Heddiw (dydd Mercher 13 Mai), mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer profi’r cyhoedd a thracio lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru.
Gan gynnwys profi torfol a thechnoleg newydd i gadw golwg ar iechyd, mae’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn rhan allweddol o’r cynllun i symud i’r cam nesaf o ddelio â’r feirws.
Dywedodd Mr Gething:
Ein siawns orau o atal lledaeniad y coronafeirws yw parhau i wneud yr hyn rydym ni wedi bod yn ei wneud ers dechrau’r cyfyngiadau. Rydym ni i gyd am fynd yn ôl i fywyd arferol a llacio’r cyfyngiadau ymhellach yn ddiogel, a’r wyddoniaeth fydd yn ein harwain o ran pryd y bydd hynny’n digwydd.
Mae ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn elfen allweddol o hynny drwy ein galluogi i nodi pobl sydd â’r coronafeirws, ac ynysu cynifer o’u cysylltiadau ag sy’n bosibl, mor gyflym â phosibl.
Mae’r cynllun yn cynnwys:
- cynyddu nifer y profion i weithwyr hanfodol i’w galluogi i ddychwelyd i’w gwaith
- system newydd o brofion cartref i aelodau o’r cyhoedd sydd â symptomau
- ap newydd i dracio symptomau ymysg y cyhoedd a thracio’r cyswllt ag eraill sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf positif
Rydym wedi ehangu ein gallu i brofi yn sylweddol yng Nghymru, gyda labordai yn awr yn gallu prosesu dros 5000 o brofion y dydd, a chanolfannau profi bellach ar agor ar hyd a lled y wlad. I symud i’r cam nesaf, byddwn yn cynyddu’r gallu hwn ac yn manteisio ar gynllun newydd ledled y DU i brofi aelodau o’r cyhoedd sydd â symptomau.
Gallai hyn arwain at gymaint ag 20,000 o brofion y dydd yng Nghymru. Ond mae’r ffigur hwn yn dibynnu’n fawr ar ledaeniad y feirws, nifer yr achosion o symptomau a’r dystiolaeth ynglŷn â’r ffordd orau o ddefnyddio profion i atal haint. Byddwn yn parhau i adolygu’r dystiolaeth ac addasu ein hamcangyfrifon yn unol â hynny.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Rhaid inni ddysgu byw gyda’r feirws yn bresennol yn ein cymunedau am fisoedd lawer i ddod. Bydd rhoi’r strategaeth hon ar waith yn fodd o roi gwybod yn gyflym i bobl eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws, fel y gallan nhw yn eu tro gyfyngu ar eu cyswllt ag eraill. Bydd hyn yn ein helpu i atal heintiadau a thracio’r feirws wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.
Yn olaf, pobl Cymru yw ein partneriaid pwysicaf. Dim ond drwy eu parodrwydd nhw i wneud y peth cywir – adrodd ar eu symptomau, nodi eu cysylltiadau a gwrando ar gyngor i hunanynysu – y gallwn ni dorri’r gadwyn drosglwyddo.