Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig wedi cyhoeddi Cynllun Cyflawni pum mlynedd wedi’i adnewyddu i adeiladu ar y cynnydd cyson a gyflawnwyd hyd yma i ddileu TB gwartheg yng Nghymru.
Mae'r darlun o TB mewn gwartheg yng Nghymru yn newid drwy’r amser, ond mae'r tueddiadau pwysig, hirdymor yn dangos cynnydd da. Rhwng 2009 a Rhagfyr 2022, fe wnaeth nifer yr achosion newydd o TB ostwng 49% mewn buchesi yng Nghymru tra bod nifer yr achosion wedi gostwng 32%.
Roedd 94.7% o fuchesi heb TB erbyn diwedd Rhagfyr 2022.
Mae gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd y cynllun newydd. Mae'n pwysleisio na all y Llywodraeth yn unig ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru, heb gymorth, ymgysylltu a pherchnogaeth y diwydiant ffermio a'r proffesiwn milfeddygol.
Mae'r cynllun yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn ei le i osod trywydd i wneud cynnydd pellach tuag at Gymru Heb TB erbyn 2041.
Mae pwyntiau'r cynllun yn cynnwys:
- Cynnwys mwy o weithio mewn partneriaeth, cyd-ddylunio a chyd-gyflwyno yn y Rhaglen i greu ymddiriedaeth, chwalu gwybodaeth anghywir, grymuso ceidwaid i gymryd rheolaeth o'u sefyllfa TB a diogelu eu busnes.
- Edrych ar fanteision arddull partneriaeth drwy brosiect yn Sir Benfro a fydd yn cynnwys cydweithio ar lefel leol, grymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a dangos arweiniad ym maes rheoli clefydau.
- Trefniadau llywodraethu newydd gan gynnwys penodiad cyhoeddus Bwrdd Rhaglen a Grŵp Cynghori Technegol i'w sefydlu a fydd yn darparu arbenigedd technegol ar feysydd polisi allweddol gan gynnwys adolygiad o reoli TB mewn gwartheg cyflo.
- Cyflwyno deddfwriaeth i ailgyflwyno Profion Cyn Symud ar gyfer symud gwartheg o fewn ac o'r Ardal TB Isel.
- Ymestyn y gofyniad am Brofion Ôl-Symud yn yr Ardaloedd TB Canolradd a galluogi arddangos gwybodaeth am fuchesi heb TB ar ibTB i gefnogi ffermwyr i ddeall statws TB y gwartheg y maent am eu prynu.
- Bydd ymgysylltu ar Daliadau TB a Phrynu Gwybodus yn dechrau dros y misoedd nesaf i edrych ar opsiynau polisi gyda rhanddeiliaid a chytuno ar ffordd ymlaen, gan wneud y cysylltiadau angenrheidiol â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd gofyn i newidiadau deddfwriaethol pellach ddod â pholisïau newydd i mewn yn y meysydd hyn.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Rwy'n ymwybodol iawn o effaith TB Gwartheg ar ein cymuned ffermio a chanlyniadau emosiynol ac ariannol y clefyd hwn. Mae'n peri gofid mawr i ffermwyr sydd ag achosion yn eu buches. Dyna pam rwy'n glir bod yn rhaid i ni gynnal y momentwm ac adeiladu ar ein rhaglen helaeth o fesurau, i wneud cynnydd pellach tuag at ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru.
"Mae cynnydd da eisoes wedi'i wneud, gyda'r tueddiadau tymor hir yn dangos gostyngiad mewn achosion. Rhaid i ni adeiladu ar hyn. Fodd bynnag, ni all y Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun. Mae angen gweithio mewn partneriaeth gyda'n ffermwyr a'n milfeddygon i gyrraedd ein nod o Gymru heb TB.
"Mae'r cynllun rydw i wedi'i gyhoeddi heddiw yn amlinellu'r hyn y gallwn i gyd ei wneud gyda'n gilydd dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni. Mae'n rhaid i ni gyd uno i lwyddo i gael gwared ar y clefyd yma."
Bydd y Gweinidog yn rhoi diweddariad blynyddol ar gynnydd y Cynllun Cyflawni.