaf.

Mae’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol yn ymrwymiad a wnaed yn y cynllun Cymru Iachach ac mae’n disgrifio sut y gall datblygu gwasanaethau clinigol yn strategol sicrhau bod y GIG yn addas ar gyfer heriau’r unfed ganrif ar hugain. Mae’n ymateb i agweddau allweddol yr Adolygiad Seneddol ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Datganiadau Ansawdd yn cael eu cyflwyno fel sail i hyn sy’n amlinellu’r safonau a’r canlyniadau y disgwyliwn eu gweld gan wasanaethau clinigol penodol mewn rhagor o fanylder. Mae’r ddau ddatganiad ansawdd cyntaf yn ymwneud â chanser a chyflyrau ar y galon, ac yn disodli’r Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Canser a Chyflyrau ar y Galon, a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Mr Gething:

Mae’r dogfennau hyn, a ddatblygwyd gyda chlinigwyr, yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth o gael gwasanaeth iechyd modern a fydd yn gallu diwallu ein gofynion yn y dyfodol, fel y nodwyd yn ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach.

Datblygwyd llawer o dechnoleg newydd yn ystod y pandemig, a bydd y rhain yn chwarae rhan allweddol o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1.26m i sefydlu canolfan i hybu’r defnydd o dechnolegau newydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi i Technology Enabled Care Cymru hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau newydd, fel ymgyngoriadau rhithwir a monitro cleifion o bell yn eu cartrefi.

Dywedodd Prif Weithredwr y GIG, Andrew Goodall fod y system iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymrwymo i ddysgu o’r pandemig a datblygu arloesi technolegol. 

Dywedodd:

Cyn hyn, dim ond 8 y cant o ymgyngoriadau cleifion allanol oedd yn cael eu cynnal yn rhithwir, ond mae hyn wedi cynyddu i fwy na 34 y cant ers dechrau’r pandemig.

I lawer o gleifion, mae hyn yn welliant sylweddol o ran sut y maent yn cael mynediad at wasanaethau ac mae angen inni adeiladu ar hynny, gan sicrhau bod y capasiti ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb yn canolbwyntio ar bobl sydd angen cael eu gweld wyneb yn wyneb.

Heddiw hefyd, cyhoeddwyd crynodeb o astudiaeth newydd o’r arloesi technolegol a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig. Cynhaliwyd Astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 GIG Cymru i nodi’r ddysg a fydd yn galluogi, datblygu a chynnal ffyrdd arloesol a thrawsnewidiol o weithio ar draws GIG Cymru.